Canllawiau i Swyddogion Deisebau ar gyfer deiseb adalw
Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu llunio i helpu Swyddogion Deisebau ym Mhrydain Fawr i ymgymryd â'u rôl i weinyddu deiseb adalw. Maent yn seiliedig ar y gofynion a nodwyd yn Neddf Adalw ASau 2015 a Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 a dylid eu darllen yn unol â nhw.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at Swyddogion Deisebau a'r dyletswyddau y maent yn eu cyflawni. Gan fod y dyletswyddau hyn, yn ymarferol, yn gallu cael eu cyflawni gan ddirprwyon a/neu staff penodedig, rydym yn defnyddio'r term ‘chi’ i gyfeirio at y Swyddog Deisebau a phwy bynnag fydd yn cyflawni swyddogaethau'r Deisebau ar ei ran.
Yng Nghymru a Lloegr, yr un person yw'r Swyddog Deisebau â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros yr etholaeth seneddol.1
Gall fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd.2
Yn yr Alban, yr un person yw'r Swyddog Deisebau a'r Swyddog Canlyniadau dros yr etholaeth seneddol.3
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ i gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘dylai’ neu ‘gall’ ar gyfer arfer a argymhellir neu pan fo disgresiwn gennych. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig yr hyblygrwydd sy'n ei gwneud yn bosibl i chi wneud trefniadau sy'n adlewyrchu anghenion penodol eich etholaeth.