Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr yn seiliedig ar eu cod post. Rydym yn storio’r cod post yn ddienw i gynhyrchu ystadegau pwysig ynghylch defnydd y gwasanaethau yn rhannau gwahanol o’r DU. Mae’r data yn ein helpu i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig.
Data a gasglwn gan ddefnyddwyr API
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer allwedd API, rydym yn gofyn eich bod yn darparu:
Eich enw
Eich cyfeiriad e-bost
Enw’r cwmni/sefydliad rydych yn ei gynrychioli (lle’n briodol)
Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon cyhyd â bod yr allwedd API yn cael ei ddefnyddio gennych. Pan na fyddwch yn defnyddio’r allwedd mwyach, byddwn yn cael gwared ar yr wybodaeth hon, oni bai bod angen i ni gadw’r wybodaeth yn ôl y gyfraith.
Cwcis
Rydym ond yn defnyddio cwcis angenrheidiol ar y wefan hon er mwyn dilysu defnyddwyr. Er mwyn i’r wefan weithio mae angen y dilysiad hwn.