| Argraffu'r canllawiau llawn

Agor deiseb adalw

Bydd y Swyddog Deisebau yn agor deiseb adalw os bydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn ei hysbysu am y canlynol mewn perthynas ag AS:

  • mae wedi cael ei (h)euogfarnu o drosedd yn y DU ac wedi cael ei (d)dedfrydu neu gorchmynnwyd iddo/iddi gael ei garcharu/charcharu neu ei gadw/chadw yn y ddalfa (gan gynnwys dedfryd wedi'i ohirio)
  • gorchmynnwyd iddo/iddi gael ei gadw neu ei chadw'n gaeth, heblaw am resymau o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yn unig.
  • mae wedi cael ei (g)wahardd o Dŷ'r Cyffredin am ddeg diwrnod eistedd neu 14 diwrnod calendr, neu 
  • mae wedi cael ei (h)euogfarnu o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar gyfer hawliadau lwfans o dan Ddeddf Safonau Seneddol 20091

Yn achos euogfarn, ni chaiff y ddeiseb adalw ei hagor oni fydd y cyfnod apelio wedi dod i ben heb i'r euogfarn, y ddedfryd neu'r gorchymyn fod wedi cael eu gwrthdroi neu heb i bob apêl gael ei chlywed a'i gwrthod.

Rhaid i'r Llefarydd hysbysu'r Swyddog Deisebau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod un o'r amodau wedi cael ei fodloni. Rhaid i hysbysiad y Llefarydd bennu: 

  • y dyddiad y'i rhoddwyd
  • pa un o'r amodau adalw wedi cael ei fodloni
  • yn achos yr amod cyntaf, y drosedd y mae'r AS wedi cael ei (h)euogfarnu yn ei chylch2  

Pan na fydd deiseb adalw yn cael ei hagor

Ni fydd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn hysbysu'r Swyddog Deisebau ac ni chaiff deiseb adalw ei hagor:

  • os yw sedd yr AS eisoes yn wag
  • os yw deiseb adalw eisoes yn cael ei chynnal mewn perthynas â'r AS, neu
  • os yw'r dyddiad olaf posibl ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU o fewn y 6 mis nesaf3  
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025