Rhaid i chi ddarparu'r rhan briodol o'r gofrestr i bob clerc deiseb ar gyfer ei fan llofnodi a rhestrau llofnodwyr absennol priodol.1
Dylai clercod deiseb a chynorthwywyr fod wedi cael hyfforddiant ar y gwahanol farcwyr etholfraint a fydd yn ymddangos ar y gofrestr – mae gan etholwyr a all bleidleisio mewn etholiad seneddol yr hawl i lofnodi'r ddeiseb.
Dylech sicrhau bod pob cofrestr argraffedig wedi'i gwirio er mwyn sicrhau ei bod yn gyflawn, yn adlewyrchu unrhyw beth sydd wedi'i ychwanegu at y gofrestr neu ei ddileu ohoni yn ddiweddar, a bod yr argraffnodau etholfraint priodol yn eu lle.
Dylech roi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i gofrestrau a rhestrau o ddirprwyon ar ôl iddynt gael eu hargraffu sy'n deillio o newidiadau o ganlyniad i gywiro gwallau clercio neu benderfyniadau llys a chymeradwyo ceisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng. Dylech hefyd sefydlu dull o gyfleu'r wybodaeth berthnasol i glercod deiseb gan gynnwys y broses i'w dilyn, gan gwmpasu sut y dylent gofnodi enwau a rhifau etholwyr unrhyw rai y rhoddwyd taflen lofnodi iddynt yn dilyn newid hwyr i'r gofrestr.