Mae'r adran hon yn esbonio'r hawl i wneud cais i lofnodi deiseb drwy'r post neu drwy ddirprwy, a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny. Er mai'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gymeradwyo trefniadau llofnodi absennol, bydd angen i chi gydgysylltu â nhw er mwyn cael y data perthnasol, a bydd angen i chi allu hysbysu'r cyhoedd am y terfynau amser.
Mae'r adran hon hefyd yn ymdrin â'r trefniadau y bydd angen i chi eu rhoi ar waith i anfon ac agor pecynnau llofnodi drwy'r post.
Bydd angen i chi gyflogi a hyfforddi cynorthwywyr, a rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig iddynt ynglŷn â'r gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer anfon ac agor pecynnau llofnodi drwy'r post.