Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw deiseb adalw?

Cyflwynodd Deddf Adalw ASau 2015 broses sy'n nodi y bydd AS yn colli ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin os bydd deiseb i'w (h)adalw yn llwyddiannus.

Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir rhoi cychwyn ar y broses adalw, sy'n digwydd pan fydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn hysbysu'r Swyddog Deisebau bod yr amodau adalw wedi cael eu bodloni. 

Mae deiseb adalw yn gofyn i etholwyr a ydynt am i'w AS golli ei sedd. Pan fydd y ddeiseb wedi agor, bydd ar gael i'w llofnodi am chwe wythnos.

Pan ddaw cyfnod y ddeiseb i ben, os bydd o leiaf 10% o'r etholwyr seneddol yn yr etholaeth wedi llofnodi'r ddeiseb, bydd yr AS yn colli ei sedd a chaiff is-etholiad ei alw. Gall yr AS sy'n destun adalw sefyll yn yr is-etholiad.

Os na cheir y nifer gofynnol o lofnodion pan ddaw'r cyfnod llofnodi i ben, mae'r ddeiseb yn methu ac mae'r AS yn aros yn ei swydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025