Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Dychwelyd a derbyn pleidleisiau post

Er mwyn i becyn pleidleisio drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio naill ai drwy'r post neu'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o adeiladau'r cyngor yn yr etholaeth.

Dylech gadarnhau'r trefniadau ar gyfer dychwelyd pleidleisiau post ac unrhyw wiriadau terfynol i'w cynnal ar y diwrnod pleidleisio â'r Post Brenhinol.  

Os bydd unigolyn yn mynd â'i bleidlais bost i orsaf bleidleisio a'i fod mewn ciw yn yr orsaf bleidleisio am 10pm ar y diwrnod pleidleisio, rhaid caniatáu iddo ddychwelyd pecyn pleidleisio drwy'r post o hyd. 

Storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel

Dylid storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys pan gânt eu cludo i unrhyw sesiwn agor amlenni pleidleisiau post ac i'r lleoliadau dilysu a chyfrif. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sicrhau diogelwch papurau pleidleisio.

Rhaid i unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd atoch, naill ai yn eich swyddfa neu yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gael eu cadw mewn blychau priodol. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi'r mesurau priodol ar waith ar gyfer cadw'r blychau hyn yn ddiogel.

Dylai'r dulliau storio a chludo y byddwch yn eu dewis eich bodloni bod y papurau pleidleisio a ddychwelwyd yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy. 

Pecynnau a blychau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelwyd

Rhaid bod gennych ddau fath o flychau pleidleisio ar gyfer storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel: 

  • y blwch/blychau i bleidleiswyr post
  • y blwch/blychau pleidleisio drwy'r post1

Ym mhob sesiwn agor, rhaid i chi hefyd ddarparu blychau ar gyfer y canlynol:

  • pleidleisiau a wrthodwyd 
  • datganiadau pleidleisio drwy'r post 
  • amlenni papurau pleidleisio
  • amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd

Hefyd, mae'n ofynnol i chi gael copi o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y gellir marcio cofnodion pan gaiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu dychwelyd. 

Y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post

Defnyddir y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post i storio pleidleisiau post a ddychwelwyd wrth iddynt aros i gael eu hagor. 

Dylai unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau pleidleisio drwy'r post neu amlenni papurau pleidleisio na chânt eu derbyn fel pecyn cyflawn hefyd gael eu rhoi yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post. 

Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio i bleidleiswyr post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.2

Rhaid i chi gymryd rhagofalon i sicrhau bod y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gadw’n ddiogel.3  Dylech selio’r blwch pleidleisio i bleidleiswyr post a’i storio mewn man sy’n ddiogel, er enghraifft cwpwrdd neu ystafell dan glo, tan yr agoriad arferol nesaf o bleidleisiau post. Bydd y rhagofalon hyn yn sicrhau bod diogelwch cynnwys y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gynnal bob amser.

Blychau pleidleisio drwy'r post

Defnyddir blychau pleidleisio drwy'r post i storio'r papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a gaiff eu cyfrif. 
 
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio drwy'r post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio drwy'r post.4
 
Rhaid storio pob blwch pleidleisio drwy'r post yn ddiogel nes y cynhelir y broses gyfrif. Mae gan unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn achlysur agor amlenni pleidleisiau post yr hawl i ychwanegu eu seliau at flychau pleidleisio drwy'r post os byddant yn dymuno gwneud hynny.5

Pleidleisiau post sy'n cael eu dychwelyd â llaw yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor

Mae unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau pleidleisio drwy'r post - yn cynnwys pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor. Caiff y pecynnau hyn eu trin fel pe baent yn flwch pleidleisio i bleidleiswyr post6  ac felly dylid eu hagor yn unol â'r broses a ddarperir yn ein canllawiau ar Agor pleidleisiau post.

Rhaid i unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau a ffurflenni pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd - gael eu cynnwys ar y rhestr o etholwyr y gwrthodwyd eu pleidlais bost pan gafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor. Mae rhagor o wybodaeth wedi’i nodi yn ein canllawiau ar gadw cofnod o’r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2024