Return to The Electoral Commission Homepage

Canllawiau i Swyddogion Deisebau ar gyfer deiseb adalw

Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu llunio i helpu Swyddogion Deisebau ym Mhrydain Fawr i ymgymryd â'u rôl i weinyddu deiseb adalw. Maent yn seiliedig ar y gofynion a nodwyd yn Neddf Adalw ASau 2015 a Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 a dylid eu darllen yn unol â nhw. 

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at Swyddogion Deisebau a'r dyletswyddau y maent yn eu cyflawni. Gan fod y dyletswyddau hyn, yn ymarferol, yn gallu cael eu cyflawni gan ddirprwyon a/neu staff penodedig, rydym yn defnyddio'r term ‘chi’ i gyfeirio at y Swyddog Deisebau a phwy bynnag fydd yn cyflawni swyddogaethau'r Deisebau ar ei ran.

Yng Nghymru a Lloegr, yr un person yw'r Swyddog Deisebau â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros yr etholaeth seneddol.1  Gall fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd.2   

Yn yr Alban, yr un person yw'r Swyddog Deisebau a'r Swyddog Canlyniadau dros yr etholaeth seneddol.3  

Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘dylai’ neu ‘gall’ ar gyfer arfer a argymhellir neu pan fo disgresiwn gennych. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig yr hyblygrwydd sy'n ei gwneud yn bosibl i chi wneud trefniadau sy'n adlewyrchu anghenion penodol eich etholaeth.

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd wedi llunio canllawiau i gynorthwyo Swyddogion Deisebau wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol, y cyfeirir atynt yn y canllawiau hyn.
 

Beth yw deiseb adalw?

Cyflwynodd Deddf Adalw ASau 2015 broses sy'n nodi y bydd AS yn colli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin os bydd deiseb i'w (h)adalw yn llwyddiannus.

Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir rhoi cychwyn ar y broses adalw, sy'n digwydd pan fydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn hysbysu'r Swyddog Deisebau bod yr amodau adalw wedi cael eu bodloni. 

Mae deiseb adalw yn gofyn i etholwyr a ydynt am i'w AS golli ei sedd. Pan fydd y ddeiseb wedi agor, bydd ar gael i'w llofnodi am chwe wythnos.

Pan ddaw cyfnod y ddeiseb i ben, os bydd o leiaf 10% o'r etholwyr seneddol yn yr etholaeth wedi llofnodi'r ddeiseb, bydd yr AS yn colli ei sedd a chaiff is-etholiad ei alw. Gall yr AS sy'n destun adalw sefyll yn yr is-etholiad.

Os na cheir y nifer gofynnol o lofnodion pan ddaw'r cyfnod llofnodi i ben, mae'r ddeiseb yn methu ac mae'r AS yn aros yn ei swydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Agor deiseb adalw

Bydd y Swyddog Deisebau yn agor deiseb adalw os bydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn ei hysbysu am y canlynol mewn perthynas ag AS:

  • mae wedi cael ei (h)euogfarnu o drosedd yn y DU ac wedi cael ei (d)dedfrydu neu gorchmynnwyd iddo/iddi gael ei garcharu/charcharu neu ei gadw/chadw yn y ddalfa (gan gynnwys dedfryd wedi'i ohirio)
  • gorchmynnwyd iddo/iddi gael ei gadw neu ei chadw'n gaeth, heblaw am resymau o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yn unig.
  • mae wedi cael ei (g)wahardd o Dŷ'r Cyffredin am ddeg diwrnod eistedd neu 14 diwrnod calendr, neu 
  • mae wedi cael ei (h)euogfarnu o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar gyfer hawliadau lwfans o dan Ddeddf Safonau Seneddol 20091

Yn achos euogfarn, ni chaiff y ddeiseb adalw ei hagor oni fydd y cyfnod apelio wedi dod i ben heb i'r euogfarn, y ddedfryd neu'r gorchymyn fod wedi cael eu gwrthdroi neu heb i bob apêl gael ei chlywed a'i gwrthod.

Rhaid i'r Llefarydd hysbysu'r Swyddog Deisebau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod un o'r amodau wedi cael ei fodloni. Rhaid i hysbysiad y Llefarydd bennu: 

  • y dyddiad y'i rhoddwyd
  • pa un o'r amodau adalw wedi cael ei fodloni
  • yn achos yr amod cyntaf, y drosedd y mae'r AS wedi cael ei (h)euogfarnu yn ei chylch2  

Pan na fydd deiseb adalw yn cael ei hagor

Ni fydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn hysbysu'r Swyddog Deisebau ac ni chaiff deiseb adalw ei hagor:

  • os yw sedd yr AS eisoes yn wag
  • os yw deiseb adalw eisoes yn cael ei chynnal mewn perthynas â'r AS, neu
  • os yw'r dyddiad olaf posibl ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU o fewn y 6 mis nesaf3  
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Rolau a chyfrifoldebau

Swyddog Deisebau

Yng Nghymru a Lloegr, yr un person yw'r Swyddog Deisebau â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros yr etholaeth seneddol.1 Gall fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd.2   

Yn yr Alban, yr un person yw'r Swyddog Deisebau a'r Swyddog Canlyniadau dros yr etholaeth seneddol.3

Eich rôl fel Swyddog Deisebau yw:

  • derbyn yr hysbysiad gan y Llefarydd 
  • dynodi mannau llofnodi a phenodi Clercod Deiseb a Chynorthwywyr
  • agor deiseb adalw
  • hysbysu etholwyr bod deiseb adalw wedi'i hagor
  • goruchwylio'r broses o weinyddu'r ddeiseb, gan gynnwys:
    •  cyhoeddi cofrestr o etholwyr a all lofnodi'r ddeiseb 
    • hysbysu etholwyr am y ddeiseb
    • anfon a derbyn taflenni llofnodi drwy'r post
    • goruchwylio'r broses o ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol a'u storio
    • cyfrif taflenni llofnodi
  • cyhoeddi’r canlyniad, yn cynnwys hysbysu'r Llefarydd 
  • anfon dogfennau ymlaen at y swyddog cofrestru (neu, yn yr Alban, eu cadw) i'w storio a'u gwaredu'n ddiogel
  • derbyn ffurflenni rhoddion a gwariant a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio

Fel yn eich rôl fel Swyddog Canlyniadau, fel Swyddog Deisebau, rydych yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â thorri dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu, os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig, heb achos rhesymol, yn euog o unrhyw weithred neu anwaith sy'n torri dyletswydd swyddogol byddwch chi (a/neu eich dirprwyon) yn atebol i dalu dirwy ar ôl euogfarn ddiannod.4

Rhaid i chi hefyd ystyried hygyrchedd i etholwyr mewn mannau llofnodi. Mae ein canllawiau ar gymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl yn rhoi rhagor o wybodaeth.  

Swyddog Cofrestru Etholiadol

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol.5  Hyd yn oed os mai'r un person yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol â'r Swyddog Deisebau, mae'n ymgymryd â swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol yn ôl y gyfraith. 

Pan fydd etholaeth seneddol yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, mae'n bosibl y bydd mwy nag un Swyddog Cofrestru Etholiadol y bydd angen i'r Swyddog Deisebau gydgysylltu â nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Swyddog Cofrestru Etholiadol mewn deiseb, gweler ein canllawiau cynllunio

Y Comisiwn Etholiadol

Rôl y Comisiwn Etholiadol yn y broses yw:

  • rhoi cyngor a chanllawiau er mwyn helpu pobl i ddeall y rheolau
  • os bydd angen, gwneud cais i'r llys am i roddion nas caniateir gael eu fforffedu, 
  • cyhoeddi adroddiad ar unrhyw faterion yn ymwneud â gweinyddu deiseb adalw a'r fframwaith ar gyfer gwariant ar ymgyrchu a rhoddion yn y digwyddiadau hyn
     


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Planning for a recall petition

This section contains guidance on how to develop your plans for a recall petition, including incorporating considerations for recall petitions into your routine planning for elections. 

It also contains guidance on the venues required for key processes and the staffing and training that will be needed.

Delivering a recall petition will bring with it its own particular challenges. Your work to deliver a well-run petition will come under considerable scrutiny – from campaigners, electors and the media, including through social media. Therefore, having robust plans in place are crucial to ensure you are able to deliver a well-run petition.  

The same general planning assumptions can be applied as for an election. Your project plan should include the deliverables and tasks necessary for the administration of the petition. Your plan should also identify the resources required to carry out the petition. 

As at elections, you should establish a project team to support you, and prepare a schedule of meetings which can be used to allocate tasks and monitor progress. 

Your plan should cover contingency planning and business continuity arrangements, and you should also identify risks and mitigations in a risk register, which should be kept under review. 

You should also plan how you will liaise with the relevant ERO(s) to obtain relevant registration and absent voter data from them. More information is set out in our guidance for liaising with EROs.

You should also consult the fees and charges set out in the Recall Petition (Petition Officers' Charges) Regulations and reconcile projected costs for activities against the available budget.


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Ystyriaethau cynllunio cynnar

Oherwydd natur deiseb adalw, nid yw'n debygol y bydd gennych lawer o amser i gynllunio ar gyfer ei chynnal; felly, dylech ystyried sut y gallwch gynnwys rhywfaint o'r canlyniadau allweddol i'w cyflawni mewn deiseb yn eich cynlluniau arferol, eich adolygiad o weithgareddau etholiadol a'ch adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio. 

Er enghraifft, ar ôl etholiad, pan fyddwch yn gwerthuso'r staff a ddefnyddiwyd mewn gorsafoedd pleidleisio, gallech sefydlu pwy fyddai'n gallu gweithio am gyfnodau hwy, a hefyd ar fyr rybudd.

Dylech hefyd sicrhau bod eich cynlluniau cyffredinol wrth gefn yn cynnwys trefniadau ar gyfer cynnal deiseb adalw yn eich etholaeth.

Lleoliadau

Dylech fynd ati'n rhagweithiol i nodi lleoliadau posibl ar gyfer mannau llofnodi, gan ystyried y canlynol:

  • hyd y cyfnod llofnodi – gan fod angen i fannau llofnodi fod ar gael am y cyfnod chwe wythnos llawn
  • os byddwch yn penderfynu ymestyn y cyfnod llofnodi i nosweithiau a phenwythnosau, bydd hefyd angen i'r lleoliadau fod ar gael ac yn hygyrch ar yr adegau hynny
  • y cyfnod rhybudd byr rhwng cadarnhau dyddiad y ddeiseb a dechrau'r cyfnod llofnodi
  • yr angen am breifatrwydd yn enwedig o ystyried ei bod yn drosedd, yn ystod cyfnod y ddeiseb, cyhoeddi datganiad a allai nodi bod unigolyn wedi llofnodi'r ddeiseb ai peidio
  • ei bod yn bosibl na fydd rhai lleoliadau am i'w safleoedd gael eu defnyddio, oherwydd natur wleidyddol deiseb adalw

Gallech hefyd ystyried lleoliadau gwahanol i'r rhai y byddwch yn eu defnyddio fel arfer mewn etholiadau ac sy'n ganolog ac yn hygyrch, fel siopau a banciau. 

Byddai'n arfer da cynnwys addasrwydd lleoliadau i'w defnyddio fel mannau llofnodi pan fyddwch yn cynnal eich adolygiad o orsafoedd pleidleisio ar ôl etholiad ac yn eich adolygiad o ddosbarthiad pleidleisio statudol a mannau pleidleisio.

