Grŵp Cynghori’r Gymraeg: Cofnodion 2 Medi 2019
Grŵp Cynghori’r Gymraeg: Cofnodion 2 Medi 2019
Dyddiad: 2 Medi 2019
Yn bresennol
Yn bresennol
Bronwen Morgan – BM
Gethin Rowlands – GR
Gareth Evans – GE
Alison O’Hara – AO
Ymddiheuriadau
Glynne Morgan – GM
Gwynne Jones – GJ
Sian Williams – SW
Lauren Morrison - LM
Croeso
Croesawyd Gethin i’r grŵp am y tro cyntaf.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Roedd pawb yn hapus gyda chofnodion y cyfarfod diwethaf, ac nid oedd unrhyw newidiadau.
Roedd rhai camau gweithredu angen ystyriaeth pellach:
Nid oedd y grŵp wedi derbyn ymateb gan swyddfa’r cabinet ynghylch ffurflenni a gorchymyn ffurflenni.
Nodwyd nad oedd Mailmark yn cael llawer o ddefnydd oherwydd ei fod wedi profi’n gymhleth i’w ddefnyddio.
Nid oedd y grŵp yn siŵr a oedd ymateb wedi ei dderbyn gan y Post Brenhinol ynghylch defnyddio slaes (/) i wahanu mwy nag un iaith.
Nodwyd enwau y dirprwyon, Glynis Davies a Raymond Harvey, gan GE a AO.
Nodwyd bod GE yn mynychu cyfarfod AEA ar 3 Medi 2019.
Cytunwyd bod BM am ddiweddaru’r BCEC (2 Medi 2019) gyda’r pwyntiau uchod.
Yr Eirfa Etholiadol
Trafodwyd yr Eirfa Etholiadol a chytunwyd ei bod yn werthfawr.
Nodwyd bod unrhyw eiriau a thermau yn cael eu hychwanegu pan fo angen.
Cytunwyd bydd GR yn diweddaru’r Eirfa yn rheolaidd, pob 3-6 mis.
Cytunwyd bydd awdurdodau yn cael un mis (yn ddibynnol ar unrhyw weithgareddau etholiadol posibl a fydd yn codi) i anfon sylwadau ynghylch yr eirfa at y grŵp.
Ffurflenni Etholiadol
Trafodwyd yn fyr ffurflenni etholiadol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a chytunwyd bod y gwaith yn flaenoriaeth i’r grŵp wrth symud ymlaen.
Cytunwyd y bydd hi’n fanteisiol i ymgynghori gyda’r holl awdurdodau a’r Swyddogion Canlyniadau ar eu profiad gyda ffurflenni, yn bennaf y rhai sydd yn delio gydag enwebiadau, i roi sylwadau ar unrhyw drafferthion y maent wedi eu hwynebu neu’n eu rhagweld o safbwynt dwyieithrwydd.
Yr Etholfraint
Trafodwyd yr Etholfraint a Diwygio Canfas, a nodwyd pa mor bwysig yw hi bod y grŵp yn cadw ar flaen y diwedderiadau, ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru.
Unrhyw faterion eraill
Yn dilyn ymddeoliad GJ, nodwyd bod angen enwebu Swyddog Canlyniadau newydd i’r grŵp.
Trafodwyd y cyfarfod nesaf a chytunwyd bod angen cyfarfod wyneb-yn-wyneb yn y dyfodol, mewn lleoliad sydd yn gyfleus i bawb.
Cytunwyd bod y cyfarfod nesaf yn medru cael ei gynnal ar-lein eto (neu ffôn gynhadledd), a bydd GR yn edrych am y system orau i wneud hyn.