Canllawiau i Swyddogion Deisebau

| Argraffu'r canllawiau llawn

Dynodi dyddiad dechrau'r cyfnod llofnodi


Unwaith y byddwch wedi derbyn hysbysiad y Llefarydd, rhaid i chi ddynodi'r diwrnod y bydd cyfnod llofnodi'r ddeiseb yn dechrau, sef y 10fed diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y derbynnir hysbysiad y Llefarydd (neu'r diwrnod gwaith nesaf os nad yw'r diwrnod hwnnw yn ymarferol).1

Rhaid i chi sicrhau bod y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ym mhob man ar bob diwrnod gwaith drwy gydol y cyfnod llofnodi rhwng 9am a 5pm.2  

Hefyd, rhaid i chi sicrhau bod y ddeiseb ar gael i'w llofnodi ar adegau eraill,3 fel gyda'r nos neu ar benwythnosau. Rhaid i'r oriau ychwanegol hyn gael eu nodi ar yr hysbysiad o ddeiseb.4 Gall yr oriau ychwanegol hyn amrywio hefyd mewn gwahanol fannau llofnodi.5

Mae nifer o faterion y dylech eu hystyried wrth benderfynu ar y manylion hyn, gan gynnwys:

  • Cwmpas yr oriau estynedig, er enghraifft: 
    • agor yn gynnar un diwrnod yr wythnos, e.e. 7am 
    • cau yn hwyr un diwrnod yr wythnos, e.e. 8pm
    • agor ar benwythnosau, e.e. bore dydd Sadwrn
  • argaeledd staff 
  • hygyrchedd adeiladau y tu allan i'r oriau agor a drefnwyd 

Dylech seilio eich penderfyniadau ar yr hyn sy'n ymarferol ac yn rhesymol i'r etholaeth.

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi cyhoeddi rhagor o ganllawiau i Swyddogion Deisebau  ar y mater hwn.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025