Myfyrio ar etholiadau mis Mai a newidiadau sydd ar ddod

Text

Ni fyddaf byth yn edrych ar etholiadau yn yr un ffordd eto.

Ers troi'n 18 oed, rwyf wedi manteisio ar y cyfle i bleidleisio. Rwyf bob amser wedi mwynhau'r broses o fynd i'r orsaf bleidleisio, mynd allan fel teulu a stopio i siarad â chymdogion. Ond nid oeddwn wir wedi gwerthfawrogi faint o waith sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni tan eleni.

Ymunais â'r Comisiwn Etholiadol fel Prif Weithredwr ym mis Ebrill, felly rwyf nawr yn deall bod yr etholiadau ar 5 Mai yn benllanw ar fisoedd o waith cynllunio a pharatoi, nad yw pleidleiswyr yn sylwi ar lawer ohono. Gwn fod gweinyddwyr etholiadau, staff gorsafoedd pleidleisio a llawer o bobl eraill wedi gweithio'n ddiflino i helpu pleidleiswyr i gofrestru, galluogi pobl i bleidleisio drwy'r post ac mewn gorsafoedd pleidleisio, a chyfrif y pleidleisiau. Roedd yn anhygoel gweld gwaith caled ac ymroddiad pawb yn y gymuned etholiadol. Mae'r ffaith bod yr etholiadau hyn wedi'u cynnal mor ddidrafferth yn dyst i ymrwymiad y gymuned etholiadol i'r broses ddemocrataidd.

Gwyddom fod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn dda, gyda lefelau uchel o foddhad ymhlith y cyhoedd. Mae gennym hefyd un o'r systemau cyllid gwleidyddol mwyaf tryloyw yn y byd. Ond ni allwn laesu dwylo. Mae pwysau ar y system etholiadol gyfan y mae angen i ni roi sylw iddynt, o gymhlethdod cyfraith etholiadol, i'r straen a'r pwysau ar dimau gwasanaethau etholiadol. Ffocws ein blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf yw mynd i'r afael â'r pwysau hwn drwy wneud y canlynol:

  • Darparu prosesau cofrestru a phleidleisio hygyrch drwy geisio chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cofrestru neu fwrw eu pleidlais.
  • Cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfraith cyllid gwleidyddol, gan sicrhau trefniadau ymgyrchu gwleidyddol tryloyw.
  • Cefnogi gwasanaethau etholiadol cadarn, yng nghyd-destun yr heriau a'r pwysau sylweddol a wynebir gan awdurdodau lleol.
  • Gwneud yn siŵr bod y gyfraith etholiadol yn deg ac yn effeithiol, gan gynnwys rhoi deddfwriaeth a gyflwynir gan lywodraethau Cymru, yr Alban a'r DU ar waith yn effeithiol.
  • Sicrhau system etholiadol fodern a chynaliadwy, gan weithio gydag eraill i sicrhau y gall wrthsefyll newidiadau mewn cymdeithas, megis datblygiadau ym maes technoleg ddigidol.

Nod y gwaith hwn yw ennyn mwy o ymddiriedaeth a gwerthfawrogiad ymhlith y cyhoedd, ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau. Rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod y Comisiwn yn parhau i fod yn ganolfan arbenigedd a chyngor, ac fel sefydliad, byddwn yn buddsoddi yn y sgiliau a'r dechnoleg sydd eu hangen i gefnogi'r broses o gyflawni ein gwaith yn effeithiol.

Mae gennym hefyd rôl bwysig i'w chwarae i sicrhau y caiff y Ddeddf Etholiadau, a'r newidiadau a ddaw yn ei sgil, eu cyflwyno'n effeithiol. Heb os, y Ddeddf Etholiadau yw'r darn mwyaf sylweddol o gyfraith etholiadol mewn cyfnod o bron ugain mlynedd, ac mae'n cyflwyno newidiadau mawr i'r rhai sy'n darparu etholiadau, yn cymryd rhan ac yn ymgyrchu ynddynt yn y DU. Ymhlith y newidiadau hyn mae: gofyniad i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr ddangos prawf adnabod â llun arno; ymestyn y rheolau ynghylch argraffnodau i ddeunydd digidol; cael gwared ar y terfyn o 15 mlynedd ar hawliau pleidleisio i ddinasyddion y DU sy'n byw dramor; a datganiad polisi a strategaeth i'r Comisiwn.

Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff pawb rydym yn gweithio gyda nhw eu cefnogi drwy'r newidiadau hyn. Byddwn yn chwarae rôl allweddol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogi pleidleiswyr i ddeall y newidiadau sy'n berthnasol iddynt. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor a chanllawiau i'r gymuned etholiadol ar sut mae'r ddeddfwriaeth newydd yn berthnasol.

Byddwn hefyd yn disgwyl i'r Llywodraeth ddarparu'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol sy'n rhoi mwy o wybodaeth i ni am y mesurau newydd hyn.

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno darpariaeth ar gyfer Datganiad Polisi a Strategaeth i'r Comisiwn, a fydd yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer materion etholiadol, ac yn rhoi cyfeiriad strategol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae datganiad o'r fath yn nodi newid sylweddol i drefniadau atebolrwydd cyfredol y Comisiwn. Rydym yn bryderus ynghylch ei effaith bosibl o hyd.

Fel y rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol a'r corff sy'n goruchwylio etholiadau rhydd a theg, mae'n rhaid i'r ffordd rydym yn gweithio a'r penderfyniadau a wnawn barhau i fod yn annibynnol. Mae hyn yn ategu tegwch ac ymddiriedaeth yn y system etholiadol, yn ogystal â hyder y cyhoedd a grwpiau trawsbleidiau yn y Comisiwn.

Wrth i Senedd y DU ystyried y Ddeddf Etholiadau, mae pob plaid wedi nodi bod annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol yn hanfodol i ddemocratiaeth iach. Byddwn yn ystyried yr ymgynghoriad ffurfiol ar Ddatganiad arfaethedig y Llywodraeth pan fydd ar gael, a byddwn yn parhau i weithredu mewn ffordd annibynnol a diduedd er mwyn helpu i gynnal hyder y cyhoedd mewn etholiadau ledled y DU.

Edrychaf ymlaen at weithio ar draws y gymuned etholiadol dros y blynyddoedd sydd i ddod ynghylch yr agweddau hyn ac agweddau pwysig eraill ar ein prosesau democrataidd.