Grŵp Cynghori’r Gymraeg: Cofnodion 15 Gorffennaf 2020
Grŵp Cynghori’r Gymraeg: Cofnodion 15 Gorffennaf 2020
Dyddiad: 15 Gorffennaf 2020
Yn bresennol
Bronwen Morgan – BM
Gethin Rowlands – GR
Morgan Owen - MO
Gareth Evans – GE
Alison O’Hara – AO
Lauren Morrison – LM
Paul Docker (Cabinet Office) – PD
Ymddiheuriadau
Glynne Morgan – GM
Gwynne Jones – GJ
Sian Williams – SW
Delyth Lloyd – DL
Carol Wyn Jones - CWJ
Croeso
Croesawyd Morgan i’r grŵp am y tro cyntaf .
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Roedd pawb yn fodlon gyda chofnodion y cyfarfod diwethaf, ac nid oedd unrhyw newidiadau.
Ffurflenni dwyieithog
Fe drafodwyd ffurflenni etholiadol dwyieithog, ac fe bwysleisiwyd pa mor ddiwyd mae Swyddogion Etholiadol wedi gweithio yn y gorffennol i sicrhau bod ffurflenni dwyieithog ar gael.
Fe gytunwyd bod angen adolygu ffurflenni (Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020), a bod angen mewnbwn ar unrhyw adborth ar y ffurflenni erbyn wythnos gyntaf mis Awst.
Cytunwyd bod angen i’r grŵp gyfarfod eto ganol fis Awst, cyn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Trafodwyd ffurflenni etholiad PCC annibynnol, a phwysigrwydd cael y rhain yn ddywieithog, a chael un set o ffurflenni y gall pob awdurdod lleol ei defnyddio.
Sylweddolwyd mai’r unig ffurflenni safonol nad ydynt ar gael yn ddwyieithog yw’r rhai ar gyfer etholiad PCC annibynnol, a gofynnwyd ai Swyddfa’r Cabinet sydd â chyfrifioldeb deddfwriaethol dros hyn.
Pwysleisiwyd cysoni’r geiriau/termau ar y ffurflenni, a bod yr Eirfa Etholiadol yno i’w defnyddio, yn enewedig gan y bydd cyfieithwyr o wahanol awudrdodau lleol yn aml yn anghytuno.
Ymunodd PD â'r sgwrs.
Pwysleiswyd yr angen i osgoi unrhyw heriau diangen.
Fe nodwyd nad oedd Swyddfa’r Cabinet yn gallu addo creu ffurflenni dwyieithog, a bod angen cadarnhau pa ffurflenni sydd eisoes ar gael yn ddwyieithog.
Gofynnwyd a yw tafodieithoedd gwahanol yn gallu bod yn broblem wrth greu ffurflenni dwyieithog, ond fe gytunodd y grŵp nad yw hyn yn broblem.
Pwysleiswyd bod angen ffurflenni rhagnodedig (“prescribed”), a bod aelodau’r grŵp wedi bod yn gofyn am y rhain ers 2012.
Nodwyd nad yw Swyddfa’r Cabinet yn ymwybodol o unrhyw ffurflenni rhagnodedig, ac yn y tymor hir efallai y gellid creu rhai, ond nid yw’n debygol y bydd rhai ar gael ar gyfer etholiadau’r flwyddyn nesaf (os bydd etholiad PCC yn digwydd yn annibynnol).
Nodwyd y byddai Swyddfa’r Cabinet yn hapus i’r ffurflenni eistedd rywle arall.
Nodwyd bod Llywdraeth Cymru a Swyddfa’r Cabinet wedi bod yn trafod etholiadau cyfun, ac nid yw Llywdroaeth Cymru â’r pŵer i greu ffurflenni safonol ar gyfer etholiad PCC annibynnol.
Cytunwyd y bydd yr Eirfa Etholiadol yn cael ei gyrru i PD.
Cytunwyd y bydd y grŵp/BM yn cysylltu gyda’r Swyddfa’r Cabinet i holi pa ffurflenni rhagnodedig sydd ar gael eisoes yn ddwyieithog.
Etholiadau 2021
Ni thrafodwyd unrhyw fater yn ychwanegol at yr uchod ynghylch etholiadau 2021.
COVID-19 a'r Canfasiad
Nodwyd bod y Canfasiad yn mynd yn ei flaen ymhlith awdurdodau lleol, ac ni chodwyd unrhyw fater arwyddocaol arall ynghylch COVID-19.
Unrhyw faterion eraill
Ni thrafodwyd unrhyw fater arall.