Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Dynodi mannau llofnodi

Unwaith y byddwch wedi derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddynodi mannau llofnodi, sef1 y mannau lle bydd y ddeiseb adalw ar gael i etholwyr cymwys ei llofnodi, yn debyg i'r ffordd mae etholwyr yn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.

Cewch ddynodi hyd at uchafswm o 10 o fannau llofnodi.2  

Wrth benderfynu sawl man llofnodi i'w ddarparu, a'r lleoliadau i'w defnyddio fel mannau llofnodi, rhaid i chi geisio sicrhau'r canlynol: 

  • mae pob person sydd â'r hawl i lofnodi'r ddeiseb adalw yn cael y cyfryw gyfleusterau rhesymol i'w llofnodi ag sy'n ymarferol o dan yr amgylchiadau, ac
  • i'r graddau y mae'n rhesymol ac yn ymarferol, mae pob man a ddynodwyd yn hygyrch i bobl anabl3

Fel wrth ddynodi mannau pleidleisio mewn etholiad, dylech seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sy'n ymarferol ac yn rhesymol i'r etholaeth. Er, mewn rhai ardaloedd, y gall y dewis o adeiladau ar gyfer y cyfnod chwe wythnos llawn fod yn gyfyngedig, lle bynnag y bo'n bosibl, dylech sicrhau bod mannau llofnodi wedi'u lleoli ar bellter rhesymol a'u bod mor gyfleus â phosibl i etholwyr dynodedig lofnodi yno, yn ddelfrydol gyda mynediad da i gerddwyr a'r sawl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gan mai dim ond hyd at 10 man llofnodi y gallwch eu dynodi, bydd mwy o etholwyr wedi'u dynodi i bob man llofnodi na'r hyn sy'n arferol ar gyfer etholiad. Dylech ystyried yr ardal ddaearyddol a dosbarthiad yr etholwyr yn eich etholaeth er mwyn pennu pa etholwyr a gaiff eu dyrannu i bob man llofnodi.

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd wedi cyhoeddi rhagor o ganllawiau i Swyddogion Deisebau ar y mater hwn.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025