Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Atal twyll a chynnal uniondeb y broses

Dylai aelodau o'r cyhoedd ac ymgyrchwyr fod yn hyderus nad oes unrhyw elfen o dwyll ym mhroses y ddeiseb. 

Bydd angen i chi roi cynlluniau ar waith i atal twyll etholiadol a gweithio gyda'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu er mwyn ymdrin ag unrhyw honiadau penodol neu batrymau o weithgarwch a allai awgrymu problemau posibl o ran uniondeb.

Mae nifer o droseddau posibl yn ystod proses deiseb, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Cambersonadu 1
  • Troseddau'n gysylltiedig â llofnodi a llofnodi drwy ddirprwy2
  • Cais ffug am daflen lofnodi drwy'r post neu drwy ddirprwy3
  • Datganiadau anwir ynghylch llofnodi absennol4
  • Ymyrryd â thaflenni llofnodi5
  • Ymgyrchwyr gwleidyddol yn trin dogfennau deiseb bost6
  • Ymyrryd â hysbysiadau7
  • Dylanwadu ar bobl sy'n llofnodi deiseb8
  • Torri'r gofynion ynglŷn â chyfrinachedd9
  • Cynhyrchu deunyddiau sy'n ffugio hysbysiadau deiseb swyddogol10
  • Datganiadau anwir ynghylch yr AS neu ymgyrchydd achrededig11
  • Talu am arddangos hysbysiadau12  
  • Torri'r gofynion ynglŷn ag argraffnodau 13
  • Talu canfaswyr14
  • Taliadau anghyfreithlon15
  • Llwgrwobrwyo16
  • Anrhegu17
  • Dylanwad gormodol18
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Awst 2026