Canllawiau i Swyddogion Deisebau
Agor pecynnau llofnodi drwy'r post
Bydd angen i chi roi trefniadau ar waith i agor pecynnau llofnodi drwy'r post a dilysu dynodyddion personol, yn unol â'r rheoliadau ac yn debyg i'r hyn y byddech yn ei wneud ar gyfer pleidleisiau post mewn etholiad.
Derbyn pecynnau llofnodi drwy'r post
Gall pecynnau llofnodi drwy'r post gael eu dychwelyd atoch chi fel Swyddog Deisebau yn bersonol neu drwy'r post, neu'n bersonol mewn unrhyw fan llofnodi yn yr etholaeth.1
Bydd angen i chi gydgysylltu â'r Post Brenhinol ynglŷn â dychwelyd pecynnau drwy'r post yn ystod y cyfnod llofnodi a chadarnhau unrhyw drefniadau ar gyfer chwiliad olaf ar ddiwrnod olaf y cyfnod llofnodi.
Er mwyn i becyn llofnodi drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi.2 Bydd diwedd y cyfnod llofnodi fel y'i nodwyd yn eich hysbysiad o ddeiseb.
Mae Canllawiau i Swyddogion Deisebau yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn egluro y bydd amser cau mannau llofnodi yn pennu'r terfyn amser ar gyfer derbyn pecynnau llofnodi drwy'r post ym mhob man llofnodi.
Rhaid caniatáu i rywun ddychwelyd pecyn llofnodi drwy'r post os yw mewn ciw at ddiben cyflwyno pecyn llofnodi drwy'r post ar adeg cau ei fan llofnodi.
Sesiynau agor a gwirio
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio ar gyfer y ddeiseb, bydd angen i chi nodi nifer y sesiynau agor amlenni taflenni llofnodi y bydd eu hangen yn eich barn chi a phryd y dylid eu cynnal, a gwneud trefniadau ar eu cyfer yn ôl yr angen.
Yr unig bobl a all fod yn bresennol yn ystod y sesiynau agor yw chi, clercod deiseb, cynorthwywyr penodedig ac unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol.3 Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.
Mae'r gofynion ynglŷn â blychau post a chynwysyddion yn debyg i'r rhai mewn etholiad, hefyd y prosesau ar gyfer agor y prif amlenni, marcio'r rhestr llofnodwyr absennol, ymdrin ag achosion o wrthod dros dro, gwirio'r dynodwyd personol, cael hyd i'r taflenni llofnodi a ganslwyd, ac ati.4 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidlais absennol gyfer Swyddogion Canlyniadau Gweithredol.
Y sesiwn agor derfynol
Dylech sicrhau bod angen agor cyn lleied o daflenni llofnodi drwy'r post yn ystod y cyfrif â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl i broses y cyfrif.
Yn ystod y sesiwn derfynol, dylech lunio'n derfynol y rhestrau o becynnau llofnodi drwy'r post anghyflawn a ddychwelwyd.
Ar ôl cwblhau agor y taflenni llofnodi olaf, mae'n ofynnol i chi selio'r gwahanol gynwysyddion a dogfennau'n ddiogel, a'u hanfon ymlaen / eu cadw. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran ar Storio a gwaredu dogfennau.
Hysbysiadau gwrthod datganiad deiseb drwy'r post
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am anfon hysbysiadau gwrthod datganiad deiseb drwy'r post o fewn tri mis i ddiwrnod olaf cyfnod llofnodi'r ddeiseb.5
- 1. Rheoliad 99(1), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 39(3)(b), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 100, Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau (100) – (112), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 115, Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 5