Bydd cyfnod chwe wythnos y ddeiseb yn cael ei derfynu'n gynnar:
os bydd Senedd y DU yn cael ei diddymu cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU,1
neu
os bydd sedd yr AS yn mynd yn wag am unrhyw reswm arall (fel ymddiswyddiad), neu
os caiff euogfarn, dedfryd o garchar neu orchymyn cadw'n gaeth yr AS ei (g)wrthdroi
Bydd y Llefarydd yn hysbysu'r Swyddog Deisebau y bydd y Ddeiseb yn cael ei therfynu'n gynnar.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Swyddog Deisebau gael hysbysiad o'r fath rhaid iddo wneud y canlynol:
cymryd y camau angenrheidiol i derfynu'r broses o lofnodi'r ddeiseb
os caiff hysbysiad y Llefarydd ei dderbyn ar ôl i'r taflenni llofnodi drwy'r post gael eu hanfon, ni ddylai barhau i agor y prif amlenni a dylai drin y prif amlenni sydd heb eu hagor fel pe baent yn daflenni llofnodi sydd wedi cael eu cyfrif2
rhoi hysbysiad cyhoeddus y bydd proses y ddeiseb yn cael ei therfynu3
Rhaid i hysbysiad cyhoeddus y Swyddog Deisebau y bydd y ddeiseb yn cael ei therfynu'n gynnar gynnwys:4
enw ac etholaeth yr AS yr oedd y ddeiseb yn ymwneud ag ef/hi
yr amod adalw a fodlonwyd mewn perthynas â'r AS hwnnw
dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod llofnodi ar gyfer y ddeiseb honno
yr amod terfynu a fodlonwyd
Rhaid i'r Swyddog Deisebau yng Nghymru a Lloegr anfon y dogfennau perthnasol ymlaen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Yn yr Alban, rhaid i'r Swyddog Deisebau gadw'r dogfennau.