Os bydd eich meddalwedd etholiadol yn caniatáu, gallech drefnu deiseb brawf, lle gallwch ddynodi gorsafoedd pleidleisio fel mannau llofnodi er mwyn ymgyfarwyddo â'r broses hon.

Sicrhau bod lleoliadau yn hygyrch

Fel rhan o'ch adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol, dylech fod wedi cynnal gwerthusiad o hygyrchedd y lleoliadau a ddefnyddiwyd. Dylai canlyniadau hyn gael eu defnyddio i lywio eich gwaith o nodi lleoliadau addas a sicrhau y gellir goresgyn unrhyw rwystrau hysbys o ran mynediad.  Bydd angen i chi asesu unrhyw leoliadau newydd rydych yn ystyried y gellid eu defnyddio fel mannau llofnodi, nad ydynt yn fannau pleidleisio dynodedig, i sicrhau bod y lleoliadau'n hygyrch i bob etholwr.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi rhoi pobl anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.1 Dylech weithio'n agos ag arbenigwyr ar fynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl anabl er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd. Dylai'r swyddog cydraddoldebau yn eich awdurdod lleol roi cyngor a chymorth i chi.    Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau allu helpu etholwyr anabl i bleidleisio.

Staffio

Er mwyn paratoi ar gyfer defnyddio staff ar gyfer deiseb adalw, mae nifer o gamau gweithredu y gallwch eu hymgorffori yn eich ystyriaethau cynllunio cyffredinol:

  • wrth adolygu eich staff ar ôl etholiad, gallech sefydlu pa aelodau o staff a allai fod ar gael am gyfnod hwy
  • ewch ati'n rhagweithiol i lunio rhestr staffio o'r rheini a allai ymrwymo i gyfnodau hwy
  • gweithiwch gyda chydweithwyr rhan-amser mewnol a all gyflawni rolau staffio yn y mannau llofnodi

Cydgysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol

Chi, fel y Swyddog Deisebau, sy'n gyfrifol am lunio gofrestr y ddeiseb.2 Bydd trafodaethau cynnar â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn sicrhau y gallwch gael y wybodaeth ofynnol gan y Swyddogion Cofrestru Etholiadol mewn da bryd.

Er mai'r un person fydd y Swyddog Deisebau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd hyn yn wir yn yr Alban na lle bydd etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, felly bydd trafodaethau cynnar gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn helpu gydag unrhyw baratoadau ar gyfer deiseb adalw.

Dylai Swyddogion Cofrestru Etholiadol ymgyfarwyddo â'r gofynion ar gyfer deiseb adalw, gan gynnwys cyhoeddi hysbysiadau newid a threfniadau ar gyfer pleidlais absennol

Dylai Swyddogion Cofrestru Etholiadol weithio gyda'u cyflenwr meddalwedd System Rheoli Etholiad i ddeall y broses o gadarnhau'r gofrestr a gaiff ei defnyddio ar gyfer deiseb adalw, i'w galluogi i roi'r data perthnasol i chi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Amserlen deiseb

Rydym wedi cyhoeddi amserlen gyffredinol, sy'n cynnwys terfynau amser statudol, i'ch helpu gyda'ch gwaith cynllunio.  Mae'r amserlen wedi'i chyfrifo ymlaen o ddyddiad yr hysbysiad gan y Llefarydd.

Dylech sicrhau eich bod wedi rhoi trefniadau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i ymateb a chynnal deiseb adalw effeithiol. Pan fydd deiseb adalw yn cychwyn, bydd angen i chi adolygu eich cynlluniau a datblygu trefniadau ar gyfer amserlen a chyd-destun penodol y ddeiseb.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a'r Ddogfen Etholwr Dienw yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Staffio a hyfforddiant

Dylech nodi'r staff y bydd eu hangen a gwneud y penodiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. 

Dylech sicrhau bod trefniadau dirprwyo ar waith rhag ofn na allwch weithredu'n bersonol. Gallwch benodi dirprwyon i gyflawni eich holl gyfrifoldebau neu unrhyw rai ohonynt.1  

Rhaid i bob awdurdod lleol sy'n dod o fewn yr etholaeth sicrhau bod ei swyddogion ar gael i'ch helpu.2

Bydd angen i chi benodi: 

  • clercod deiseb a chynorthwywyr ar gyfer y mannau llofnodi3
  • staff i anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post 
  • staff i gyfrif y llofnodion
  • unrhyw staff cymorth eraill rydych wedi nodi y bydd eu hangen

Rhaid i bob aelod o'r staff gael copi o'r gofynion ynglŷn â chyfrinachedd.4  

Er mwyn sicrhau parhad, lle y bo'n bosibl, dylech ystyried cael yr un nifer o staff yn y mannau llofnodi drwy gydol y cyfnod llofnodi.

Lle na ellir cyflawni hyn, gallech ystyried system rota lle bydd yr un aelodau o staff yn gweithio ar yr un diwrnod o'r wythnos drwy gydol y chwe wythnos, er enghraifft.

Rhaid i chi beidio â phenodi unrhyw un sydd wedi cael ei gyflogi gan neu ar ran ymgyrchydd achrededig mewn perthynas â'r ddeiseb. 

Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer hyfforddi'ch staff er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'r hyn a ddisgwylir ganddynt.  Er bod rôl clerc deiseb yn debyg i rôl Swyddog Llywyddu, bydd angen i chi addasu eich hyfforddiant gorsafoedd pleidleisio i adlewyrchu gwahaniaethau ar gyfer rheoli man llofnodi ar gyfer deiseb adalw – er enghraifft, pwy sy'n gymwys i fynd i fannau llofnodi. 

Rydym wedi llunio canllaw i'r broses lofnodi ar gyfer clercod deiseb, y gellir ei ddefnyddio yn ogystal â'n llawlyfr gorsafoedd pleidleisio.

Bydd hefyd angen i chi sicrhau eich bod yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod deiseb a chynorthwywyr i'w helpu i ddeall y rhwystrau  y gall rhai pobl anabl eu hwynebu wrth fynd i fan llofnodi a sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar a ddarperir er mwyn galluogi pobl anabl i lofnodi'n annibynnol. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Lleoliadau

Dylai'ch cynllun prosiect gynnwys nodi lleoliadau addas ar gyfer pob proses, a dylech sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mor fuan â phosibl, yn enwedig ar gyfer mannau llofnodi.

Mannau llofnodi

Ni fydd angen i chi nodi cymaint o fannau llofnodi ag y byddech mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiad. Gallwch ddynodi hyd at 10 o fannau llofnodi.1 Bydd angen i chi sicrhau bod y mannau llofnodi a ffefrir gennych ar gael yn gynnar yn eich proses gynllunio oherwydd y bydd angen iddynt gael eu dynodi cyn gynted â phosibl ar ôl yr hysbysiad o'r ddeiseb.

Dylech edrych ar eich cynllun ar gyfer mannau pleidleisio rydych wedi'i ddefnyddio mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol, ac asesu eu haddasrwydd.  Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod unrhyw fannau llofnodi yn hygyrch ar gyfer pleidleiswyr anabl.

Wrth gadarnhau a ydynt ar gael, bydd angen i chi bwysleisio bod angen i'r man llofnodi fod ar gael am gyfnod o chwe wythnos a thu hwnt i'r cyfnod llofnodi craidd sef 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Yng Nghymru a Lloegr, gall ysgolion a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd, gael eu defnyddio fel mannau llofnodi am ddim.2  

Yn yr Alban, gellir defnyddio ysgolion, heb gynnwys ysgolion annibynnol, fel mannau llofnodi am ddim.3  

Mae gennych yr hawl hefyd i ddefnyddio unrhyw ystafell a ariennir yn gyhoeddus am ddim. 

Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am unrhyw gostau goleuadau, gwres ac ati yr eir iddynt wrth ddefnyddio ystafelloedd o'r fath fel mannau llofnodi. 

Lleoliadau anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post

Dylech ddefnyddio eich cynlluniau o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol wrth ddewis lleoliadau ar gyfer anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post a phenderfynu ar y nifer priodol o sesiynau i'w cynnal. 

Wrth benderfynu sawl sesiwn agor i'w chynnal dros y cyfnod, dylech ystyried bod pobl yn cael mwy o amser i ddychwelyd eu pecynnau llofnodi drwy'r post o gymharu â'r cyfnod arferol ar gyfer dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau. 

Bydd sesiynau agor rheolaidd yn eich helpu i roi cadarnhad i bobl a ydych wedi derbyn eu taflenni llofnodi a'u datganiadau4  a'ch galluogi i nodi lle mae pobl eisoes wedi dychwelyd taflen lofnodi drwy'r post, ac felly na chaniateir iddynt wneud newidiadau i'w trefniadau llofnodi absennol, hyd yn oed pan fydd hyn cyn y terfyn amser ar gyfer newidiadau

Dylai eich sesiwn agor gyntaf ddigwydd o fewn ychydig ddiwrnodau i anfon y swp cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn nifer mawr o daflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd erbyn hynny, dylech gynnal sesiwn o hyd ac achub ar y cyfle i brofi eich cyfarpar ac asesu eich llifau gwaith o dan amodau gwirioneddol. 

Dylech hefyd gynllunio ar gyfer sesiynau agor eraill yn ystod cyfnodau y disgwylir y bydd nifer mawr o daflenni llofnodi yn cael eu dychwelyd ar ôl i becynnau llofnodi drwy'r post gael eu hanfon.      

Lleoliad y cyfrif

Dylech ddefnyddio'ch cynlluniau o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol wrth ddewis lleoliadau ar gyfer cyfrif y llofnodion.  

Er bod y broses gyfrif yn symlach nag ydyw mewn etholiad, bydd angen i chi roi trefniadau ar waith i'ch galluogi i roi cyfrif cywir y mae pawb yn ymddiried ynddo. Mae ein canllawiau dilysu a chyfrif  yn cynnwys nifer o bwyntiau i chi eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y cyfrif.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Rheoli contractwyr a chyflenwyr

Pan fyddwch yn gosod y gwaith ar gontract allanol bydd angen i chi gymryd camau i sicrhau bod contractwyr a chyflenwyr yn cydymffurfio â'r holl reolau a rheoliadau perthnasol, gan gynnwys deddfwriaeth diogelu data. 

Bydd angen i chi ddilyn arferion caffael da wrth ddewis contractwyr. 

Dylech sicrhau eich bod wedi rhoi contractau ysgrifenedig ar waith, a'ch bod yn dogfennu pob cam o'r broses.  

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer rheoli contractwyr a chyflenwyr

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Preventing fraud and maintaining integrity

Members of the public and campaigners should be confident that the petition process is free from fraud. 

You will need to put plans in place to prevent electoral fraud and work with your police single point of contact (SPOC) to deal with any specific allegations or patterns of activity that might indication potation integrity problems.

There are a number of potential offences at a petition, including but not limited to:

  • Personation1
  • Signing and proxy signing offences2  
  • False application to sign by post or by proxy3  
  • False statements in absent signing4  
  • Tampering with signing sheets5
  • Interference with notices6  
  • Breaches of the secrecy requirements7  
  • Producing materials which imitate official petition notices8
  • False statements as to the MP or an accredited campaigner9  
  • Payment for displaying notices10
  • Breaches of imprint requirements11  
  • Payment of canvassers12  
  • Illegal payments13  
  • Bribery14  
  • Treating15  
  • Undue influence16
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cyfathrebiadau am y ddeiseb

Fel rhan o'ch gwaith cynllunio bydd angen i chi ystyried sut i ddelio ag unrhyw ymholiadau a godir gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, gan ystyried y bydd yr ymholiadau o natur wahanol i'r rhai a geir mewn etholiad. Dylech adolygu eich cwestiynau cyffredin mewnol. Bydd hefyd angen i chi sefydlu sut y dylid cyfeirio ymholiadau ynghyd â phroses uwchgyfeirio briodol pan fo angen.

