| Argraffu'r canllawiau llawn

Y broses gyfrif

Mae'r broses gyfrif yn gymharol syml gan nad oes angen didoli papurau. Rhaid i chi wneud y canlynol:1  

  • cyfrif a chofnodi nifer y taflenni llofnodi a dderbyniwyd drwy'r broses ddilysu ddyddiol ac ar ddiwedd y ddeiseb 
  • dilysu'r cyfrif taflenni llofnodi terfynol ar gyfer pob un o fannau llofnodi'r ddeiseb, a
  • cyfrif a chofnodi'r taflenni llofnodi drwy'r post a ddychwelwyd

Drwy gydol y broses gyfrif, rhaid cadw'r taflenni llofnodi wyneb i fyny.2  

Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau i'r staff ynglŷn â'ch prosesau cyfrif, gan gynnwys sut i gyfrif y taflenni llofnodi a'u rhoi mewn bwndeli, a chofnodi rhifau'r taflenni llofnodi a gyfrifwyd.

Rhaid i chi baratoi datganiad ynghylch canlyniad y broses ddilysu.3

Taflenni llofnodi a ddychwelwyd

Dylid cynnwys taflenni llofnodi amheus yn y ffigur dilysu, ond eu rhoi o'r neilltu er mwyn penderfynu arnynt.

Rhaid i chi wrthod taflen lofnodi:4  

  • nad yw'n dwyn y marc swyddogol
  • nad yw wedi'i marcio neu sy'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd

Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi na ddylid gwrthod taflen lofnodi lle mae'r llofnod wedi'i dorri yn y ffyrdd canlynol os yw'r bwriad i lofnodi'r ddeiseb yn glir:5  

  • yn rhywle arall yn hytrach na'r man priodol
  • mewn ffordd arall ar wahân i lofnod
  • drwy fwy nag un marc

Rhaid i chi baratoi datganiad sy'n dangos nifer y taflenni llofnodi a wrthodwyd ar gyfer pob categori.6

Mae penderfyniad y Swyddog Deisebau ar unrhyw gwestiwn sy'n codi wrth roi dyfarniad ar y taflenni llofnodi yn derfynol, ond gall fod yn destun adolygiad ar gŵyn ynghylch deiseb adalw. 7 Mae'r broses gwynion ynghylch deiseb adalw  yr un fath ag ar gyfer deisebau etholiadol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025