Heb fod yn hwyrach na'r trydydd diwrnod gwaith ar ôl derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi roi hysbysiad cyhoeddus o'r canlynol:
nifer y bobl sydd â hawl i lofnodi'r ddeiseb
nifer y bobl y byddai angen iddynt lofnodi'r ddeiseb er mwyn iddi fod yn llwyddiannus1
Rhaid i chi osod yr hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn yr etholaeth ac mewn unrhyw ffordd arall fel y gweloch yn dda. 2
Dylech sicrhau bod hysbysiad yn cael ei roi mewn ffordd sy'n hygyrch iawn i bleidleiswyr, megis drwy wefan yr awdurdod lleol.
Rhaid i chi ailgyhoeddi'r wybodaeth hon ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod llofnodi, gan ymgorffori unrhyw ychwanegiadau neu ddileadau sy'n weithredol drwy hysbysiad newid.
Ceir rhagor o wybodaeth am newidiadau sy'n weithredol ar neu erbyn y dyddiad olaf, a newidiadau o ganlyniad i orchmynion llys a gwallau clercio, yn yr adran ar lunio cofrestr y ddeiseb a chyhoeddi cofrestr y ddeiseb.