Dylech hefyd sicrhau bod y sawl sy'n rhan o'r broses o gynnal y ddeiseb yn ymwybodol ei bod yn drosedd cyhoeddi unrhyw ragolygon am ganlyniad y ddeiseb.1

Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd

Rhaid i chi roi hysbysiadau deiseb swyddogol i etholwyr a chyhoeddi'r hysbysiadau fel y'i nodwyd yn y ddeddfwriaeth. Ceir rhagor o wybodaeth yn eich canllawiau ar gyflawni prosesau cyn y ddeiseb.  

Yn wahanol i etholiad, nid oes dyletswydd ar y Swyddog Deisebau i hyrwyddo cyfranogiad mewn deiseb adalw. Dylech ddarparu gwybodaeth ffeithiol ynglŷn â sut y gall pobl lofnodi'r ddeiseb, er enghraifft drwy sicrhau bod manylion yr hysbysiad o ddeiseb yn cael eu cyhoeddi ar eich gwefan a'u cyfleu drwy ddulliau eraill fel y gweloch yn dda.  

Ymgysylltu ag ymgyrchwyr deiseb

Bydd angen i chi baratoi i gyfathrebu ac ymgysylltu ag ymgyrchwyr deiseb.  Efallai y bydd ymgeiswyr deiseb yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn y ddeiseb.  

Gall ymgyrchwyr fod yn achrededig ai peidio. Cânt eu hachredu drwy gyflwyno hysbysiad achredu i chi a, lle y bo'n briodol, drwy benodi ‘person cyfrifol’. 2  

Unwaith y byddwch wedi cael hysbysiad achredu, rhaid i chi gyhoeddi'r manylion ynddo fel y gweloch yn dda. Rhaid i chi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gyfeiriad cartref ymgyrchwyr achrededig unigol.3  

Mae hawl gan ymgyrchwyr deisebau achrededig i gael copi am ddim o gofrestr y ddeiseb.  Nid oes gan ymgyrchwyr nad ydynt yn achrededig hawl i gael y wybodaeth hon.  Bydd angen i chi gynghori ymgyrchwyr achrededig y ddeiseb sut y gallant gael gafael ar gopïau o gofrestr y ddeiseb gennych. Dylid eu hysbysu hefyd y dylai unrhyw gais am restrau o lofnodwyr absennol gael ei gyflwyno i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.4  

Nid oes gan ymgyrchwyr deiseb yr hawl i fod yn bresennol mewn mannau llofnodi nac mewn sesiynau agor taflenni llofnodi drwy'r post. Os penderfynwch ganiatáu iddynt fod yn bresennol pan fydd y llofnodion yn cael eu cyfrif, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y trefniadau iddynt. 

Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig gyflwyno eu ffurflenni gwariant mewn perthynas â'r ddeiseb  i chi.  

Mae ein canllawiau i ymgyrchwyr deiseb adalw yn cynnwys gwybodaeth am y rheolau ynglŷn â gwariant ar ymgyrchu, rhoddion a'r broses adrodd, yn ogystal â'r defnydd o argraffnodau. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Delivery of pre-petition processes

This section covers the initial processes at a recall petition before the petition begins, including:

  • the designation of signing places
  • the start of the signing period
  • your duties to notify electors of the petition 
  • compiling the petition register, and
  • arrangements for the publication of the petition register.
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Dynodi mannau llofnodi

Unwaith y byddwch wedi derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddynodi mannau llofnodi, sef1 y mannau lle bydd y ddeiseb adalw ar gael i etholwyr cymwys ei llofnodi, yn debyg i'r ffordd mae etholwyr yn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.

Cewch ddynodi hyd at uchafswm o 10 o fannau llofnodi.2  

Wrth benderfynu sawl man llofnodi i'w ddarparu, a'r lleoliadau i'w defnyddio fel mannau llofnodi, rhaid i chi geisio sicrhau'r canlynol: 

  • mae pob person sydd â'r hawl i lofnodi'r ddeiseb adalw yn cael y cyfryw gyfleusterau rhesymol i'w llofnodi ag sy'n ymarferol o dan yr amgylchiadau, ac
  • i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol, mae pob man a ddynodwyd yn hygyrch i bobl anabl3

Fel wrth ddynodi mannau pleidleisio mewn etholiad, dylech seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sy'n ymarferol ac yn rhesymol i'r etholaeth. Er, mewn rhai ardaloedd, y gall y dewis o adeiladau ar gyfer y cyfnod chwe wythnos llawn fod yn gyfyngedig, lle bynnag y bo'n bosibl, dylech sicrhau bod mannau llofnodi wedi'u lleoli ar bellter rhesymol a'u bod mor gyfleus â phosibl i etholwyr dynodedig lofnodi yno, yn ddelfrydol gyda mynediad da i gerddwyr a'r sawl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gan mai dim ond hyd at 10 man llofnodi y gallwch eu dynodi, bydd mwy o etholwyr wedi'u dynodi i bob man llofnodi na'r hyn sy'n arferol ar gyfer etholiad. Dylech ystyried yr ardal ddaearyddol a dosbarthiad yr etholwyr yn eich etholaeth er mwyn pennu pa etholwyr a gaiff eu dyrannu i bob man llofnodi.

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd wedi cyhoeddi rhagor o ganllawiau i Swyddogion Deisebau ar y mater hwn.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Dynodi dyddiad dechrau'r cyfnod llofnodi


Unwaith y byddwch wedi derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi ddynodi'r diwrnod y bydd cyfnod llofnodi'r ddeiseb yn dechrau, sef y 10fed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y derbynnir hysbysiad y Llefarydd (neu'r diwrnod gwaith nesaf os nad yw'r diwrnod hwnnw yn ymarferol).1

Rhaid i chi sicrhau bod y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ym mhob man ar bob diwrnod gwaith drwy gydol y cyfnod llofnodi rhwng 9am a 5pm.2  

Hefyd, rhaid i chi sicrhau bod y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ar adegau eraill,3 fel gyda'r nos neu ar benwythnosau. Rhaid i'r oriau ychwanegol hyn gael eu nodi ar yr hysbysiad o ddeiseb.4 Gall yr oriau ychwanegol hyn amrywio hefyd mewn gwahanol fannau llofnodi.5

Mae nifer o faterion y dylech eu hystyried wrth benderfynu ar y manylion hyn, gan gynnwys:

  • Cwmpas yr oriau estynedig, er enghraifft: 
    • agor yn gynnar un diwrnod yr wythnos, e.e. 7am 
    • cau yn hwyr un diwrnod yr wythnos, e.e. 8pm
    • agor ar benwythnosau, e.e. bore dydd Sadwrn
  • argaeledd staff 
  • hygyrchedd adeiladau y tu allan i'r oriau agor a drefnwyd 

Dylech seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sy'n ymarferol ac yn rhesymol i'r etholaeth.

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi cyhoeddi rhagor o ganllawiau i Swyddogion Deisebau  ar y mater hwn.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Llunio cofrestr y ddeiseb

Chi, fel y Swyddog Deisebau, sy'n gyfrifol am lunio cofrestr y ddeiseb sy'n cynnwys enwau, cyfeiriad sy'n cymhwyso, a rhifau etholwyr y rhai sydd â hawl i bleidleisio yn yr etholaeth yn un o etholiadau Senedd y DU.1

Os ydych wedi dynodi mwy nag un man llofnodi, bydd angen i chi baratoi'r gofrestr mewn gwahanol rannau a neilltuo etholwyr i bob rhan yn debyg i'r ffordd y caiff etholwyr eu neilltuo i orsafoedd pleidleisio.2  

Mae gan etholwyr presennol sy'n 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiad seneddol yn etholaeth yr AS perthnasol, yr hawl i lofnodi'r ddeiseb.3

Ni fydd ceisiadau i gofrestru sy'n dod i law ar ôl hysbysiad y Llefarydd yn cael unrhyw effaith at ddibenion y ddeiseb honno. 

Bydd gan unrhyw etholwr sy'n gwneud cais ar y diwrnod y rhoddwyd hysbysiad y Llefarydd neu'r diwrnod cyn hynny, ac y bydd penderfyniad yn ei gylch cyn cyhoeddi cofrestr y ddeiseb (y diwrnod olaf) yr hawl i lofnodi'r ddeiseb.4 Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cyhoeddi hysbysiad deiseb newid ar y diwrnod olaf, sy'n manylu ar ychwanegiadau, newidiadau a dileadau sydd mewn pryd, yn ogystal ag unrhyw newidiadau o ganlyniad i orchmynion llys neu wallau clercio. 

Rhaid i'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol perthnasol roi copïau o'r gofrestr a hysbysiadau newid ar ffurf papur a data at ddibenion y ddeiseb, ac mae'r cyfyngiadau arferol ar y defnydd a wneir ohonynt yn gymwys.5  

Mae gennym ragor o ganllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ddarparu'r gofrestr i Swyddog Deisebau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban a hysbysiadau newid deiseb adalw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb

Rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb, gan nodi:

  • enw'r AS sy'n destun broses y ddeiseb
  • manylion am yr amod i adalw a fodlonwyd mewn perthynas â'r AS hwnnw
  • dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi
  • lleoliad pob man llofnodi (hyd at uchafswm o 10)
  • y diwrnodau a'r oriau pan fydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ym mhob man llofnodi
  • y personau sydd â'r hawl i lofnodi'r ddeiseb1

Ni roddir unrhyw ddyddiad yn y ddeddfwriaeth ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o ddeiseb, ond rhaid i chi ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Yn ymarferol, byddwch yn gwneud hyn cyn gynted ag y bydd y manylion gofynnol ar yr hysbysiad wedi'u pennu'n derfynol.

Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn yr etholaeth ac mewn unrhyw ffordd arall fel y gwelwch yn dda.2 Dylech sicrhau bod yr hysbysiad yn cael ei roi mewn ffordd sy'n hygyrch iawn i bleidleiswyr, megis drwy wefan yr awdurdod lleol.  

Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad o ddeiseb i'r AS dan sylw.3

Os ydych wedi cael hysbysiad achredu gan ymgyrchydd deiseb, rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus  o'r manylion ynddo fel y gweloch yn dda. Rhaid i chi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gyfeiriad cartref ymgyrchwyr achrededig unigol.4  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Hysbysiadau deiseb swyddogol

Rhaid i chi anfon hysbysiad deiseb swyddogol i etholwyr a dirprwyon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pennu'r mannau llofnodi.1  Yn ymarferol, o ystyried y wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer yr hysbysiadau, mae hyn yn debygol o fod ar ôl i'r hysbysiad o ddeiseb gael ei gyhoeddi.

Mae'r hysbysiadau deiseb yn cyfateb i gardiau pleidleisio mewn etholiadau a refferenda. Mae'r hysbysiadau wedi'u rhagnodi a rhaid iddynt gynnwys:2  

  • enw'r AS sydd wedi dod yn destun proses y ddeiseb
  • enw etholaeth yr AS hwnnw
  • amod y ddeiseb adalw a fodlonwyd mewn perthynas â'r AS hwnnw 
  • enw'r ymgeisydd, ei gyfeiriad cymwys a'i rif ar y gofrestr
  • dyddiadau cychwyn a gorffen y cyfnod llofnodi
  • sefyllfa man llofnodi deiseb yr etholwr a ddyrannwyd iddo a'r diwrnodau a'r oriau y bydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi yn y man hwnnw 
  • y rhestr o ID ffotograffig derbyniol i'w cyflwyno gan yr etholwr
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n briodol ym marn y Swyddog Deisebau

Rhaid i hysbysiadau deiseb gael eu hanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr3  neu, yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr o ddirprwyon. Rhaid i chi beidio ag anfon hysbysiad deiseb i etholwyr tramor.

