| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhestr o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd

Rhaid i chi roi dogfen ym mhob man llofnodi sy'n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â gofynion o ran prawf adnabod pleidleiswyr.

Defnyddir y rhestr o'r taflenni llofnodi a wrthodwyd drwy gydol y cyfnod llofnodi i nodi a chofnodi nifer y papurau llofnodi a wrthodwyd ar sail:

  • Nid oedd yn ymdebygu i'r ID ffotograffig
  • Roedd clerc y ddeiseb o'r farn mai ID ffotograffig ffug oedd gan yr unigolyn
  • Ni lwyddodd yr etholwr i ateb y cwestiynau rhagnodedig yn foddhaol

Mae angen diweddaru'r rhestr o daflenni llofnodi a wrthodwyd os bydd etholwr yn dychwelyd yn ddiweddarach gyda math derbyniol o ID ffotograffig.

Gallwch ofyn i glercod y ddeiseb gasglu data gan ddefnyddio’r ffurflen gwerthuso ID Pleidleisiwr. Er nad yw'n ofyniad statudol i gasglu'r wybodaeth hon, gallwch benderfynu casglu'r wybodaeth hon yn lleol er mwyn deall gweithrediad y gofynion ID Pleidleisiwr yn eich ardal. Pan fyddwch yn penderfynu casglu gwybodaeth ffurflen gwerthuso ID Pleidleisiwr, ni fydd gofyn i chi goladu’r data a'i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol na'r Comisiwn ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar gyhoeddi data’r ffurflen gwerthuso ID Pleidleisiwr. Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Gweithredol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Awst 2026