Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Staffio a hyfforddiant

Dylech nodi'r staff y bydd eu hangen a gwneud y penodiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. 

Dylech sicrhau bod trefniadau dirprwyo ar waith rhag ofn na allwch weithredu'n bersonol. Gallwch benodi dirprwyon i gyflawni eich holl gyfrifoldebau neu unrhyw rai ohonynt.1  

Rhaid i bob awdurdod lleol sy'n dod o fewn yr etholaeth sicrhau bod ei swyddogion ar gael i'ch helpu.2

Bydd angen i chi benodi: 

  • clercod deiseb a chynorthwywyr ar gyfer y mannau llofnodi3
  • staff i anfon ac agor taflenni llofnodi drwy'r post 
  • staff i gyfrif y llofnodion
  • unrhyw staff cymorth eraill rydych wedi nodi y bydd eu hangen

Rhaid i bob aelod o'r staff gael copi o'r gofynion ynglŷn â chyfrinachedd.4  

Er mwyn sicrhau parhad, lle y bo'n bosibl, dylech ystyried cael yr un nifer o staff yn y mannau llofnodi drwy gydol y cyfnod llofnodi.

Lle na ellir cyflawni hyn, gallech ystyried system rota lle bydd yr un aelodau o staff yn gweithio ar yr un diwrnod o'r wythnos drwy gydol y chwe wythnos, er enghraifft.

Rhaid i chi beidio â phenodi unrhyw un sydd wedi cael ei gyflogi gan neu ar ran ymgyrchydd achrededig mewn perthynas â'r ddeiseb. 

Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer hyfforddi'ch staff er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'r hyn a ddisgwylir ganddynt.  Er bod rôl clerc deiseb yn debyg i rôl Swyddog Llywyddu, bydd angen i chi addasu eich hyfforddiant gorsafoedd pleidleisio i adlewyrchu gwahaniaethau ar gyfer rheoli man llofnodi ar gyfer deiseb adalw – er enghraifft, pwy sy'n gymwys i fynd i fannau llofnodi. 

Rydym wedi llunio canllaw i'r broses lofnodi ar gyfer clercod deiseb, y gellir ei ddefnyddio yn ogystal â'n llawlyfr gorsafoedd pleidleisio.

Bydd hefyd angen i chi sicrhau eich bod yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod deiseb a chynorthwywyr i'w helpu i ddeall y rhwystrau  y gall rhai pobl anabl eu hwynebu wrth fynd i fan llofnodi a sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar a ddarperir er mwyn galluogi pobl anabl i lofnodi'n annibynnol. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025