Os ydych yn defnyddio contractwr allanol i reoli'r broses o gynhyrchu ac anfon hysbysiadau deiseb, dylech sicrhau eich bod wedi rhoi'r prosesau angenrheidiol ar waith i sicrhau ansawdd a rheoli'r contract,  fel y byddech ar gyfer cynhyrchu cardiau pleidleisiau mewn etholiad.   

Dylai diweddariad o'r data cofrestru o ganlyniad i ychwanegu unrhyw etholwyr at gofrestr y ddeiseb ar ôl iddi gael ei chyflwyno'n gychwynnol gael ei anfon at eich argraffwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn ei gwneud yn bosibl i hysbysiadau deiseb gael eu cynhyrchu. 

Gellir dosbarthu hysbysiadau deiseb â llaw, drwy'r post neu drwy ryw ddull arall a bennir gennych fel y dull mwyaf priodol.4  Pa ddull bynnag a ddewiswch, dylech roi trefniadau ar waith i reoli'r broses a monitro'r broses o anfon yr hysbysiadau yn debyg i'r ffordd y byddech yn trefnu i anfon cardiau pleidleisio mewn etholiad. 

Er mwyn sicrhau bod etholwyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ac mewn pryd i lofnodi'r ddeiseb, dylech sicrhau bod etholwyr yn cael hysbysiadau deiseb cyn gynted â phosibl, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael cymaint o amser â phosibl i wneud cais i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post os byddant am wneud hynny. 

Rhaid i hysbysiad deiseb etholwr dienw gael ei anfon mewn prif amlen i gyfeiriad cymwys yr etholwr neu, os nodwyd cyfeiriad gwahanol ar ei gais cofrestru, rhaid anfon yr hysbysiad deiseb i'r cyfeiriad arall hwnnw.5  

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mai 2025

Cyhoeddi'r trothwy o 10%

Heb fod yn hwyrach na'r trydydd diwrnod gwaith ar ôl derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus o'r canlynol: 

  • nifer y bobl sydd â hawl i lofnodi'r ddeiseb
  • nifer y bobl y byddai angen iddynt lofnodi'r ddeiseb er mwyn iddi fod yn llwyddiannus1  

Rhaid i chi osod yr hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn yr etholaeth ac mewn unrhyw ffordd arall fel y gweloch yn dda. 2 Dylech sicrhau bod hysbysiad yn cael ei roi mewn ffordd sy'n hygyrch iawn i bleidleiswyr, megis drwy wefan yr awdurdod lleol.

Rhaid i chi ailgyhoeddi'r wybodaeth hon ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod llofnodi, gan ymgorffori unrhyw ychwanegiadau neu ddileadau sy'n weithredol drwy hysbysiad newid.

Ceir rhagor o wybodaeth am newidiadau sy'n weithredol ar neu erbyn y dyddiad olaf, a newidiadau o ganlyniad i orchmynion llys a gwallau clercio, yn yr adran ar lunio cofrestr y ddeiseb  a chyhoeddi cofrestr y ddeiseb

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cyhoeddi cofrestr y ddeiseb

Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr y ddeiseb dri diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod llofnodi o chwe wythnos.1 Dyma'r diwrnod olaf ar gyfer cynnwys newidiadau i'r gofrestr sy'n weithredol ar gyfer y ddeiseb, fel y cawsoch wybod amdanynt gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Yna, gall newidiadau pellach i'r gofrestr o ganlyniad i orchymyn llys neu i gywiro gwall clercio gael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod llofnodi, fel y'i rhoddwyd ar yr hysbysiad o ddeiseb. Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad sy'n manylu ar unrhyw newidiadau o'r fath i'r gofrestr.2

Rhaid i chi gyflenwi cofrestr y ddeiseb ac unrhyw hysbysiadau newid am ddim ar gais i'r canlynol:3  

  • plaid gofrestredig (ac eithrio pleidiau llai)
  • yr AS y mae'r ddeiseb yn ymwneud ag ef/hi
  • y Comisiwn Etholiadol
  • gwasanaethau diogelwch a'r heddlu
  • ymgyrchydd achrededig

Mae'r cyfyngiadau arferol ar y defnydd a wneir o'r gofrestr etholiadol yn gymwys. Mae ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y defnydd o'r gofrestr etholiadol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Gweinyddu'r ddeiseb

Mae'r adran hon yn rhoi arweiniad ar gynnal y ddeiseb. Yn ymarferol, bydd llawer o'r trefniadau y bydd eu hangen arnoch i weinyddu'r ddeiseb yn debyg i'r rhain ar gyfer cynnal etholiad.

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sefydlu mannau llofnodi, y broses o ddilysu cyfansymiau dilysu yn ddyddiol a chau'r ddeiseb.

Unwaith y bydd deiseb adalw ar agor, rhaid i sicrhau ei bod ar gael i'w llofnodi am 6 wythnos o ddyddiad dechrau dynodedig y cyfnod  llofnodi.1

Gall deiseb adalw gael ei llofnodi'n bersonol yn unrhyw un o'r mannau llofnodi dynodedig, neu drwy'r post neu drwy ddirprwy.2  

Bydd angen i chi wneud trefniadau i osod y mannau llofnodi  a darparu cyfarpar a staff, yn ogystal â phobl lofnodi'r ddeiseb drwy'r post neu drwy ddirprwy
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cynhyrchu taflenni llofnodi

Mae'r taflenni llofnodi yn cyfateb i bapurau pleidleisio mewn etholiadau a refferenda. Rhagnodir ffurf y daflen lofnodi a rhaid i chi ddilyn hyn yn union.1

Rhaid i'r taflenni llofnodi gael eu hargraffu yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu, a bydd angen i chi ddilyn prosesau sicrhau ansawdd a rheoli contract yn debyg i'r hyn y byddech yn ei ddilyn wrth drefnu i argraffu papurau pleidleisio mewn etholiad.          

Rhaid i daflenni llofnodi i lofnodwyr post ac i'w defnyddio mewn mannau llofnodi fod ar yr un ffurf, ond gall y marc swyddogol fod yn wahanol os dymunir.2  

Lliw'r daflen lofnodi

Nid yw lliw'r daflen lofnodi wedi'i ragnodi, ac mae'n ofynnol i daflenni llofnodi a gyflwynwyd fod mewn lliw gwahanol i'r taflenni llofnodi arferol.3

Y ‘marc swyddogol’

Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol ychwanegu marc diogelwch priodol, y ‘marc swyddogol’, at y daflen lofnodi.4

Rhifau a nodau adnabod unigryw taflenni llofnodi

Dylid argraffu rhif unigryw (yn debyg i rif papur pleidleisio) a nod adnabod unigryw arall ar gefn pob taflen lofnodi.5  

Yn wahanol i ddogfennau a hysbysiadau eraill sy'n ymwneud â'r ddeiseb, ni chaniateir cynhyrchu'r daflen lofnodi mewn ieithoedd na fformatau eraill.6

Bydd angen i chi roi trefniadau diogelwch ar waith i atal mynediad anawdurdodedig at y taflenni llofnodi neu'r defnydd anawdurdodedig ohonynt yn ystod y broses gynhyrchu ac wrth eu storio. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Dyrannu taflenni llofnodi

Rhaid i chi ddarparu cynifer o daflenni llofnodi a all fod yn angenrheidiol, yn eich barn, i bob man llofnodi.1    

Wrth ddyrannu taflenni llofnodi i fannau llofnodi, gwnewch yn siŵr bod y rhifau ar y taflenni a ddyrannwyd i bob man llofnodi yn rhedeg yn olynol er mwyn osgoi unrhyw broblemau wrth gwblhau'r rhestr rhifau cyfatebol neu'r cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi.  

Taflenni llofnodi a gyflwynwyd

Rhaid darparu taflenni llofnodi a gyflwynwyd hefyd.2 Dylech egluro i'r clercod deiseb mai dim ond o dan amgylchiadau a ragnodwyd y dylid rhoi'r rhain. Yr amgylchiadau cyfyngedig lle mae taflenni llofnodi a gyflwynwyd yr un fath â'r rhai ar gyfer rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd mewn etholiad. Mae Atodiad 5b o'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn nodi'r amgylchiadau lle dylid rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd. 

Rhaid i daflenni llofnodi a gyflwynwyd fod mewn lliw gwahanol. Ni ddylid rhoi taflenni llofnodi a gyflwynwyd a gwblhawyd yn y blwch pleidleisio. Rhaid i glerc y ddeiseb arnodi taflen lofnodi a gyflwynwyd gydag enw'r person sy'n llofnodi'r ddeiseb a rhif y person hwnnw yn y gofrestr a'i rhoi o'r neilltu mewn pecyn ar wahân.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Trefniadau mewn mannau llofnodi

Bydd angen i chi gyflogi a hyfforddi clercod deiseb a chynorthwywyr, a rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar y gweithdrefnau i'w dilyn ar bob diwrnod llofnodi, gan gynnwys:  

  • selio blychau pleidleisio
  • rheoli mynediad i'r man llofnodi
  • y weithdrefn lofnodi
  • gwirio ID ffotograffig 
  • rhoi taflenni llofnodi arferol a thaflenni llofnodi a gyflwynwyd a rheoli thaflenni llofnodi a ddifethwyd
  • gofyn y cwestiynau rhagnodedig
  • ymdrin â gwallau clercio
  • cwblhau'r rhestr o daflenni llofnodi a wrthodwyd
  • gohirio'r ddeiseb os bydd terfysg

Yr unig bobl sy'n gallu bod yn bresennol yn y mannau llofnodi yw chi (fel Swyddog Deisebau), pobl sy'n dymuno llofnodi'r ddeiseb, plant sydd wedi dod gyda nhw, clercod y ddeiseb, cynorthwywyr penodedig, heddweision ar ddyletswydd ac unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol.1  Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Gosod mannau llofnodi

Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y caiff mannau llofnodi eu gosod drwy gadw'r etholwr mewn cof . Gallwch ddefnyddio'ch profiad a chynlluniau blaenorol ar gyfer gosod gorsafoedd pleidleisio, er mwyn sicrhau bod y cyfarpar yn cael ei osod a bod hysbysiadau yn cael eu harddangos yn briodol. Gallwch hefyd gyfeirio at y llawlyfr gorsafoedd pleidleisio i gael arweiniad ar gynllun yr orsaf bleidleisio. Dylai fod modd i etholwyr, gan gynnwys etholwyr anabl, symud drwy'r broses lofnodi yn hawdd. 

Bydd angen hefyd i chi nodi man addas o fewn y man llofnodi lle y gellir storio cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.1  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Y broses lofnodi

Mae'r broses o roi taflenni llofnodi yn debyg i'r broses ar gyfer rhoi papurau pleidleisio, gan gynnwys cadarnhau ID ffotograffig etholwyr. Bydd ein canllaw cyflym i'r broses lofnodi yn ein helpu i reoli'r broses hon.

