Canllawiau: Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
NPC welsh
Mae rhai unigolion a sefydliadau yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau, ond nid ydynt yn sefyll fel pleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr. Galwn yr unigolion a'r sefydliadau hyn yn ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Yn ôl cyfraith etholiadol, fe'u gelwir yn drydydd partïon.
Mae rheolau y mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu dilyn ar wariant ar ymgyrchu, rhoddion a chyflwyno adroddiadau. Rydym yn rheoleiddio'r rheolau hynny.