Gwybodaeth am etholiad a’r teclyn canfod gorsaf bleidleisio
Introduction
Rydym yn darparu chwiliwr etholiad a theclyn canfod gorsaf bleidleisio drwy’r flwyddyn, mewn partneriaeth â Democracy Club Community Interest Company (Rhif y cwmni: 09461226). Mae’r teclyn hwn yn helpu pobl i ganfod yn gyflym pa etholiadau sy'n cael eu cynnal yn eu hardal nhw, gan roi manylion eu gorsaf bleidleisio a chyfeiriad eu cyngor lleol. Y Comisiwn Etholiadol a Democracy Club yw “rheolwyr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol a Democracy Club yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a’r ffyrdd y caiff ei brosesu.
Fel rheolwyr data, mae’r Comisiwn Etholiadol a Democracy Club yn gyfrifol am gydymffurfio, ac i ddangos cydymffurfiad, â chyfraith diogelu data.
Rydym yn argymell cyfeirio at bolisi preifatrwydd Democracy Club (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am sut y byddant yn prosesu eich data personol.
Rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol i gefnogi cyflawniad ein swyddogaethau statudol, yn benodol y ddyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r system etholiadol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol Etholiadau a Refferenda 2000.
Data a gasglwn gan ddefnyddwyr y gwasanaeth
Mae ein chwiliwr etholiad a’n teclyn canfod gorsaf bleidleisio yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr yn seiliedig ar eu cod post. Nid yw’r data hwn yn cael ei gadw gan y Comisiwn Etholiadol ond mae’n cael ei gasglu gan Democracy Club. Caiff codau post eu storio yn ddienw, i gynhyrchu ystadegau pwysig ynghylch defnydd y gwasanaethau yn rhannau gwahanol o’r DU. Mae’r data hwn yn helpu’r Comisiwn Etholiadol a Democracy Club i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Rydym yn argymell cyfeirio at bolisi preifatrwydd Democracy Club (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am sut y byddant yn prosesu eich data personol.
Defnyddwyr gwybodaeth am etholiad a’r teclyn canfod gorsaf bleidleisio sy’n cael eu lletya ar wefannau eraill
Rydym hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth am etholiadau, lleoliadau gorsafoedd pleidleisio a chyfeiriadau cynghorau lleol ar gael i sefydliadau eraill drwy API (Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau) a theclyn chwilio’r Comisiwn Etholiadol. Pan fydd defnyddwyr yn cyrchu data drwy sefydliadau gan ddefnyddio ein API neu declyn chwilio, mae’r cais i’n API yn cynnwys cod post y defnyddiwr. Nid yw’r data hwn yn cael ei gadw gan y Comisiwn Etholiadol ond mae’n cael ei gasglu gan Democracy Club. Caiff codau post eu storio yn ddienw, i gynhyrchu ystadegau pwysig ynghylch defnydd y gwasanaethau yn rhannau gwahanol o’r DU. Mae’r data hwn yn helpu’r Comisiwn Etholiadol a Democracy Club i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Rydym yn argymell cyfeirio at bolisi preifatrwydd Democracy Club (yn agor mewn ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth am sut y byddant yn prosesu eich data personol.
Cwcis
Rydym ond yn defnyddio cwcis angenrheidiol ar y wefan hon er mwyn dilysu defnyddwyr. Er mwyn i’r wefan weithio mae angen y dilysiad hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler ein polisi Cwcis.