Canllawiau i Swyddogion Deisebau
Cyfathrebiadau am y ddeiseb
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio bydd angen i chi ystyried sut i ddelio ag unrhyw ymholiadau a godir gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, gan ystyried y bydd yr ymholiadau o natur wahanol i'r rhai a geir mewn etholiad. Dylech adolygu eich cwestiynau cyffredin mewnol. Bydd hefyd angen i chi sefydlu sut y dylid cyfeirio ymholiadau ynghyd â phroses uwchgyfeirio briodol pan fo angen.
Dylech hefyd sicrhau bod y sawl sy'n rhan o'r broses o gynnal y ddeiseb yn ymwybodol ei bod yn drosedd cyhoeddi unrhyw ragolygon am ganlyniad y ddeiseb.1
Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd
Rhaid i chi roi hysbysiadau deiseb swyddogol i etholwyr a chyhoeddi'r hysbysiadau fel y'i nodwyd yn y ddeddfwriaeth. Ceir rhagor o wybodaeth yn eich canllawiau ar gyflawni prosesau cyn y ddeiseb.
Yn wahanol i etholiad, nid oes dyletswydd ar y Swyddog Deisebau i hyrwyddo cyfranogiad mewn deiseb adalw. Dylech ddarparu gwybodaeth ffeithiol ynglŷn â sut y gall pobl lofnodi'r ddeiseb, er enghraifft drwy sicrhau bod manylion yr hysbysiad o ddeiseb yn cael eu cyhoeddi ar eich gwefan a'u cyfleu drwy ddulliau eraill fel y gweloch yn dda.
Ymgysylltu ag ymgyrchwyr deiseb
Bydd angen i chi baratoi i gyfathrebu ac ymgysylltu ag ymgyrchwyr deiseb. Efallai y bydd ymgeiswyr deiseb yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn y ddeiseb.
Gall ymgyrchwyr fod yn achrededig ai peidio. Cânt eu hachredu drwy gyflwyno hysbysiad achredu i chi a, lle y bo'n briodol, drwy benodi ‘person cyfrifol’. 2
Unwaith y byddwch wedi cael hysbysiad achredu, rhaid i chi gyhoeddi'r manylion ynddo fel y gweloch yn dda. Rhaid i chi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i gyfeiriad cartref ymgyrchwyr achrededig unigol.3
Mae hawl gan ymgyrchwyr deisebau achrededig i gael copi am ddim o gofrestr y ddeiseb. Nid oes gan ymgyrchwyr nad ydynt yn achrededig hawl i gael y wybodaeth hon. Bydd angen i chi gynghori ymgyrchwyr achrededig y ddeiseb sut y gallant gael gafael ar gopïau o gofrestr y ddeiseb gennych. Dylid eu hysbysu hefyd y dylai unrhyw gais am restrau o lofnodwyr absennol gael ei gyflwyno i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.4
Nid oes gan ymgyrchwyr deiseb yr hawl i fod yn bresennol mewn mannau llofnodi nac mewn sesiynau agor taflenni llofnodi drwy'r post. Os penderfynwch ganiatáu iddynt fod yn bresennol pan fydd y llofnodion yn cael eu cyfrif, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y trefniadau iddynt.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig gyflwyno eu ffurflenni gwariant mewn perthynas â'r ddeiseb i chi.
Mae ein canllawiau i ymgyrchwyr deiseb adalw yn cynnwys gwybodaeth am y rheolau ynglŷn â gwariant ar ymgyrchu, rhoddion a'r broses adrodd, yn ogystal â'r defnydd o argraffnodau.
- 1. Rheoliad 124, Rheoliadau Adalw ASau 2016 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraffau 19 i 21, Rhan 5, Atodlen 3, Deddf Adalw ASau 2015 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Paragraff 22, Rhan 5, Atodlen 3, Deddf Adalw ASau 2015 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 80(1)(f), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 4