Pan fydd hysbysiad Llefarydd mewn perthynas â deiseb adalw wedi'i roi ar gyfer un o etholaethau Senedd y DU, mae'n ofynnol i'r Swyddog Deisebau gyhoeddi cofrestr deiseb ar y trydydd diwrnod gwaith cyn i'r cyfnod llofnodi ddechrau.
Bydd gan unrhyw etholwr ar gyfer yr etholaeth berthnasol sy'n gwneud cais ar y diwrnod y rhoddwyd hysbysiad y Llefarydd neu'r diwrnod cyn hynny, ac y bydd penderfyniad ynghylch ei gais cyn cyhoeddi cofrestr y ddeiseb (y diwrnod olaf) yr hawl i lofnodi'r ddeiseb.1
Mae'n ofynnol i chi gyhoeddi hysbysiad deiseb newid ar y diwrnod olaf, sy'n manylu ar ychwanegiadau, newidiadau a dileadau sydd mewn pryd, yn ogystal ag unrhyw newidiadau o ganlyniad i orchmynion llys neu wallau clercol.
Dim ond pan geir yr hysbysiad newid misol nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gynharaf, y bydd penderfyniadau sy'n ymwneud ag etholaethau eraill, neu'r gofrestr llywodraeth leol yn unig, yn dod i rym.
Bydd angen bod trefniadau ar waith gennych er mwyn gwybod a yw cais wedi cyrraedd cyn y dyddiad cau ai peidio.
Os nad chi yw'r Swyddog Deisebau, bydd angen i chi gytuno ag ef ynghylch sut y byddwch yn darparu'r hysbysiadau perthnasol ar gyfer yr etholaeth neu'r rhan o'r etholaeth rydych yn gyfrifol amdani. Mae hyn yn cynnwys unrhyw hysbysiadau a roddwyd o ganlyniad i orchmynion llys neu wallau clercol hyd at ddiwedd y cyfnod llofnodi.
Mae'r tabl canlynol yn nodi'r amserlen ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau mewn da bryd i'w cynnwys yn yr hysbysiad deiseb newid:
Proses Cofrestr y Ddeiseb
Dyddiad cau
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (ceisiadau newydd a diwygiadau i gofnodion presennol)
Y dyddiad y rhoddir hysbysiad y Llefarydd
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu; dyddiad cau ar gyfer dileu; dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau cofrestru dienw a phenderfynu arnynt
Ar ddiwrnod cyhoeddi'r hysbysiad deiseb newid
Cyhoeddi'r hysbysiad deiseb newid a'i ddarparu i'r Swyddog Deisebau
3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod llofnodi
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud rhagor o newidiadau o ganlyniad i orchmynion llys neu wallau clercol
Cyn yr amser penodedig ar ddiwrnod olaf y cyfnod llofnodi (h.y. 1 awr cyn diwedd y cyfnod llofnodi ar y diwrnod llofnodi olaf).
Mae rhagor o ganllawiau ar ddarparu'r gofrestr i'r Swyddog Deisebau ar gael yn ein hadnodd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
1. Adran 10, Deddf Adalw ASau 2015, ac Adran 13BC(2) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (a fewnosodwyd gan Atodlen 2, Deddf Adalw ASau 2015)↩ Back to content at footnote 1