Canllawiau i Swyddogion Deisebau
Rolau a chyfrifoldebau
Swyddog Deisebau
Yng Nghymru a Lloegr, yr un person yw'r Swyddog Deisebau â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros yr etholaeth seneddol.1 Gall fod yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd.2
Yn yr Alban, yr un person yw'r Swyddog Deisebau a'r Swyddog Canlyniadau dros yr etholaeth seneddol.3
Eich rôl fel Swyddog Deisebau yw:
- derbyn yr hysbysiad gan y Llefarydd
- dynodi mannau llofnodi a phenodi Clercod Deiseb a Chynorthwywyr
- agor deiseb adalw
- hysbysu etholwyr bod deiseb adalw wedi'i hagor
- goruchwylio'r broses o weinyddu'r ddeiseb, gan gynnwys:
- cyhoeddi cofrestr o etholwyr a all lofnodi'r ddeiseb
- hysbysu etholwyr am y ddeiseb
- anfon a derbyn taflenni llofnodi drwy'r post
- goruchwylio'r broses o ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol a'u storio
- cyfrif taflenni llofnodi
- cyhoeddi’r canlyniad, yn cynnwys hysbysu'r Llefarydd
- anfon dogfennau ymlaen at y swyddog cofrestru (neu, yn yr Alban, eu cadw) i'w storio a'u gwaredu'n ddiogel
- derbyn ffurflenni rhoddion a gwariant a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio
Fel yn eich rôl fel Swyddog Canlyniadau, fel Swyddog Deisebau, rydych yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â thorri dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu, os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig, heb achos rhesymol, yn euog o unrhyw weithred neu anwaith sy'n torri dyletswydd swyddogol byddwch chi (a/neu eich dirprwyon) yn atebol i dalu dirwy ar ôl euogfarn ddiannod.4
Rhaid i chi hefyd ystyried hygyrchedd i etholwyr mewn mannau llofnodi. Mae ein canllawiau ar gymorth i bleidleisio ar gyfer pobl anabl yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Swyddog Cofrestru Etholiadol
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol.5 Hyd yn oed os mai'r un person yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol â'r Swyddog Deisebau, mae'n ymgymryd â swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol yn ôl y gyfraith.
Pan fydd etholaeth seneddol yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, mae'n bosibl y bydd mwy nag un Swyddog Cofrestru Etholiadol y bydd angen i'r Swyddog Deisebau gydgysylltu â nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Swyddog Cofrestru Etholiadol mewn deiseb, gweler ein canllawiau cynllunio.
Y Comisiwn Etholiadol
Rôl y Comisiwn Etholiadol yn y broses yw:
- rhoi cyngor a chanllawiau er mwyn helpu pobl i ddeall y rheolau
- os bydd angen, gwneud cais i'r llys am i roddion nas caniateir gael eu fforffedu,
- cyhoeddi adroddiad ar unrhyw faterion yn ymwneud â gweinyddu deiseb adalw a'r fframwaith ar gyfer gwariant ar ymgyrchu a rhoddion yn y digwyddiadau hyn
- 1. Adran 6, Deddf Adalw ASau 2015 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 28, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 6, Deddf Adalw ASau 2015 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 121, Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 8, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5