Mae ein llawlyfr gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddelio ag ymholiadau gan etholwyr ac eraill. Gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi'r broses o reoli ymholiadau yn ystod y broses lofnodi.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cyfarpar a deunyddiau mannau llofnodi

Rhaid i chi ddarparu deunyddiau penodol ar gyfer mannau llofnodi:1  

  • Blwch/blychau pleidleisio
  • Taflenni llofnodi (gan gynnwys taflenni llofnodi a gyflwynwyd)
  • Deunyddiau sy'n galluogi etholwyr i farcio eu taflenni llofnodi 
  • Rhan berthnasol o'r gofrestr
  • Rhestrau o bleidleiswyr absennol – rhestrau o bleidleiswyr drwy'r post, pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
  • Ffurflen i gofnodi manylion etholwyr sydd wedi cael taflenni llofnodi ar ôl i wall clercio gael ei gywiro2  (y gellir ei hatodi i'r gofrestr) 
  • Y rhestr rhifau cyfatebol3
  • Fersiwn print bras o'r daflen lofnodi i'w harddangos y tu mewn i'r man llofnodi 
  • Rhestr o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd4
  • Cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi 5  a chyfrif terfynol o'r taflenni llofnodi6
  • Rhestr o daflenni llofnodi a gyflwynwyd 7
  • Rhestr o bobl ag anableddau a gynorthwywyd gan y clerc deiseb 8  
  • Canllawiau i bobl sy'n llofnodi'r hysbysiad deiseb (i'w harddangos y tu mewn i'r man llofnodi) 
  • Hysbysiad mawr yn dangos y mathau derbyniol o ID ffotograffig i'w cyflwyno wrth wneud cais am daflen lofnodi a datganiad yn nodi y gall fod angen prawf adnabod ychwanegol er mwyn datrys unrhyw anghysondeb rhwng enw'r llofnodwr ar y gofrestr etholiadol a'r enw ar y prawf adnabod a gyflwynwyd (i'w harddangos y tu mewn i'r man llofnodi)
  • Pecynnau, â seliau, y dylid gosod yr eitemau i'w diogelu / dychwelyd atoch ynddynt, yn ystod y weithdrefn ddilysu ddyddiol ac ar ddiwedd y cyfnod llofnodi, gan gynnwys unrhyw daflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd yn y man llofnodi
  • Unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi penderfynu bod ei angen i wneud y broses lofnodi yn haws ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr anabl

Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu bytha pleidleisio na chydrannau, ond gallwch wneud hynny os dymunwch. 

At hynny dylech ddarparu'r canlynol:

  • sgriniau preifatrwydd, os nad oes ystafell ar wahân ar gael er mwyn gwirio ID ffotograffig yn breifat Dylai'r Swyddog Deisebau asesu unrhyw risg ac ystyried diogelwch y staff wrth ddynodi'r ardaloedd ar wahân hyn 
  • drychau, er mwyn i bleidleiswyr sy'n tynnu eu gorchudd wyneb er mwyn cadarnhau pwy ydynt sicrhau bod eu gorchudd wyneb wedi'i osod yn gywir cyn iddynt adael yr ardal breifat
  • ffurflenni ar gyfer cael gwybodaeth am ID ffotograffig a ddarperir, fel y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
  • copi o'r gofynion ynglŷn â chyfrinachedd9  
  • amlenni, â seliau, y dylid gosod unrhyw daflenni llofnodi a roddwyd ond nas gosodwyd yn y blwch pleidleisio ynddynt
  • ffurflen neu restr i gofnodi personau a enwyd yn y rhestr o lofnodwyr drwy'r post, ond sy'n honni nad ydynt wedi gwneud cais i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post
  • papur nodiadau at ddefnydd clercod deiseb a chynorthwywyr
  • eitemau deunydd ysgrifennu fel sy'n ofynnol, e.e. clipiau papur, pinnau bawd, tac glynu, tâp selio
  • sachau plastig ar gyfer dychwelyd deunydd ysgrifennu ac offer i'r lleoliad dilysu
  • amlenni ar gyfer creu pecynnau

Fel yn achos etholiadau, dylech wneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar yn addas at y diben a bod gennych ddigon o bopeth.  Dylech sicrhau y caiff unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi'i nodi er mwyn gwneud y man llofnodi yn hygyrch ei ddosbarthu a'i osod mewn da bryd. Mae ein canllawiau ar ddarparu cyfarpar sy'n ei gwneud yn haws i bleidleiswyr anabl bleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth i'ch helpu i gynllunio.

Os oes dolen sain wedi'i gosod mewn man llofnodi, dylid ei defnyddio lle bynnag y bo modd er mwyn gwneud y broses yn hygyrch i bleidleiswyr sydd â cholled clyw. Dylid rhoi hyfforddiant i staff ynglŷn â sut i ddefnyddio'r rhain.

Bydd nifer yr etholwyr a gaiff eu dyrannu i fan llofnodi yn wahanol i'r hyn a geir mewn etholiad.  Felly, bydd yn ofynnol i chi ddarparu mwy o ddogfennaeth a deunydd ysgrifennu ar gyfer pob man llofnodi.  

Bydd hefyd angen i chi sicrhau y caiff dogfennaeth ei storio mewn modd digon cadarn i sicrhau y gellir ei defnyddio drwy gydol cyfnod y ddeiseb.  Er enghraifft, gallech gadw cofrestrau'r man llofnodi mewn ffeiliau a gaiff eu storio'n ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod.

Cofnod man llofnodi

Dylech baratoi log man llofnodi i glercod deiseb ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw broblemau neu anghysondebau. Gallai hyn gynnwys materion fel:

  • pobl a welir yn gadael y man llofnodi â thaflen lofnodi, a all achosi problemau o ran y cyfrif taflenni llofnodi
  • manylion am achosion lle maent wedi gofyn y cwestiynau rhagnodedig 
  • manylion cynhwysfawr am achosion o dwyll a amheuir megis cambersonadu
     

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Hysbysiadau man llofnodi

Mae'n ofynnol i chi baratoi'r hysbysiad ‘Canllawiau ar lofnodi'r ddeiseb’ Rhagnodir ei gynnwys a sut y bydd angen ei arddangos mewn deddfwriaeth. Rhaid iddo gael ei argraffu mewn llythrennau amlwg a'i arddangos y tu mewn i bob man llofnodi'r ddeiseb.1  

Rhaid i chi ddarparu hysbysiad yn dangos y mathau derbyniol o ID ffotograffig i'w cyflwyno wrth wneud cais am daflen llofnodi a datganiad yn nodi y gall fod angen prawf adnabod ychwanegol er mwyn datrys unrhyw anghysondeb rhwng enw'r pleidleisiwr ar y gofrestr a'r enw ar y prawf adnabod a gyflwynwyd (i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio).2   

Rhaid i chi sicrhau y caiff hysbysiadau eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformat arall, os credwch fod hynny'n briodol. Gallwch eu cynhyrchu:

  • mewn Braille
  • mewn ieithoedd heblaw Saesneg 
  • drwy ddefnyddio cynrychioliadau graffigol
  • mewn fformat sain
  • drwy ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch3
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cofrestrau a rhestrau llofnodwyr absennol   

Rhaid i chi ddarparu'r rhan briodol o'r gofrestr i bob clerc deiseb ar gyfer ei fan llofnodi a rhestrau llofnodwyr absennol priodol.1

Dylai clercod deiseb a chynorthwywyr fod wedi cael hyfforddiant ar y gwahanol farcwyr etholfraint a fydd yn ymddangos ar y gofrestr – mae gan etholwyr a all bleidleisio mewn etholiad seneddol yr hawl i lofnodi'r ddeiseb.

Dylech sicrhau bod pob cofrestr argraffedig wedi'i gwirio er mwyn sicrhau ei bod yn gyflawn, yn adlewyrchu unrhyw beth sydd wedi'i ychwanegu at y gofrestr neu ei ddileu ohoni yn ddiweddar, a bod yr argraffnodau etholfraint priodol yn eu lle.  

Dylech roi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i gofrestrau a rhestrau o ddirprwyon ar ôl iddynt gael eu hargraffu sy'n deillio o newidiadau o ganlyniad i gywiro gwallau clercio neu benderfyniadau llys a chymeradwyo ceisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng. Dylech hefyd sefydlu dull o gyfleu'r wybodaeth berthnasol i glercod deiseb gan gynnwys y broses i'w dilyn, gan gwmpasu sut y dylent gofnodi enwau a rhifau etholwyr unrhyw rai y rhoddwyd taflen lofnodi iddynt yn dilyn newid hwyr i'r gofrestr.   
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Corresponding number lists

You must provide a corresponding number list for each signing place.

The list must be in the form set out in the regulations and contain the signing sheet numbers and a column to add the elector numbers of people to whom a signing sheet is issued.1    

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Signing sheet refusal list

You must provide each signing place with a document that captures information relating to the voter identification requirements.

The signing sheet refusal list is used throughout the signing period to capture and record the number of signing papers refused on the grounds:

  • The photographic ID was not a good likeness
  • The petition clerk believed the photographic ID was a forgery
  • The elector failed to answer the prescribed questions satisfactorily

The signing sheet refusal list needs to be updated if an elector later returns with an acceptable form of photographic ID.

The Petition Officer should also use the Voter Identification Evaluation Form (VIDEF) in the signing stations to support the collection of accurate data relating to voter ID.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Pecynnau ar gyfer taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd i fannau llofnodi 

Caiff y rhai sydd wedi gwneud cais i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post ddychwelyd eu taflen lofnodi drwy'r post yn bersonol mewn unrhyw fan llofnodi cyn diwedd y cyfnod llofnodi.1

Dylech ddarparu pecynnau a seliau i staff mewn mannau llofnodi ar gyfer unrhyw daflenni llofnodi drwy'r post a dderbyniwyd yn y fath fodd a rhoi trefniadau ar waith i'w hanfon atoch, neu i'w casglu o'r man llofnodi pan ddaw cyfnod y ddeiseb i ben.2   

Dylech hefyd roi mesurau ar waith i anfon neu gasglu taflenni llofnodi drwy'r post a dderbyniwyd yn rheolaidd drwy gydol y cyfnod llofnodi, er mwyn hwyluso'r sesiynau agor a gwirio rheolaidd

Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gadw cofnodion clir a thrywydd archwilio a sicrhau diogelwch pecynnau llofnodi drwy'r post ar bob cam o'r broses o'u storio a'u cludo.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Dilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol a'u storio

Ar ddiwedd pob diwrnod yn ystod y cyfnod llofnodi o chwe wythnos1 pan fydd y ddeiseb ar agor, rhaid i'r blwch pleidleisio ar gyfer pob man llofnodi gael ei agor a rhaid cyfrif ei gynnwys. 2   

Rhaid i chi roi trefniadau ar waith i ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol, a all gael ei wneud naill ai:

  • gan y Clerc Deiseb yn y man llofnodi, yn unol â'ch cyfarwyddyd, neu 
  • gennych chi, ar ôl i'r blwch pleidleisio a deunyddiau eraill gael eu cludo i leoliad canolog 

Yr unig bobl a all fod yn bresennol yn ystod y broses ddilysu yw chi, clercod deiseb, cynorthwywyr penodedig ac unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol.3 Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.

Mae'r broses ddilysu yn golygu torri sêl y blwch pleidleisio, gwagio ei gynnwys a chyfrif nifer y taflenni llofnodi ynddo. Rhaid cwblhau cyfrif taflenni llofnodi dyddiol, sy'n nodi nifer y taflenni llofnodi a roddwyd, y nifer nas rhoddwyd, a nifer y taflenni llofnodi a ddifethwyd ac a gyflwynwyd.

