Llenwch ein ffurflen os ydych wedi gweld deunydd heb argraffnod y credwch y dylai gynnwys un ac sy’n fath o ddeunydd rydym yn ei reoleiddio.
Gallwch gysylltu â’ch heddlu lleol os yw’r deunydd nad yw’n cynnwys argraffnod yn fath o ddeunydd a reoleiddir gan yr heddlu.
Rydym yn cefnogi ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith ynghylch argraffnodau trwy ddarparu cyngor a chanllawiau, gan gynnwys ar gyfer deunydd nad ydym yn ei reoleiddio.