Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Lleoliadau

Dylai'ch cynllun prosiect gynnwys nodi lleoliadau addas ar gyfer pob proses, a dylech sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mor fuan â phosibl, yn enwedig ar gyfer mannau llofnodi.

Mannau llofnodi

Ni fydd angen i chi nodi cymaint o fannau llofnodi ag y byddech mewn gorsafoedd pleidleisio mewn etholiad. Gallwch ddynodi hyd at 10 o fannau llofnodi.1 Bydd angen i chi sicrhau bod y mannau llofnodi a ffefrir gennych ar gael yn gynnar yn eich proses gynllunio oherwydd y bydd angen iddynt gael eu dynodi cyn gynted â phosibl ar ôl yr hysbysiad o'r ddeiseb.

Dylech edrych ar eich cynllun ar gyfer mannau pleidleisio rydych wedi'i ddefnyddio mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol, ac asesu eu haddasrwydd.  Bydd hefyd angen i chi sicrhau bod unrhyw fannau llofnodi yn hygyrch ar gyfer pleidleiswyr anabl.

Wrth gadarnhau a ydynt ar gael, bydd angen i chi bwysleisio bod angen i'r man llofnodi fod ar gael am gyfnod o chwe wythnos a thu hwnt i'r cyfnod llofnodi craidd sef 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Yng Nghymru a Lloegr, gall ysgolion a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd, gael eu defnyddio fel mannau llofnodi am ddim.2  

Yn yr Alban, gellir defnyddio ysgolion, heb gynnwys ysgolion annibynnol, fel mannau llofnodi am ddim.3  

Mae gennych yr hawl hefyd i ddefnyddio unrhyw ystafell a ariennir yn gyhoeddus am ddim. 

Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am unrhyw gostau goleuadau, gwres ac ati yr eir iddynt wrth ddefnyddio ystafelloedd o'r fath fel mannau llofnodi. 

Lleoliadau anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post

Dylech ddefnyddio eich cynlluniau o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol wrth ddewis lleoliadau ar gyfer anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post a phenderfynu ar y nifer priodol o sesiynau i'w cynnal. 

Wrth benderfynu sawl sesiwn agor i'w chynnal dros y cyfnod, dylech ystyried bod pobl yn cael mwy o amser i ddychwelyd eu pecynnau llofnodi drwy'r post o gymharu â'r cyfnod arferol ar gyfer dychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau. 

Bydd sesiynau agor rheolaidd yn eich helpu i roi cadarnhad i bobl a ydych wedi derbyn eu taflenni llofnodi a'u datganiadau4  a'ch galluogi i nodi lle mae pobl eisoes wedi dychwelyd taflen lofnodi drwy'r post, ac felly na chaniateir iddynt wneud newidiadau i'w trefniadau llofnodi absennol, hyd yn oed pan fydd hyn cyn y terfyn amser ar gyfer newidiadau

Dylai eich sesiwn agor gyntaf ddigwydd o fewn ychydig ddiwrnodau i anfon y swp cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn nifer mawr o daflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd erbyn hynny, dylech gynnal sesiwn o hyd ac achub ar y cyfle i brofi eich cyfarpar ac asesu eich llifau gwaith o dan amodau gwirioneddol. 

Dylech hefyd gynllunio ar gyfer sesiynau agor eraill yn ystod cyfnodau y disgwylir y bydd nifer mawr o daflenni llofnodi yn cael eu dychwelyd ar ôl i becynnau llofnodi drwy'r post gael eu hanfon.      

Lleoliad y cyfrif

Dylech ddefnyddio'ch cynlluniau o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol wrth ddewis lleoliadau ar gyfer cyfrif y llofnodion.  

Er bod y broses gyfrif yn symlach nag ydyw mewn etholiad, bydd angen i chi roi trefniadau ar waith i'ch galluogi i roi cyfrif cywir y mae pawb yn ymddiried ynddo. Mae ein canllawiau dilysu a chyfrif  yn cynnwys nifer o bwyntiau i chi eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y cyfrif.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025