Pleidleisio cynnar yn yr etholiadau lleol yng Nghymru
Intro
Mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru ar 5 Mai. Byddwch yn pleidleisio dros gynghorwyr lleol i’ch cynrychioli yn eich cyngor lleol. Mae cynghorau lleol yn gwneud penderfyniadau am ystod o faterion, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden, parciau, gwasanaethau addysg a pha mor aml mae’ch sbwriel yn cael ei gasglu. Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a Phen-y-bont ar Ogwr, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i dreialu pleidleisio cynnar, cyn y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai.
Mae’r cynlluniau peilot wedi’u cynllunio i gynnig hyblygrwydd ar bryd a sut y gallwch bleidleisio, er mwyn gweld a ellir gwneud pleidleisio’n haws. Byddwn yn gwerthuso’r cynlluniau peilot ac yn adrodd ar y gwersi sydd wedi’u dysgu. Byddwn yn darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y bydd gweinyddwyr etholiadol yn gallu cyflawni’r diwygiadau’n effeithiol os byddant yn dod yn gyfraith. Bydd y gwersi sydd wedi’u dysgu hefyd yn bwysig wrth lywio sut y gellir moderneiddio pleidleisio yng Nghymru, ac yn fwy eang.
Manylion amseroedd agor a lleoliadau’r pedwar canolfan pleidleisio cynnar
Local authority | Early voting centre location | Opening times | Eligibility |
---|---|---|---|
Caerffili | Caerphilly CBC, Penallta HouseTredomen Business Park, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG | Dydd Sadwrn 30 Ebrill a Dydd Sul 1 Mai rhwng 10am a 4pm | Holl drigolion y sir |
Torfaen | Torfaen CBC, Civic Centre, Pontypool NP4 6YB | Dydd Sadwrn 30 Ebrill a Dydd Sul 1 Mai rhwng 10am a 4pm | Holl drigolion y sir |
Pen-y-bont ar Ogwr |
|
Dydd Mawrth 3 Mai a Dydd Mercher 4 Mai
|
Trigolion y wardiau hyn yng ngorsafoedd pleidleisio eu ward yn unig
|
Ysgol Gyfun Cynffig | Dydd Mawrth 3 Mai 8:30am i 4:30pm |
Myfyrwyr ysgol yn unig | |
Blaenau Gwent | Parth Dysgu Blaenau Gwent, Coleg Gwent Glynebwy, Rhodfa Calch NP23 6GL | Dydd Mawrth 3 Mai a Dydd Mercher 4 Mai 8am i 4pm | Holl drigolion y sir |
Mae holl drigolion ardaloedd awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen yn gymwys i bleidleisio mewn canolfan pleidleisio cynnar. Os ydych yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, efallai y byddwch yn gymwys i bleidleisio’n gynnar – nodwch eich cod post yn ein opsiwn chwilio i wirio a allwch bleidleisio, a ble mae’ch canolfan pleidleisio cynnar.
Er mwyn cymryd rhan yn yr etholiadau hyn, mae’n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio. Mae hyn yn gymwys os ydych am bleidleisio’n gynnar, yn ogystal ag os ydych am bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny wedi pasio erbyn hyn.
Mae ychydig o bethau y dylech gofio os ydych eisiau pleidleisio’n gynnar ym mis Mai.
- Mae’r canolfannau pleidleisio cynnar wedi’u cynllunio i wneud pleidleisio’n haws ac yn fwy cyfleus, ond does dim rhaid i chi bleidleisio ynddynt os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Byddwch yn dal i allu pleidleisio ar Ddydd Iau 5 Mai yn eich gorsaf bleidleisio arferol, neu drwy’r post neu drwy ddirprwy os byddai hynny’n well gennych.
- Nid oes angen i chi fynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio, ond gall helpu i gyflymu’r broses.
- Bydd awdurdodau lleol yn dilyn y canllawiau diweddaraf o ran iechyd cyhoeddus yn eu hardal er mwyn gwneud yn siŵr bod gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys y canolfannau pleidleisio cynnar, yn fannau diogel i bleidleisio, a byddant yn rhoi gwybod i chi am unrhyw fesurau y mae’n rhaid i chi eu dilyn.
- Efallai bydd pobl y tu allan i’r canolfannau pleidleisio cynnar a fydd yn gofyn i chi am eich profiad o bleidleisio’n gynnar. Maent yna i’n helpu i gasglu adborth er mwyn gwerthuso’r broses a rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru. Does dim rhaid i chi siarad â nhw os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
- Os nad ydych yn byw yn un o’r ardaloedd awdurdod hyn, ni fyddwch yn gymwys i ddefnyddio canolfan pleidleisio cynnar.
More info
I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau peilot, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Etholiadol perthnasol:
- Blaenau Gwent: [email protected] / 01495 355086/88
- Bridgend: [email protected] / 01656 643116
- Caerffili: [email protected] / 01443 866586
- Torfaen: [email protected] / 01495 762200