Mae'r taflenni llofnodi yn cyfateb i bapurau pleidleisio mewn etholiadau a refferenda. Rhagnodir ffurf y daflen lofnodi a rhaid i chi ddilyn hyn yn union.1
Rhaid i'r taflenni llofnodi gael eu hargraffu yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu, a bydd angen i chi ddilyn prosesau sicrhau ansawdd a rheoli contract yn debyg i'r hyn y byddech yn ei ddilyn wrth drefnu i argraffu papurau pleidleisio mewn etholiad.
Rhaid i daflenni llofnodi i lofnodwyr post ac i'w defnyddio mewn mannau llofnodi fod ar yr un ffurf, ond gall y marc swyddogol fod yn wahanol os dymunir.2
Lliw'r daflen lofnodi
Nid yw lliw'r daflen lofnodi wedi'i ragnodi, ac mae'n ofynnol i daflenni llofnodi a gyflwynwyd fod mewn lliw gwahanol i'r taflenni llofnodi arferol.3
Y ‘marc swyddogol’
Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol ychwanegu marc diogelwch priodol, y ‘marc swyddogol’, at y daflen lofnodi.4
Rhifau a nodau adnabod unigryw taflenni llofnodi
Dylid argraffu rhif unigryw (yn debyg i rif papur pleidleisio) a nod adnabod unigryw arall ar gefn pob taflen lofnodi.5
Yn wahanol i ddogfennau a hysbysiadau eraill sy'n ymwneud â'r ddeiseb, ni chaniateir cynhyrchu'r daflen lofnodi mewn ieithoedd na fformatau eraill.6
Bydd angen i chi roi trefniadau diogelwch ar waith i atal mynediad anawdurdodedig at y taflenni llofnodi neu'r defnydd anawdurdodedig ohonynt yn ystod y broses gynhyrchu ac wrth eu storio.