Edrych yn ôl ar etholiadau mis Mai 2022
Summary
Ar 5 Mai, aeth pleidleiswyr ym mhedair rhan y DU i bleidleisio, gydag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ac etholiadau ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Yn dilyn yr etholiadau, rydym yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth ar sut aethant. Heddiw, rydym yn cyhoeddi adroddiadau ar ein canfyddiadau ar gyfer yr etholiadau hyn.
Felly, beth wnaethom ddysgu am sut y cafodd yr etholiadau eu cynnal, beth oedd barn pleidleiswyr ac ymgyrchwyr ar gymryd rhan, a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol?
Profiad pleidleiswyr
Bu’r ymateb gan bleidleiswyr yn hynod gadarnhaol. Dengys ein hymchwil bod y rhan fwyaf o bobl ar draws y DU o’r farn bod yr etholiadau ym mis Mai wedi’u cynnal yn llwyddiannus.
Roedd y lefelau boddhad gyda’r broses bleidleisio yn uchel iawn, gyda 95% o bleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon a Chymru, 96% yn Lloegr a 97% yn yr Alban yn dweud eu bod yn fodlon. Mae’r ffigurau hyn yn gyson gyda’r hyn y gwnaethom ganfod mewn etholiadau cymharol diweddar.
Gwnaethom hefyd ganfod bod bron pob pleidleisiwr ar draws y DU wedi dweud eu bod wedi’i ffeindio hi’n hawdd llenwi’r papur pleidleisio, gyda 95% o bleidleiswyr yn yr Alban, 97% yng Nghymru a Lloegr, a 98% yng Ngogledd Iwerddon yn dweud eu bod wedi’i ffeindio hi’n hawdd. Fodd bynnag, ym mhob adroddiad, rydym yn amlygu meysydd lle gellid gwneud gwaith pellach i ostwng rhwystrau i fynediad a gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pleidleiswyr.
Profiad ymgyrchwyr
Rhoddodd ymgeiswyr ac ymgyrchwyr a ymatebodd i’n harolygon wybod i ni eu bod wedi teimlo y gallent gyfathrebu’n effeithiol gyda phleidleiswyr, ac fel rhan o’u hymgyrchoedd eu bod wedi defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys deunyddiau argraffedig, cyfryngau cymdeithasol a chanfasio.
Yn gyffredinol, doedd dim problemau eang o ran ymgyrchu. Fodd bynnag, dywedodd nifer o ymgeiswyr wrthym eu bod wedi profi rhyw fath o broblem gyda chamdriniaeth neu fygythiadau yn ystod yr etholiadau (gan raddio hyn yn 2 neu’n uwch ar raddfa 1-5), er roedd graddau’r gofidion yn amrywio ar draws bedair rhan y DU.
Mae dadlau gadarn yn rhan hanfodol o ymgyrchoedd etholiadol, ond mae’n rhaid i hyn beidio ag arwain at fygythiadau neu gamdriniaeth a allai annog ymgeiswyr i beidio â sefyll etholiad neu ymgyrchu. Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau’r DU a'r gymuned etholiadol ehangach er mwyn deall beth sy’n achosi i ymgeiswyr gael eu cam-drin a’u bygwth, a sicrhau bod mynd i’r afael â’r broblem hon yn fater brys.
Cynnal yr etholiadau
Yn olaf, gadewch i ni edrych ar y rheiny sy’n sicrhau bod etholiadau’n gallu cael eu cynnal.
Yn gyffredinol, cafodd yr etholiadau ar draws y DU eu cynnal yn llwyddiannus, gyda dim ond nifer fach o broblemau gweinyddu prin. Fodd bynnag, mae capasiti a gwydnwch timau gweinyddu etholiadol yn dal i fod yn bryder sylweddol. Roedd staffio ac archebu lleoliadau yn broblem mewn rhai mannau, ac yng Nghymru crëwyd heriau gan y trosiant uchel o Swyddogion Canlyniadau.
Gwnaethom hefyd ganfod bod cyflwyno deddfwriaeth newydd yn hwyr yng Nghymru a chadarnhau’n hwyr y dull ar gyfer Covid-19 yng Ngogledd Iwerddon wedi cael effaith ar allu gweinyddwyr i gynllunio’n effeithiol ar gyfer yr etholiadau.
Mae eglurder cynnar ar ddeddfwriaeth yn hanfodol er mwyn caniatáu digon o amser i Swyddogion Canlyniadau a’u timau i gynllunio ar gyfer etholiadau, ac rydym yn parhau i argymell y dylai deddfwriaeth fod yn glir chwe mis cyn ei bod yn ofynnol i’r rheiny sy’n cynnal etholiadau gydymffurfio â hi neu ei rhoi ar waith.
Gan edrych ymlaen, o ystyried ystod a chwmpas y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau, bydd gweithrediad effeithiol yn dibynnu ar ddatblygiad a chyflwyniad amserol deddfwriaeth fanwl. Dylai Llywodraeth y DU wneud yn siŵr bod polisïau cael eu cyflwyno gyda chyllid priodol a digon o amser ar gyfer cynllunio a pharatoadau angenrheidiol. Bydd eglurder a sicrwydd cynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gweinyddwyr etholiadol yn gallu cynllunio a pharatoi ar gyfer etholiadau llwyddiannus yn y blynyddoedd sydd i ddod.