Chi sy'n pennu diwedd y cyfnod llofnodi a'r amser cau ar gyfer gorsafoedd llofnodi a rhaid i hyn gael ei nodi ar yr hysbysiad o ddeiseb.
Caiff pobl sydd, ar ddiwedd y cyfnod llofnodi, yn eu man llofnodi dynodedig, neu mewn ciw y tu allan i'w man llofnodi,1
er mwyn llofnodi'r ddeiseb, ofyn am daflen lofnodi. Bydd angen i chi fod yn barod i ymdrin ag unrhyw giwiau pe baent yn codi.
Mae'r broses ar gyfer cau'r ddeiseb ar ddiwedd y cyfnod llofnodi yn debyg i'r broses ar gyfer cau'r pleidleisio mewn etholiad, a gall canllawiau yn y llawlyfr gorsafoedd pleidleisio helpu staff i reoli'r broses hon yn ymarferol.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid i glerc y ddeiseb, ym mhresenoldeb person arall a benodwyd gennych chi, baratoi a selio pecynnau ar wahân o'r dogfennau canlynol:
Taflenni llofnodi a gyflwynir yn y man llofnodi ac a gaiff eu hadalw o'r blwch pleidleisio fel rhan o'r broses ddyddiol o ddilysu
Taflenni llofnodi nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd (wedi'u gosod gyda'i gilydd
Taflenni llofnodi a gyflwynwyd
Copïau wedi'u marcio o'r gofrestr a rhestrau dirprwyon
Rhestr rhifau cyfatebol
Rhestr o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd
Tystysgrifau cyflogaeth
Rhaid i glerc y ddeiseb hefyd gofnodi nifer y taflenni llofnodi a roddwyd ar gyfer y man llofnodi, gan gynnwys:
Sawl taflen lofnodi a roddwyd ac a lofnodwyd
Sawl taflen lofnodi a ddifethwyd
Sawl taflen lofnodi a gyflwynwyd a roddwyd.
Rhaid i glerc y ddeiseb roi'r canlynol i chi (neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi gan berson cymeradwy):
Y pecynnau wedi'u selio
Y cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi
Y cyfrif terfynol o'r taflenni llofnodi
Dylech roi cyfarwyddiadau i'ch clercod deiseb ynglŷn â'r prosesau i'w dilyn pan fydd y ddeiseb yn cau. Dylai'r rhain ymdrin â sut i gwblhau a selio'r pacecynnau o ddogfennau, a sut i gwblhau'r cyfrif terfynol o daflenni llofnodi.2
Dylech hefyd baratoi pecynnau lle mae dogfennau wedi cael eu hanfon atoch fel rhan o broses ddilysu ddyddiol ganolog.