| Argraffu'r canllawiau llawn

Dyrannu taflenni llofnodi

Rhaid i chi ddarparu cynifer o daflenni llofnodi a all fod yn angenrheidiol, yn eich barn, i bob man llofnodi.1    

Wrth ddyrannu taflenni llofnodi i fannau llofnodi, gwnewch yn siŵr bod y rhifau ar y taflenni a ddyrannwyd i bob man llofnodi yn rhedeg yn olynol er mwyn osgoi unrhyw broblemau wrth gwblhau'r rhestr rhifau cyfatebol neu'r cyfrifon dyddiol o'r taflenni llofnodi.  

Taflenni llofnodi a gyflwynwyd

Rhaid darparu taflenni llofnodi a gyflwynwyd hefyd.2 Dylech egluro i'r clercod deiseb mai dim ond o dan amgylchiadau a ragnodwyd y dylid rhoi'r rhain. Yr amgylchiadau cyfyngedig lle mae taflenni llofnodi a gyflwynwyd yr un fath â'r rhai ar gyfer rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd mewn etholiad. Mae Atodiad 5b o'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn nodi'r amgylchiadau lle dylid rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd. 

Rhaid i daflenni llofnodi a gyflwynwyd fod mewn lliw gwahanol. Ni ddylid rhoi taflenni llofnodi a gyflwynwyd a gwblhawyd yn y blwch pleidleisio. Rhaid i glerc y ddeiseb arnodi taflen lofnodi a gyflwynwyd gydag enw'r person sy'n llofnodi'r ddeiseb a rhif y person hwnnw yn y gofrestr a'i rhoi o'r neilltu mewn pecyn ar wahân.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025