Os ydych wedi cyfarwyddo'r Clerc Deiseb i ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol yn y man llofnodi, rhaid i chi sicrhau bod person arall a benodwyd gennych yn bresennol yn ystod y weithdrefn. Os nad yw person a benodwyd ar gael, rhaid i'r blwch pleidleisio a'r cyfrifon taflenni llofnodi gael eu cludo i chi er mwyn i'r broses gael ei chynnal yn ganolog.  

Os bydd y Clerc Deiseb yn nodi unrhyw anghysondebau rhwng nifer y taflenni llofnodi yn y blwch pleidleisio a'r nifer a roddwyd, rhaid iddo roi gwybod i chi am yr anghysondeb ar unwaith.4  

Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i'ch clercod deiseb am storio'r deunyddiau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod llofnodi a/neu eu cludo'n ddiogel.5   

Pan fydd y blwch pleidleisio a deunyddiau eraill yn cael eu hanfon atoch er mwyn dilysu'r taflenni llofnodi, rhaid i chi gadw'r taflenni llofnodi a ddilyswyd yn ddiogel tan ddiwedd y cyfnod llofnodi. 

Os caiff y taflenni llofnodi eu hanfon atoch ar ddiwedd pob diwrnod, rhaid i chi baratoi a selio pecynnau ar wahân o'r canlynol:

  • y taflenni llofnodi a ddilyswyd 
  • y taflenni llofnodi a ddifethwyd
  • y taflenni llofnodi a gyflwynwyd

Rhaid i chi sicrhau bod y cyfrif dyddiol o'r taflenni llofnodi a gwblhawyd a deunyddiau eraill yn cael eu dychwelyd i'r man llofnodi fel y bo modd llofnodi'r ddeiseb drannoeth.6
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cau'r ddeiseb

Chi sy'n pennu diwedd y cyfnod llofnodi a'r amser cau ar gyfer gorsafoedd llofnodi a rhaid i hyn gael ei nodi ar yr hysbysiad o ddeiseb

Caiff pobl sydd, ar ddiwedd y cyfnod llofnodi, yn eu man llofnodi dynodedig, neu mewn ciw y tu allan i'w man llofnodi,1 er mwyn llofnodi'r ddeiseb, ofyn am daflen lofnodi.  Bydd angen i chi fod yn barod i ymdrin ag unrhyw giwiau pe baent yn codi. 

Mae'r broses ar gyfer cau'r ddeiseb ar ddiwedd y cyfnod llofnodi yn debyg i'r broses ar gyfer cau'r pleidleisio mewn etholiad, a gall canllawiau yn y llawlyfr gorsafoedd pleidleisio  helpu staff i reoli'r broses hon yn ymarferol. 

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid i glerc y ddeiseb, ym mhresenoldeb person arall a benodwyd gennych chi, baratoi a selio pecynnau ar wahân o'r dogfennau canlynol:

  • Taflenni llofnodi a gyflwynir yn y man llofnodi ac a gaiff eu hadalw o'r blwch pleidleisio fel rhan o'r broses ddyddiol o ddilysu
  • Taflenni llofnodi nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd (wedi'u gosod gyda'i gilydd
  • Taflenni llofnodi a gyflwynwyd
  • Copïau wedi'u marcio o'r gofrestr a rhestrau dirprwyon
  • Rhestr rhifau cyfatebol 
  • Rhestr o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd
  • Tystysgrifau cyflogaeth

Rhaid i glerc y ddeiseb hefyd gofnodi nifer y taflenni llofnodi a roddwyd ar gyfer y man llofnodi, gan gynnwys:

  • Sawl taflen lofnodi a roddwyd ac a lofnodwyd
  • Sawl taflen lofnodi a ddifethwyd
  • Sawl taflen lofnodi a gyflwynwyd a roddwyd.

Rhaid i glerc y ddeiseb roi'r canlynol i chi (neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi gan berson cymeradwy):

  • Y pecynnau wedi'u selio
  • Y cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi
  • Y cyfrif terfynol o'r taflenni llofnodi

Dylech roi cyfarwyddiadau i'ch clercod deiseb ynglŷn â'r prosesau i'w dilyn pan fydd y ddeiseb yn cau. Dylai'r rhain ymdrin â sut i gwblhau a selio'r pacecynnau o ddogfennau, a sut i gwblhau'r cyfrif terfynol o daflenni llofnodi.2   

Dylech hefyd baratoi pecynnau lle mae dogfennau wedi cael eu hanfon atoch fel rhan o broses ddilysu ddyddiol ganolog. 

Ceir rhagor o wybodaeth am storio a gwaredu dogfennau deiseb yn yr adran Storio a gwaredu dogfennau
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Terfynu deiseb adalw yn cynnar 

Bydd cyfnod chwe wythnos y ddeiseb yn cael ei derfynu'n gynnar:

  • os bydd Senedd y DU yn cael ei diddymu cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU,1 neu
  • os bydd sedd yr AS yn mynd yn wag am unrhyw reswm arall (fel ymddiswyddiad), neu
  • os caiff euogfarn, dedfryd o garchar neu orchymyn cadw'n gaeth yr AS ei (g)wrthdroi

Bydd y Llefarydd yn hysbysu'r Swyddog Deisebau y bydd y Ddeiseb yn cael ei therfynu'n gynnar.

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Swyddog Deisebau gael hysbysiad o'r fath rhaid iddo wneud y canlynol:

  • cymryd y camau angenrheidiol i derfynu'r broses o lofnodi'r ddeiseb 
  • os caiff hysbysiad y Llefarydd ei dderbyn ar ôl i'r taflenni llofnodi drwy'r post gael eu hanfon, ni ddylai barhau i agor y prif amlenni a dylai drin y prif amlenni sydd heb eu hagor fel pe baent yn daflenni llofnodi sydd wedi cael eu cyfrif2  
  • rhoi hysbysiad cyhoeddus y bydd proses y ddeiseb yn cael ei therfynu3

Rhaid i hysbysiad cyhoeddus y Swyddog Deisebau y bydd y ddeiseb yn cael ei therfynu'n gynnar gynnwys:4  

  • enw ac etholaeth yr AS yr oedd y ddeiseb yn ymwneud ag ef/hi
  • yr amod adalw a fodlonwyd mewn perthynas â'r AS hwnnw
  • dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi ar gyfer y ddeiseb honno
  • yr amod terfynu a fodlonwyd

Rhaid i'r Swyddog Deisebau yng Nghymru a Lloegr anfon y dogfennau perthnasol ymlaen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Yn yr Alban, rhaid i'r Swyddog Deisebau gadw'r dogfennau.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Trefniadau llofnodi absennol

Mae'r adran hon yn esbonio'r hawl i wneud cais i lofnodi deiseb drwy'r post neu drwy ddirprwy, a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny. Er mai'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gymeradwyo trefniadau llofnodi absennol, bydd angen i chi gydgysylltu â nhw er mwyn cael y data perthnasol, a bydd angen i chi allu hysbysu'r cyhoedd am y terfynau amser.

Mae'r adran hon hefyd yn ymdrin â'r trefniadau y bydd angen i chi eu rhoi ar waith i anfon ac agor pecynnau llofnodi drwy'r post.

Bydd angen i chi gyflogi a hyfforddi cynorthwywyr, a rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig iddynt ynglŷn â'r gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer anfon ac agor pecynnau llofnodi drwy'r post.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Yr hawl i lofnodi absennol 

Pan fydd y cyfnod llofnodi wedi'i gadarnhau, bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sicrhau bod ei feddalwedd i reoli etholiad yn barod fel y gellir nodi'r rheini sy'n gymwys i lofnodi drwy post

Pleidleiswyr absennol presennol

Mae gan bobl yr hawl i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post neu drwy ddirprwy:1  

  • os ydynt wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os ydynt eisoes wedi'u cynnwys ar restr pleidleiswyr absennol neu restr dirprwyon o ganlyniad i gais am gyfnod penodol neu amhenodol a gymeradwywyd cyn y diwrnod olaf  (h.y. tri diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod llofnodi)

Os oes rhywun wedi gwneud cais am bleidlais bost am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod y cyfnod llofnodi, tybir y bydd yn parhau tan ddiwedd y cyfnod llofnodi (oni bai bod y person yn ei ganslo cyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi).2

Os oes rhywun wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod y cyfnod llofnodi, mae ei hawl i bleidlais drwy ddirprwy yn dod i ben pan ddaw'r cyfnod penodol i ben.3  

Ceisiadau newydd i lofnodi deiseb drwy'r post

Gall pobl wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i lofnodi unrhyw ddeiseb drwy'r post, naill ai am gyfnod amhenodol, neu am gyfnod penodol, neu i lofnodi deiseb benodol drwy'r post:4  

  • os ydynt neu os byddant wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os nad ydynt eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb mewn man llofnodi, ac
  • os yw eu cais yn cynnwys eu llofnod a'u dyddiad geni, ynghyd â'r wybodaeth arall a ragnodwyd

Nid yw'n ofynnol i'r ymgeisydd roi rheswm pam mae am lofnodi deiseb drwy'r post. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar geisiadau am bleidlais bost ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban 

Ceisiadau newydd i lofnodi deiseb drwy ddirprwy

Gall pobl wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i lofnodi unrhyw ddeiseb drwy ddirprwy, naill ai am gyfnod amhenodol, neu am gyfnod penodol, neu i lofnodi deiseb benodol drwy ddirprwy:5  

  • os ydynt neu os byddant wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os nad ydynt eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb mewn man llofnodi, ac
  • os yw eu cais yn cynnwys eu llofnod a'u dyddiad geni, ynghyd â'r wybodaeth arall a ragnodwyd, ac
  • os ydynt yn gymwys i lofnodi deiseb drwy ddirprwy yn unol â'r rheoliadau6  

Mae angen nodi rheswm penodol ar gyfer ceisiadau am ddirprwy am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol.7  

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Dirprwy mewn argyfwng

Gall etholwyr wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol am ddirprwy mewn argyfwng am resymau tebyg i resymau mewn etholiad.8 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddirprwyon mewn argyfwng gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Terfynau amser ar gyfer ceisiadau

Y terfyn amser ar gyfer gwneud newidiadau (gan gynnwys canslo) i drefniadau llofnodi absennol presennol (h.y. drwy'r post, drwy ddirprwy, drwy'r post drwy ddirprwy) yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.9 Fodd bynnag, os oes llofnodwr drwy'r post eisoes wedi dychwelyd ei daflen lofnodi drwy'r post, ni all wneud newidiadau ar ôl y cyfnod hwnnw, hyd yn oed os yw cyn 5pm 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.10  

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau newydd am lofnodi drwy'r post a llofnodi drwy'r post drwy ddirprwy hefyd yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi.11  

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau newydd am ddirprwy (nid dirprwy drwy'r post), heb gynnwys ceisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng, yw 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi.12  

Y terfyn amser ar gyfer dirprwy mewn argyfwng yw 5pm ar y diwrnod llofnodi olaf neu, os bydd y ddeiseb yn cau yn gynharach, y terfyn amser yw dechrau'r awr olaf y bydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ar y diwrnod hwnnw.13  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Medi 2023

Anfon pecynnau llofnodi drwy'r post

Bydd angen i chi roi trefniadau ar waith i argraffu ac anfon pecynnau llofnodi drwy'r post yn unol â'r rheoliadau ac yn debyg i'r hyn y byddech yn ei wneud ar gyfer pleidleisiau post mewn etholiad.

