Rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y llofnodion cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod llofnodi, a heb fod yn hwyrach na diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.1
Yr unig bobl a all fod yn bresennol pan fydd y llofnodion yn cael eu cyfrif yw chi, cynorthwywyr penodedig, unrhyw gynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol neu arsylwyr achrededig, ac unrhyw berson arall a ganiateir gennych.2
Rhaid i chi ystyried y gofynion cyfrinachedd ar gyfer cyfrifo'r canlyniadau 3
a thryloywder y broses wrth benderfynu a fyddwch yn caniatáu i bobl ychwanegol fod yn bresennol yn y cyfrif.
Nid oes unrhyw ddarpariaeth i'r AS na'i gynrychiolwyr/chynrychiolwyr fod yn bresennol.