Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhoi hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb

Rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb, gan nodi:

  • enw'r AS sy'n destun broses y ddeiseb
  • manylion am yr amod i adalw a fodlonwyd mewn perthynas â'r AS hwnnw
  • dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi
  • lleoliad pob man llofnodi (hyd at uchafswm o 10)
  • y diwrnodau a'r oriau pan fydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ym mhob man llofnodi
  • y personau sydd â'r hawl i lofnodi'r ddeiseb1

Ni roddir unrhyw ddyddiad yn y ddeddfwriaeth ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o ddeiseb, ond rhaid i chi ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Yn ymarferol, byddwch yn gwneud hyn cyn gynted ag y bydd y manylion gofynnol ar yr hysbysiad wedi'u pennu'n derfynol.

Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn yr etholaeth ac mewn unrhyw ffordd arall fel y gwelwch yn dda.2 Dylech sicrhau bod yr hysbysiad yn cael ei roi mewn ffordd sy'n hygyrch iawn i bleidleiswyr, megis drwy wefan yr awdurdod lleol.  

Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad o ddeiseb i'r AS dan sylw.3

Os ydych wedi cael hysbysiad achredu gan ymgyrchydd deiseb, rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus  o'r manylion ynddo fel y gweloch yn dda. Rhaid i chi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gyfeiriad cartref ymgyrchwyr achrededig unigol.4  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025