Rhaid i'r pecynnau llofnodi drwy'r post gynnwys y canlynol: 

  • taflen llofnodi drwy'r post
  • datganiad deiseb drwy'r post1   
  • amlen i anfon y deunydd2
  • amlen wedi'i marcio ag ‘A’ ar gyfer y daflen llofnodi wedi'i chwblhau
  • amlen wedi'i marcio â ‘B’ – y brif amlen ar gyfer dychwelyd y datganiad deiseb drwy'r post wedi'i gwblhau ac amlen ‘A’.3  

Gallwch hefyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft, cyfieithiadau mewn Braille, mewn ieithoedd eraill neu gyfarwyddiadau graffigol.4

Bydd angen i chi anfon eich data llofnodi drwy'r post at eich argraffwyr a dilyn prosesau sicrhau ansawdd a rheoli contract yn debyg i'r hyn y byddech yn ei wneud wrth drefnu i argraffu pleidleisiau post mewn etholiad

Bydd angen i chi sicrhau y bydd unrhyw ychwanegiadau i'r rhestr llofnodwyr drwy'r post ar ôl i chi gyflwyno'r data cychwynnol i'ch argraffwyr yn cael eu cynnwys ar yr hyn sydd i'w argraffu ar ôl hynny. 

Rhaid i hysbysiadau deiseb gael eu hanfon at etholwyr drwy'r post (ac nid yn bersonol), a rhaid i'r post fod yn rhagdaledig.5  

Rhaid i gost postio dychwelyd hefyd fod yn rhagdaledig ar bob prif amlen lle mae'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y llofnodwr drwy'r post i dderbyn y daflen lofnodi yn y Deyrnas Unedig.6

Rhaid i chi sicrhau y gall y llofnodwr drwy'r post ddychwelyd y daflen lofnodi drwy'r post a'r datganiad deiseb drwy'r post am ddim.7 Ar gyfer taflenni llofnodi drwy'r post a anfonir i gyfeiriadau tramor, gallech drefnu gyda'r Post Brenhinol i drwydded ymateb busnes ryngwladol gael ei defnyddio ar bob amlen ddychwelyd mewn pecynnau llofnodi drwy'r post a anfonir i gyfeiriadau tramor.

Rhaid i hysbysiad deiseb etholwr dienw gael ei anfon mewn prif amlen nad yw'n datgelu bod y person wedi'i gofrestru'n ddienw.8  

Fel yn achos etholiadau, rhaid i chi ddefnyddio rhestr rhifau cyfatebol a ragnodwyd wrth anfon pecynnau drwy'r post.9   

Pryd i anfon pecynnau llofnodi drwy'r post

Rhaid i becynnau llofnodi drwy'r post gael eu hanfon ar yr adegau canlynol, a rhaid iddynt gael eu hanfon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol:10  

  • Rhwng un a thri diwrnod gwaith cyn dechrau cyfnod llofnodi'r ddeiseb
  • ar y 10fed a'r 11fed diwrnod gwaith ar ôl dechrau'r cyfnod llofnodi
  • erbyn yr wythfed ddiwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi 

Rhaid i'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol ar gyfer eich etholaeth roi'r rhestr llofnodwyr absennol i chi, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.11 Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, rhaid i chi gydgysylltu ag ef/hi i gael y rhestrau llofnodwyr absennol er mwyn i chi allu anfon y pecynnau llofnodi drwy'r post o fewn yr adegau a nodir uchod. Dylech roi trefniadau ar waith i gael gafael ar y data wedi'u diweddaru ar lofnodi absennol a'u defnyddio fel y gallwch anfon pecynnau dilynol. 

Ailanfon pecynnau llofnodi a ddifethwyd ac a gollwyd

Rhaid i chi ddilyn y weithdrefn ar gyfer ailanfon pecynnau llofnodi a ddifethwyd neu a gollwyd yn unol â'r rheoliadau ac fel y byddech yn ei wneud ar gyfer pleidleisiau post mewn etholiad.

Pecynnau llofnodi a ddifethwyd

Os bydd rhywun yn difetha ei daflen lofnodi drwy'r post neu'r datganiad deiseb drwy'r post, gall gael pecyn newydd hyd at bum awr cyn diwedd y cyfnod llofnodi.12  

Cyn y gellir anfon pecyn newydd, rhaid i'r daflen lofnodi drwy'r post a ddifethwyd neu'r datganiad deiseb drwy'r post a ddifethwyd, ynghyd â'r deunyddiau eraill, gael ei (d)dychwelyd atoch.13  

Os bydd cais am becyn newydd yn cael ei wneud ar ôl 5pm ar y diwrnod cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi, dim ond os yw'r dogfennau a ddifethwyd yn cael eu dychwelyd yn bersonol y gellir rhoi'r pecyn newydd. Mewn achosion o'r fath, dim ond yn bersonol hefyd y gellir rhoi pecyn newydd. 

Pecynnau llofnodi a gollwyd / nas derbyniwyd

Os bydd rhywun yn honni nad yw wedi derbyn ei daflen lofnodi drwy'r post neu'r datganiad deiseb drwy'r post, neu ei amlenni ‘A’ a/neu ‘B’, neu eu bod ar goll, mae'n bosibl rhoi pecyn newydd o bedwar diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.14  

Os bydd rhai rhannau o'r pecyn llofnodi drwy'r post ar goll neu heb eu derbyn, rhaid i'r person ddychwelyd y dogfennau sydd ganddo, er mwyn i chi eu canslo.15  

Os bydd y cais am becyn newydd yn cael ei wneud ar ôl 5pm ar y diwrnod cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi, dim ond os yw'r person yn gwneud cais yn bersonol y gellir rhoi'r pecyn newydd. Mewn achosion o'r fath, dim ond yn bersonol hefyd y gellir rhoi pecyn newydd. 

Rhaid i chi ailanfon pecyn llofnodi drwy'r post os ydych wedi'ch bodloni ynghylch pwy yw'r llofnodwr drwy'r post ac nad oes gennych unrhyw reswm dros amau na wnaeth dderbyn ei becyn gwreiddiol neu ei fod wedi mynd ar goll. 

Canslo pecynnau llofnodi drwy'r post

Yn ystod y cyfnod llofnodi o chwe wythnos, efallai y bydd amgylchiadau yn codi lle mae rhywun yr anfonwyd taflen lofnodi drwy'r post ato eisoes wedyn yn gwneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i ganslo neu newid ei drefniadau llofnodi absennol, cyn i'r terfyn amser ar gyfer newidiadau fod yn weithredol yn ystod cyfnod y ddeiseb. Yn yr achos hwnnw, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich hysbysu a rhaid i chi ganslo unrhyw daflen lofnodi drwy'r post a anfonwyd at berson o'r fath ar unwaith, ac ychwanegu'r manylion at y rhestr taflenni llofnodi a ganslwyd.16  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Agor pecynnau llofnodi drwy'r post

Bydd angen i chi roi trefniadau ar waith i agor pecynnau llofnodi drwy'r post a dilysu dynodyddion personol, yn unol â'r rheoliadau ac yn debyg i'r hyn y byddech yn ei wneud ar gyfer pleidleisiau post mewn etholiad.

Derbyn pecynnau llofnodi drwy'r post

Gall pecynnau llofnodi drwy'r post gael eu dychwelyd atoch chi fel Swyddog Deisebau yn bersonol neu drwy'r post, neu'n bersonol mewn unrhyw fan llofnodi yn yr etholaeth.1  

Bydd angen i chi gydgysylltu â'r Post Brenhinol ynglŷn â dychwelyd pecynnau drwy'r post yn ystod y cyfnod llofnodi a chadarnhau unrhyw drefniadau ar gyfer chwiliad olaf ar ddiwrnod olaf y cyfnod llofnodi. 

Er mwyn i becyn llofnodi drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi.2 Bydd diwedd y cyfnod llofnodi fel y'i nodwyd yn eich hysbysiad o ddeiseb. 

Mae Canllawiau i Swyddogion Deisebau yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn egluro y bydd amser cau mannau llofnodi yn pennu'r terfyn amser ar gyfer derbyn pecynnau llofnodi drwy'r post ym mhob man llofnodi.

Rhaid caniatáu i rywun ddychwelyd pecyn llofnodi drwy'r post os yw mewn ciw at ddiben cyflwyno pecyn llofnodi drwy'r post ar adeg cau ei fan llofnodi.  

Sesiynau agor a gwirio 

Fel rhan o'ch gwaith cynllunio ar gyfer y ddeiseb, bydd angen i chi nodi nifer y sesiynau agor amlenni taflenni llofnodi y bydd eu hangen yn eich barn chi a phryd y dylid eu cynnal, a gwneud trefniadau ar eu cyfer yn ôl yr angen.

Yr unig bobl a all fod yn bresennol yn ystod y sesiynau agor yw chi, clercod deiseb, cynorthwywyr penodedig ac unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol.3  Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.

Mae'r gofynion ynglŷn â blychau post a chynwysyddion yn debyg i'r rhai mewn etholiad, hefyd y prosesau ar gyfer agor y prif amlenni, marcio'r rhestr llofnodwyr absennol, ymdrin ag achosion o wrthod dros dro, gwirio'r dynodwyd personol, cael hyd i'r taflenni llofnodi a ganslwyd, ac ati.4 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidlais absennol gyfer Swyddogion Canlyniadau Gweithredol.

Y sesiwn agor derfynol

Dylech sicrhau bod angen agor cyn lleied o daflenni llofnodi drwy'r post yn ystod y cyfrif â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl i broses y cyfrif. 

Yn ystod y sesiwn derfynol, dylech lunio'n derfynol y rhestrau o becynnau llofnodi drwy'r post anghyflawn a ddychwelwyd.

Ar ôl cwblhau agor y taflenni llofnodi olaf, mae'n ofynnol i chi selio'r gwahanol gynwysyddion a dogfennau'n ddiogel, a'u hanfon ymlaen / eu cadw. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran ar Storio a gwaredu dogfennau

Hysbysiadau gwrthod datganiad deiseb drwy'r post

Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am anfon hysbysiadau gwrthod datganiad deiseb drwy'r post o fewn tri mis i ddiwrnod olaf cyfnod llofnodi'r ddeiseb.5       
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Cyfrif llofnodion

Trefniadau ar gyfer y cyfrif

Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y llofnodion cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi, a heb fod yn hwyrach na diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.1  

Yr unig bobl a all fod yn bresennol pan fydd y llofnodion yn cael eu cyfrif yw chi, cynorthwywyr penodedig, unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol neu arsylwyr achrededig, ac unrhyw berson arall a ganiateir gennych.2 Rhaid i chi ystyried y gofynion cyfrinachedd ar gyfer cyfrifo'r canlyniadau 3 a thryloywder y broses wrth benderfynu a fyddwch yn caniatáu i bobl ychwanegol fod yn bresennol yn y cyfrif. 

Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Y broses gyfrif

Mae'r broses gyfrif yn gymharol syml gan nad oes angen didoli papurau. Rhaid i chi wneud y canlynol:1  

  • cyfrif a chofnodi nifer y taflenni llofnodi a dderbyniwyd drwy'r broses ddilysu ddyddiol ac ar ddiwedd y ddeiseb 
  • dilysu'r cyfrif taflenni llofnodi terfynol ar gyfer pob un o fannau llofnodi'r ddeiseb, a
  • cyfrif a chofnodi'r taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd

Drwy gydol y broses gyfrif, rhaid cadw'r taflenni llofnodi wyneb i fyny.2  

Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i'r staff ynglŷn â'ch prosesau cyfrif, gan gynnwys sut i gyfrif y taflenni llofnodi a'u rhoi mewn bwndeli, a chofnodi rhifau'r taflenni llofnodi a gyfrifwyd.

