Canllawiau ynghylch aflonyddu a bygwth

Mae dadl wleidyddol gadarn yn rhan o ddemocratiaeth iach, ond weithiau gall pethau fynd yn rhy bell.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gan weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Comisiwn Etholiadol, wedi cynhyrchu dwy ddogfen ganllaw ar gyfer ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, i'ch helpu chi i ddeall pan fydd ymddygiad yn mynd y tu hwnt i ddadl wleidyddol ac y gallai fod yn anghyfreithlon.

Mae yna ganllaw byr o'r enw 'Pan fydd pethau'n mynd yn rhy bell' sy'n darparu cyngor cyffredinol, a 'Canllaw ar y cyd i ymgeiswyr mewn etholiadau' hirach sy'n rhoi mwy o fanylion am natur troseddau posib.

Os ydych chi'n teimlo y gallai ymddygiad tuag atoch chi fod yn anghyfreithlon neu'n poeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch eraill, dylech chi gysylltu â'r heddlu bob amser.