Canllawiau i Swyddogion Deisebau
Dilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol a'u storio
Ar ddiwedd pob diwrnod yn ystod y cyfnod llofnodi o chwe wythnos1 pan fydd y ddeiseb ar agor, rhaid i'r blwch pleidleisio ar gyfer pob man llofnodi gael ei agor a rhaid cyfrif ei gynnwys. 2
Rhaid i chi roi trefniadau ar waith i ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol, a all gael ei wneud naill ai:
- gan y Clerc Deiseb yn y man llofnodi, yn unol â'ch cyfarwyddyd, neu
- gennych chi, ar ôl i'r blwch pleidleisio a deunyddiau eraill gael eu cludo i leoliad canolog
Yr unig bobl a all fod yn bresennol yn ystod y broses ddilysu yw chi, clercod deiseb, cynorthwywyr penodedig ac unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol.3 Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.
Mae'r broses ddilysu yn golygu torri sêl y blwch pleidleisio, gwagio ei gynnwys a chyfrif nifer y taflenni llofnodi ynddo. Rhaid cwblhau cyfrif taflenni llofnodi dyddiol, sy'n nodi nifer y taflenni llofnodi a roddwyd, y nifer nas rhoddwyd, a nifer y taflenni llofnodi a ddifethwyd ac a gyflwynwyd.
Os ydych wedi cyfarwyddo'r Clerc Deiseb i ddilysu taflenni llofnodi yn ddyddiol yn y man llofnodi, rhaid i chi sicrhau bod person arall a benodwyd gennych yn bresennol yn ystod y weithdrefn. Os nad yw person a benodwyd ar gael, rhaid i'r blwch pleidleisio a'r cyfrifon taflenni llofnodi gael eu cludo i chi er mwyn i'r broses gael ei chynnal yn ganolog.
Os bydd y Clerc Deiseb yn nodi unrhyw anghysondebau rhwng nifer y taflenni llofnodi yn y blwch pleidleisio a'r nifer a roddwyd, rhaid iddo roi gwybod i chi am yr anghysondeb ar unwaith.4
Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i'ch clercod deiseb am storio'r deunyddiau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod llofnodi a/neu eu cludo'n ddiogel.5
Pan fydd y blwch pleidleisio a deunyddiau eraill yn cael eu hanfon atoch er mwyn dilysu'r taflenni llofnodi, rhaid i chi gadw'r taflenni llofnodi a ddilyswyd yn ddiogel tan ddiwedd y cyfnod llofnodi.
Os caiff y taflenni llofnodi eu hanfon atoch ar ddiwedd pob diwrnod, rhaid i chi baratoi a selio pecynnau ar wahân o'r canlynol:
- y taflenni llofnodi a ddilyswyd
- y taflenni llofnodi a ddifethwyd
- y taflenni llofnodi a gyflwynwyd
Rhaid i chi sicrhau bod y cyfrif dyddiol o'r taflenni llofnodi a gwblhawyd a deunyddiau eraill yn cael eu dychwelyd i'r man llofnodi fel y bo modd llofnodi'r ddeiseb drannoeth.6
- 1. Adran 9, Deddf Adalw ASau 2015 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 33(1), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 33(8), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 34, Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 33(5), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 33(6) a (7), Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 6