Rhaid i chi baratoi datganiad ynghylch canlyniad y broses ddilysu.3

Taflenni llofnodi a ddychwelwyd

Dylid cynnwys taflenni llofnodi amheus yn y ffigur dilysu, ond eu rhoi o'r neilltu er mwyn penderfynu arnynt.

Rhaid i chi wrthod taflen lofnodi:4  

  • nad yw'n dwyn y marc swyddogol
  • nad yw wedi'i marcio neu sy'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd

Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi na ddylid gwrthod taflen lofnodi lle mae'r llofnod wedi'i dorri yn y ffyrdd canlynol os yw'r bwriad i lofnodi'r ddeiseb yn glir:5  

  • yn rhywle arall yn hytrach na'r man priodol
  • mewn ffordd arall ar wahân i lofnod
  • drwy fwy nag un marc

Rhaid i chi baratoi datganiad sy'n dangos nifer y taflenni llofnodi a wrthodwyd ar gyfer pob categori.6

Mae penderfyniad y Swyddog Deisebau ar unrhyw gwestiwn sy'n codi wrth roi dyfarniad ar y taflenni llofnodi yn derfynol, ond gall fod yn destun adolygiad ar gŵyn ynghylch deiseb adalw. 7 Mae'r broses gwynion ynghylch deiseb adalw  yr un fath ag ar gyfer deisebau etholiadol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Penderfynu canlyniad y ddeiseb

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid i chi wneud y canlynol:

  • penderfynu a yw'r ddeiseb adalw yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus 
  • hysbysu'r Llefarydd am ganlyniad y ddeiseb, a 
  • unwaith y bydd y Llefarydd wedi cydnabod ei fod wedi derbyn y canlyniad, rhowch hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad 1  

Os bydd o leiaf 10% o'r etholwyr cofrestredig cymwys yn yr etholaeth yn llofnodi'r ddeiseb, bydd y ddeiseb yn llwyddiannus.2 Yna, datgenir bod y sedd yn wag a bydd is-etholiad yn dilyn.

Hysbysu'r llefarydd 

Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer hysbysu'r Llefarydd am ganlyniad y ddeiseb. 

Fodd bynnag, dylech sicrhau eich bod yn cytuno ynghylch sut y byddwch yn ei hysbysu ymlaen llaw, fel nad oes unrhyw oedi cyn rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r canlyniad. Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi cyhoeddi Canllawiau i Swyddogion Deisebau ar y mater hwn. 

Hysbysiad o'r canlyniad

Rhaid i'r hysbysiad cyhoeddus o ganlyniad y ddeiseb gynnwys:3  

  • enw ac etholaeth yr AS a fu'n destun proses y ddeiseb
  • manylion ynglŷn â'r amod adalw a fodlonwyd
  • dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi
  • a fu'r ddeiseb yn llwyddiannus ai peidio
  • nifer yr etholwyr cofrestredig cymwys
  • nifer a chanran yr etholwyr cofrestredig cymwys a lofnododd y ddeiseb yn ddilys
  • nifer y taflenni llofnodi a ddychwelwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o daflenni llofnodi a wrthodwyd  
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

After the recall petition

This section covers some of the activity which will need to take place following the petition, including the storage and disposal of documents, completing the postal signing statement, accounting for the petition, receiving candidate spending returns and the process for any challenge to the outcome of the petition. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Storio a gwaredu dogfennau

Ar ddiwedd y broses o gyfrif y llofnodion, rhaid i chi selio'r pecynnau o daflenni llofnodi a gyfrifwyd ac a wrthodwyd.1   

Yng Nghymru a Lloegr, bydd y rhain yn cael eu cynnwys ymhlith yr amrywiol ddogfennau y mae'n rhaid i chi eu hanfon ymlaen at y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol i'w cadw am flwyddyn.2 Yn yr Alban, rhaid i'r Swyddog Deisebau gadw'r dogfennau hyn am flwyddyn.3 Ar ôl blwyddyn, rhaid i'r dogfennau gael eu dinistrio'n ddiogel.

O'r mannau llofnodi:4  

  • Y pecyn sy'n cynnwys: 
    • y rhestrau llofnodi a gyflwynwyd
    • y rhestr o bobl ag anableddau a gynorthwywyd gan y clerc deiseb
    • y rhestr o newidiadau i'r gofrestr 
  • copïau wedi eu marcio o'r gofrestr etholwyr, y rhestr dirprwyon wedi ei marcio ac unrhyw hysbysiadau copi wedi'u marcio o ganlyniad i gywiro gwall clercio neu benderfyniad ar apêl i'r llys perthnasol
  • y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol post wedi'u cwblhau
  • y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd
  • y pecynnau sy'n cynnwys tystysgrifau cyflogaeth ar ddyletswydd yn ystod y cyfnod llofnodi

O brosesau anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post:5  

  • copïau wedi'u marcio o'r rhestr llofnodwyr drwy'r post a'r rhestr dirprwyon sy'n llofnodi drwy'r post
  • y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol post wedi'u cwblhau
  • y pecynnau o ddatganiadau llofnodi drwy'r post a dderbyniwyd fel rhai dilys
  • y pecynnau o daflenni llofnodi drwy'r post a wrthodwyd 
  • y pecynnau o amlenni taflenni llofnodi drwy'r post a wrthodwyd
  • y rhestrau o daflenni llofnodi drwy'r post a ganslwyd, a gollwyd ac a ddifethwyd
  • y pecyn o bapurau llofnodi drwy'r post a ddifethwyd a'r dogfennau ategol
  • y pecyn o daflenni llofnodi drwy'r post a gollwyd a oedd yn cynnwys unrhyw ran o'r pecyn drwy'r post nas collwyd ac a ddychwelwyd atoch cyn i chi anfon pecyn newydd 
  • y pecyn o daflenni llofnodi drwy'r post, datganiadau ac amlenni a ganslwyd
  • y pecynnau o daflenni llofnodi nas defnyddiwyd 
  • pecynnau llofnodi drwy'r post nas agorwyd a dderbyniwyd ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi neu a ddychwelwyd fel rhai nas dosbarthwyd (gellir eu hanfon ar ddyddiad arall yn nes ymlaen) 

Yng Nghymru a Lloegr, rhaid i chi hefyd eu hanfon ymlaen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich ardal, ac yn yr Alban, rhaid i'r Swyddog Deisebau hefyd gadw'r canlynol:

  •  y datganiad ynghylch taflenni llofnodi drwy'r post, 
  •  y rhannau perthnasol o'r rhestr o ddatganiadau llofnodi drwy'r post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion

Dylech hefyd anfon eich cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni o bosibl, er mwyn i'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol gael gwybod ym mha achosion na ddylent anfon hysbysiad o wrthod dynodydd datganiad taflen lofnodi.

O'r cyfrif:6

  • dylid storio pob taflen lofnodi ar wahân fel:
    • taflenni llofnodi a gyfrifwyd
    • taflenni llofnodi a wrthodwyd 
    • taflenni llofnodi nas defnyddiwyd (rhai arferol a rhai a gyflwynwyd) a thaflenni llofnodi a ddifethwyd (wedi'u gosod gyda'i gilydd) 
    • taflenni llofnodi a gyflwynwyd a ddefnyddiwyd 
  • y cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi, y cyfrifon terfynol o'r taflenni llofnodi, canlyniad y broses o ddilysu cyfrifon taflenni llofnodi a'r datganiad ynghylch taflenni llofnodi a wrthodwyd

Cofrestr wedi'i marcio a rhestrau llofnodwyr absennol – archwilio a darparu

Yr heddlu, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan Ddeddf Seneddol a'r Comisiwn Etholiadol yw'r unig sefydliadau sydd â hawl i gael copïau o'r gofrestr wedi'i marcio a'r rhestrau.7  Mae'r ffioedd arferol yn gymwys.8

Gall unrhyw un ofyn am gael gweld y gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestrau, os yw'n honni ei fod yn amau twyll.9  

Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol neu'r Swyddog Deisebau yn yr Alban a rhaid iddo gynnwys manylion unrhyw dwyll a amheuir sydd wedi digwydd ym marn yr unigolyn. Din ond os bydd yn bodloni ei hun y gall fod twyll wedi digwydd y bydd yn ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr neu'r Swyddog Deisebau yn yr Alban sicrhau bod y dogfennau ar gael.10   

Dogfennau eraill – archwilio a darparu

Mae dogfennau eraill sy'n ymwneud â'r ddeiseb ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd dan amodau penodol. Nid yw hyn yn cynnwys taflenni llofnodi, rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, tystysgrifau cyflogaeth a'r rhestrau o daflenni llofnodi drwy'r post a wrthodwyd.11  

Pan fyddwch wedi rhoi cyfarwyddyd i glercod deiseb ddefnyddio'r VIDEF mewn mannau llofnodi, dylech ddilyn canllawiau'r Comisiwn ar y broses o gasglu a storio'r wybodaeth hon.  

Rhaid i unrhyw ddogfen y gall y cyhoedd ei harchwilio gael ei darparu am ddim i sefydliadau diogelwch.12  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Datganiad ynghylch taflenni llofnodi drwy'r post

Rhaid i chi gwblhau datganiad cywir ynghylch y taflenni llofnodi drwy'r post. Rhaid i'r datganiad gael ei wneud ar ffurf ‘Ffurflen L’, sydd wedi'i rhagnodi.1  

Yn ogystal ag anfon hwn at y swyddog perthnasol fel y'i nodwyd yn yr adran ar Storio a chadw dogfennau, rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad i'r Comisiwn a'r Gweinidog.2

Rhaid i'r datganiad gael ei ddarparu heb fod yn gynharach na 10 diwrnod gwaith ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi a rhaid iddo gyrraedd heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod calendr ar ôl y cyfnod llofnodi.3 Os nad yw'r naill ddyddiad na'r llall yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei ymestyn i'r diwrnod gwaith nesaf.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Accounting for the recall petition

You will need to pay your staff and creditors. 

Recall petitions are funded by the UK Government and claims for fees and charges are administered through the Elections Claims Unit, which is part of the Department for Levelling Up, Housing and Communities.

The maximum recoverable amounts are set out in the Recall Petition (Petition Officers' Charges) Regulations 2016.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Ffurflenni gwariant y ddeiseb

Rhaid i bob ymgyrchydd achrededig gyflwyno ffurflen gwariant atoch,1 ynghyd ag anfonebau a derbynebau perthnasol, o fewn 30 diwrnod calendr i ddiwedd cyfnod y ddeiseb adalw.2  

Rhaid i'r unigolyn cyfrifol anfon datganiad ar y cyd â'r ffurflen.3  

Er mwyn sicrhau trywydd archwilio clir, dylech sicrhau bod y dyddiad yn cael ei stampio ar unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â ffurflenni gwariant y ddeiseb, gan gynnwys y datganiad ar ôl iddynt ddod i law. 

Dylid cadw ffurflenni gwariant am ddwy flynedd a dylent fod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd. 

Rhaid i chi anfon copïau o ffurflenni gwariant y ddeiseb, datganiadau a dogfennau ategol at y Comisiwn Etholiadol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt ddod i law.4
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025

Challenges to the outcome of a recall petition

A recall petition complaint can be used to challenge the outcome of a petition.

A recall petition complaint can be presented by:1  

  • A person who signed the petition or was entitled to do so, or
  • The MP in relation to whom the petition was held

The only ground for a complaint is that there was an undue outcome to the petition.2  

The respondent to a complaint can be the Petition Officer or the MP who was subject to the petition.

A recall petition complaint must normally be presented within 21 days after the day on which public notice of the outcome of the petition was given.3  

Any person who is considering presenting a recall petition complaint should be advised to take their own legal advice. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025