Hygyrchedd ar y diwrnod pleidleisio
Hygyrchedd ar y diwrnod pleidleisio
Diwrnod Pleidleisio Hygyrch
Rydym yn cefnogi Diwrnod Pleidleisio Hygyrch United Response ddydd Iau, 3 Mawrth 2022.
Nod Diwrnod Pleidleisio Hygyrch yw hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a phleidleisio. Nod y digwyddiad hefyd yw codi ymwybyddiaeth o'r rhesymau pam y mae pleidleisio ac etholiadau yn anodd i rai pobl, er mwyn helpu i wneud y broses bleidleisio'n fwy hygyrch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan ar wefan United Response.
Electoral Commission work
Ar 5 Mai bydd pleidleiswyr o bob cwr o'r DU yn bwrw eu pleidlais mewn etholiadau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac yn etholiad cyntaf y Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon ers 2017. Mae'r etholiadau hyn yn gyfle i chi ddweud eich dweud ar faterion sy'n effeithio ar eich bywyd beunyddiol, o ofal cymdeithasol i addysg a thai.
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gweithio i sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod sut i bleidleisio a sut i gymryd rhan mewn etholiadau. Er mwyn gallu pleidleisio mewn etholiadau, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru. Mae'n hawdd cofrestru i bleidleisio a gallwch wneud hynny ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw canol nos ar 14 Ebrill, a'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn yr Alban yw canol nos ddydd Llun 18 Ebrill.
Mae mwy nag un ffordd o bleidleisio yn yr etholiadau hyn – gallwch wneud hynny yn bersonol, drwy'r post neu drwy benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Mae gennych tan ddydd Mawrth 19 Ebrill i bleidleisio drwy'r post a dydd Mawrth 26 Ebrill i gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy yw dydd Mawrth 12 Tachwedd.
Bydd eich cyngor lleol yn rhoi trefniadau ar waith i'ch helpu i gadw'n ddiogel yn yr orsaf bleidleisio a bydd yn eich cynghori am unrhyw fesurau y bydd angen i chi eu dilyn pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol.
Os byddwch yn dewis pleidleisio yn bersonol, bydd nifer o fesurau hygyrchedd ar gael i'ch helpu i fwrw eich pleidlais:
- Dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy a fersiynau sampl print bras o'r papur pleidleisio, er mwyn helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall i farcio eu papur pleidleisio. Gallwch hefyd fynd â'ch ffôn gyda chi i'r bwth pleidleisio a defnyddio'r apiau chwyddwydr, tortsh neu destun-i-siarad i'ch helpu i bleidleisio.
- Gallwch ofyn i staff yr orsaf bleidleisio am help i fwrw eich pleidlais, a gallwch ddod â rhywun sy'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad gyda chi i'ch helpu.
- Gorsafoedd a bythau pleidleisio sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Dylai fod ramp i mewn/allan neu fynedfa ar wahân ym mhob gorsaf bleidleisio, fel ei bod yn hygyrch i bawb. Bydd bwth pleidleisio sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ym mhob gorsaf bleidleisio.
Dylai pawb allu bwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn hyderus. Fodd bynnag, gwyddom fod rhai pleidleiswyr anabl yn dal i wynebu rhwystrau i bleidleisio, a gallai fod ganddynt bryderon ychwanegol am gymryd rhan mewn etholiadau yn ystod y pandemig.
Mae'r Comisiwn yn rhoi canllawiau i staff orsafoedd pleidleisio i'w helpu i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i bleidleisio a'u cynghori ar yr arferion y dylent eu dilyn. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod arwyddion da ar gyfer unrhyw fynediad amgen i bobl anabl a gwybodaeth am sut i roi cymorth i bleidleisiwr y gallai fod angen help arno i farcio ei bapur pleidleisio, a bod seddi ar gael i unrhyw un y gallai fod angen iddo orffwys.
Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio gyda sefydliadau anabledd ledled y DU i greu adnoddau i helpu pleidleiswyr anabl i gofrestru a bwrw eu pleidlais yn hyderus. Er enghraifft, eleni rydym wedi gweithio gydag United Response i greu canllawiau hawdd eu darllen ar gwblhau papur pleidleisio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau yma.