Cylch Gorchwyl: Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru
Purpose
Bydd y Gweithgor yn darparu fforwm i drafod materion etholiadol yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd swyddogion o'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a Chynrychiolwyr Rhanbarthol o Gymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol Cymru.
Bydd y grŵp yn trafod y modd y caiff etholiadau a chofrestru etholiadol eu cyflawni yng Nghymru a bydd yn cynnig cyfle i wybodaeth gael ei rhannu.
Amcanion
- darparu cyfle rheolaidd i'r Comisiwn ac AEA Cymru ddod ynghyd I drafod;
- helpu i sicrhau cysondeb a pherfformiad effeithiol cofrestru etholiadol yng Nghymru;
- helpu i sicrhau cysondeb a pherfformiad effeithiol rheoli etholiadol yng Nghymru;
- rhoi gwybodaeth am fentrau'r DU sy'n ymwneud â materion etholiadol;
- dosbarthu a thrafod canllawiau'r Comisiwn Etholiadol;
- rhannu a chytuno ar arferion da;
- gwrando ar safbwyntiau gweinyddwyr etholiadol yng Nghymru ar yr holl faterion hyn;
- sicrhau bod ymateb priodol i faterion sy'n codi ynghylch arferion etholiadol
Aelodaeth
Caiff cyfarfodydd y Gweithgor eu cadeirio ar y cyd gan Bennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a Chadeirydd AEA Cymru.
Os na fydd y naill Gadeirydd yn bresennol, dewisir cynrychiolydd i gadeirio'r cyfarfod.
Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys:
- cadeirydd AEA Cymru
- dirprwy Gadeirydd AEA Cymru
- cadeiryddion Rhanbarthol AEA Cymru
- staff y Comisiwn Etholiadol
Os na all Cadeiydd Rhanbarthol AEA fod yn bresennol, dylent benodi Dirprwy i fynd yn eu lle.
Bydd y Gweithgor hefyd yn gwahodd eraill i ddod i'r cyfarfod ar sail ad hoc er mwyn cyfrannu at drafodaethau penodol (er enghraifft cynrychiolwyr o'r trydydd sector, adrannau eraill o'r llywodraeth neu ddarparwyr masnachol).
Caiff gwaith y Gweithgor ei gydlynu â gwaith:
- Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru
- Y Grŵp Cydlynu a Chynghori Etholiadol
- Y Gweithgor Etholiadau, Refferenda a Chofrestru
- Rhwydwaith Cyfathrebu Etholiadau a Refferenda
- Bord Gron Uniondeb
- Grŵp Cynllunio Etholiadol Cymru
Cyfarfodydd
Bydd y Gweithgor yn cyfarfod rhwng tair a phedair gwaith y flwyddyn.
Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd yn swyddfeydd y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, er y gall aelodau gytuno ar leoliadau eraill. Ystyrir defnyddio
cyfleusterau fideo-gynadledda os oes modd er mwyn osgoi teithio diangen.
Y Comisiwn Etholiadol fydd yn darparu'r ysgrifenyddiaeth a hefyd drefnu dyddiad, amser a lleoliad cyfarfodydd, ynghyd â pharatoi'r agenda a'r
nodiadau. Bydd Cadeirydd AEA Cymru yn rhoi nodiadau cyfarfodydd i aelodau AEA Cymru.
Gofynnir i aelodau'r Gweithgor awgrymu eitemau ar gyfer yr agenda, a chytunir ar yr agenda cyn pob cyfarfod.
Dosberthir papurau i aelodau'r Gweithgor o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.