Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Cynhyrchu cardiau pleidleisio
Rhaid i'r cardiau pleidleisio ddilyn y ffurf benodedig a nodir mewn deddfwriaeth. Ar bob cerdyn pleidleisio, rhaid i chi gynnwys yr holl elfennau a nodir yn y rheolau etholiadol perthnasol ac a ddangosir ar flaen ac ar gefn y cardiau pleidleisio yn yr atodiad i Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (fel y'u diwygiwyd).1
Dylech gysylltu â'ch enw cyswllt yn y Post Brenhinol (neu bartner dosbarthu masnachol arall) ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod gennych drwyddedau priodol ar waith a bod y cerdyn pleidleisio yn bodloni gofynion dosbarthu penodol.
Dylai cardiau pleidleisio gael eu hanfon at etholwyr a'u dirprwyon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad. Os byddwch yn gosod y gwaith o gynhyrchu'r cardiau pleidleisio ar gontract allanol, bydd angen i chi anfon eich data cardiau pleidleisio at eich argraffwyr a dylech sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu llunio ffeil ddata y gall eich argraffwyr ei defnyddio i baratoi'r deunyddiau yn unol â'r fanyleb sydd ei hangen.
Ar gam cynnar yn eich trafodaethau â'ch argraffwyr, dylech fod wedi nodi ym mha fformat y byddwch yn cyflenwi'r data ac ym mha fformat y byddant yn anfon unrhyw broflenni atoch, a dylai hyn gael ei nodi yn eich manyleb a'ch contract..
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddatblygu contractau ar gyfer gwaith ar gontract allanol a qwiriadau sicrhau ansawdd.
Sypiau dilynol o gardiau pleidleisio
Rhaid i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Mae'r hysbysiadau hyn yn helpu i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu dosbarthu'n brydlon i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru yn agos i'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.2
Rhaid i'r hysbysiad interim cyntaf o newid gael ei gyhoeddi ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.3
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn sicrhau y gall amseriad cyhoeddi'r ail hysbysiad interim ategu llunio eich ail set o gardiau pleidleisio. Rhaid i'r ail hysbysiad interim gael ei gyhoeddi rhwng y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a'r chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4
Dylid anfon diweddariad o'r data cofrestru sy'n deillio o bob un o'r hysbysiadau newid at eich argraffwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel y gellir llunio cardiau pleidleisio ar gyfer etholwyr newydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am hysbysiadau interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr, neu'r Alban
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau pellach ar ddosbarthu cardiau pleidleisio.
Cross-boundary constituencies
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, bydd angen i chi weithio gydag awdurdodau lleol eraill er mwyn sicrhau y gallwch ddarparu'r data gan yr awdurdod arall/awdurdodau eraill i'r argraffwyr. Dylech hefyd gysylltu â hwy i gael yr wybodaeth am etholwyr newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r hysbysiadau interim o newid a'r hysbysiad etholiadol terfynol o newid gael eu cyhoeddi.
- 1. Atodlen 3 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ac Atodlen 3 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001. Mae’r ffurfiau newydd o gerdyn pleidleisio a cherdyn pleidleisio drwy ddirprwy yn Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr (Diwygio’r Rhestr o Ddogfennau Penodedig) 2024 ac, yng Nghymru, dylid eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) Deiseb Etholiadau Seneddol 2024. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ac a13B ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(6) ↩ Back to content at footnote 4