Cofnodion Grŵp Cynghori Deddfwriaeth Gymraeg 18 Hydref 2017

Cofnodion Grŵp Cynghori Deddfwriaeth Gymraeg 18 Hydref 2017

Dydd: Mercher 18 Hydref 2017

Pwy oedd yn y cyfarfod

  • Bronwen Morgan (Ceredigion) – BM
  • Lauren Morrison (Llywodraeth Cymru) – LM
  • Gareth Evans (Sir Ddinbych)
  • Gwynne Jones (Ynys Môn)
  • Alison O’Hara (Abertawe)
  • Sioned Wyn (Comisiwn Etholiadol) – SW

  • Rhydian Thomas (Comisiwn Etholiadol)

Cytuno ar y man cychwyn a rhaglen waith

Holodd BM beth oedd y flaenoriaeth a beth sydd yn mynd i fod yn fwyaf defnyddiol ar lawr gwlad, a lle byddai’r grŵp yn gallu bod yn fwyaf effeithiol.

Cafwyd trafodaeth a soniodd SW am restr termau’r CE, oedd wedi ei greu ar y cyd â Llywodraeth Cymru yn 2007. SW i anfon hwn at y grŵp.

Cytunwyd bod sicrhau cywirdeb a chysondeb rhwng ffurflenni ac ati’n flaenoriaeth. Felly penderfynwyd y byddai creu rhestr termau sefydlog a safonol yn fan cychwyn, ac wedyn edrych ar y ffurflenni i sicrhau eu bod yn gyson gyda’r termau.

Cytunwyd mai deddfwriaeth etholiadau’r Cynulliad y dylid craffu arno yn y man cyntaf, ac mae’r ffordd i sicrhau na fyddai unrhyw ffurflen yn cael ei cholli oedd dilyn amserlen etholiadol o gyhoeddi etholiad ymlaen yn eu trefn.

Camau Gweithredu

  • SW i anfon rhestr termau at y grŵp er gwybodaeth
  • LM i gysylltu gyda chyfieithwyr y Llywodraeth i gysoni rhestr termau’r CE gydag un y Llywodraeth - SW/LM i gydlynu ar wneud hyn, gyda’r bwriad o gael rhestr derfynol erbyn diwedd mis Tachwedd.
  • Y grŵp i greu rhestr o ffurflenni etholidau Cynulliad yn eu trefn i’w hasesu