| Argraffu'r canllawiau llawn

Yr hawl i lofnodi absennol 

Pan fydd y cyfnod llofnodi wedi'i gadarnhau, bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sicrhau bod ei feddalwedd i reoli etholiad yn barod fel y gellir nodi'r rheini sy'n gymwys i lofnodi drwy post

Pleidleiswyr absennol presennol

Mae gan bobl yr hawl i lofnodi'r ddeiseb drwy'r post neu drwy ddirprwy:1  

  • os ydynt wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os ydynt eisoes wedi'u cynnwys ar restr pleidleiswyr absennol neu restr dirprwyon o ganlyniad i gais am gyfnod penodol neu amhenodol a gymeradwywyd cyn y diwrnod olaf  (h.y. tri diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod llofnodi)

Os oes rhywun wedi gwneud cais am bleidlais bost am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod y cyfnod llofnodi, tybir y bydd yn parhau tan ddiwedd y cyfnod llofnodi (oni bai bod y person yn ei ganslo cyn 5pm ar yr unfed diwrnod gwaith ar ddeg cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi).2

Os oes rhywun wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod y cyfnod llofnodi, mae ei hawl i bleidlais drwy ddirprwy yn dod i ben pan ddaw'r cyfnod penodol i ben.3  

Ceisiadau newydd i lofnodi deiseb drwy'r post

Gall pobl wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i lofnodi unrhyw ddeiseb drwy'r post, naill ai am gyfnod amhenodol, neu am gyfnod penodol, neu i lofnodi deiseb benodol drwy'r post:4  

  • os ydynt neu os byddant wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os nad ydynt eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb mewn man llofnodi, ac
  • os yw eu cais yn cynnwys eu llofnod a'u dyddiad geni, ynghyd â'r wybodaeth arall a ragnodwyd

Nid yw'n ofynnol i'r ymgeisydd roi rheswm pam mae am lofnodi deiseb drwy'r post. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar geisiadau am bleidlais bost ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban 

Ceisiadau newydd i lofnodi deiseb drwy ddirprwy

Gall pobl wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i lofnodi unrhyw ddeiseb drwy ddirprwy, naill ai am gyfnod amhenodol, neu am gyfnod penodol, neu i lofnodi deiseb benodol drwy ddirprwy:5  

  • os ydynt neu os byddant wedi'u cofrestru fel etholwr seneddol ac y byddant yn 18 oed neu'n hŷn erbyn diwedd y cyfnod llofnodi, ac
  • os nad ydynt eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb mewn man llofnodi, ac
  • os yw eu cais yn cynnwys eu llofnod a'u dyddiad geni, ynghyd â'r wybodaeth arall a ragnodwyd, ac
  • os ydynt yn gymwys i lofnodi deiseb drwy ddirprwy yn unol â'r rheoliadau6  

Mae angen nodi rheswm penodol ar gyfer ceisiadau am ddirprwy am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodol.7  

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Dirprwy mewn argyfwng

Gall etholwyr wneud cais i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol am ddirprwy mewn argyfwng am resymau tebyg i resymau mewn etholiad.8 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddirprwyon mewn argyfwng gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Terfynau amser ar gyfer ceisiadau

Y terfyn amser ar gyfer gwneud newidiadau (gan gynnwys canslo) i drefniadau llofnodi absennol presennol (h.y. drwy'r post, drwy ddirprwy, drwy'r post drwy ddirprwy) yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.9 Fodd bynnag, os oes llofnodwr drwy'r post eisoes wedi dychwelyd ei daflen lofnodi drwy'r post, ni all wneud newidiadau ar ôl y cyfnod hwnnw, hyd yn oed os yw cyn 5pm 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.10  

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau newydd am lofnodi drwy'r post a llofnodi drwy'r post drwy ddirprwy hefyd yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi.11  

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau newydd am ddirprwy (nid dirprwy drwy'r post), heb gynnwys ceisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng, yw 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn diwedd y cyfnod llofnodi.12  

Y terfyn amser ar gyfer dirprwy mewn argyfwng yw 5pm ar y diwrnod llofnodi olaf neu, os bydd y ddeiseb yn cau yn gynharach, y terfyn amser yw dechrau'r awr olaf y bydd y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ar y diwrnod hwnnw.13  
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Medi 2023