Pecynnau ar gyfer taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd i fannau llofnodi
Caiff y rhai sydd wedi gwneud cais i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post ddychwelyd eu taflen lofnodi drwy'r post yn bersonol mewn unrhyw fan llofnodi cyn diwedd y cyfnod llofnodi.1
Dylech ddarparu pecynnau a seliau i staff mewn mannau llofnodi ar gyfer unrhyw daflenni llofnodi drwy'r post a dderbyniwyd yn y fath fodd a rhoi trefniadau ar waith i'w hanfon atoch, neu i'w casglu o'r man llofnodi pan ddaw cyfnod y ddeiseb i ben.2
Dylech hefyd roi mesurau ar waith i anfon neu gasglu taflenni llofnodi drwy'r post a dderbyniwyd yn rheolaidd drwy gydol y cyfnod llofnodi, er mwyn hwyluso'r sesiynau agor a gwirio rheolaidd.
Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gadw cofnodion clir a thrywydd archwilio a sicrhau diogelwch pecynnau llofnodi drwy'r post ar bob cam o'r broses o'u storio a'u cludo.