Rhaid i chi gyhoeddi cofrestr y ddeiseb dri diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod llofnodi o chwe wythnos.1
Dyma'r diwrnod olaf ar gyfer cynnwys newidiadau i'r gofrestr sy'n weithredol ar gyfer y ddeiseb, fel y cawsoch wybod amdanynt gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Yna, gall newidiadau pellach i'r gofrestr o ganlyniad i orchymyn llys neu i gywiro gwall clercio gael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod llofnodi, fel y'i rhoddwyd ar yr hysbysiad o ddeiseb. Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad sy'n manylu ar unrhyw newidiadau o'r fath i'r gofrestr.2
Rhaid i chi gyflenwi cofrestr y ddeiseb ac unrhyw hysbysiadau newid am ddim ar gais i'r canlynol:3
plaid gofrestredig (ac eithrio pleidiau llai)
yr AS y mae'r ddeiseb yn ymwneud ag ef/hi
y Comisiwn Etholiadol
gwasanaethau diogelwch a'r heddlu
ymgyrchydd achrededig
Mae'r cyfyngiadau arferol ar y defnydd a wneir o'r gofrestr etholiadol yn gymwys. Mae ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y defnydd o'r gofrestr etholiadol.