Rhaid i chi gwblhau datganiad cywir ynghylch y taflenni llofnodi drwy'r post. Rhaid i'r datganiad gael ei wneud ar ffurf ‘Ffurflen L’, sydd wedi'i rhagnodi.1
Yn ogystal ag anfon hwn at y swyddog perthnasol fel y'i nodwyd yn yr adran ar Storio a chadw dogfennau, rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad i'r Comisiwn a'r Gweinidog.2
Rhaid i'r datganiad gael ei ddarparu heb fod yn gynharach na 10 diwrnod gwaith ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi a rhaid iddo gyrraedd heb fod yn hwyrach na 25 diwrnod calendr ar ôl y cyfnod llofnodi.3
Os nad yw'r naill ddyddiad na'r llall yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei ymestyn i'r diwrnod gwaith nesaf.