Cafodd etholiadau Mai eu cynnal yn dda yng Nghymru er gwaethaf amgylchiadau heriol

Intro

Ni lwyddodd pryderon ynglŷn â Covid-19 i atal pleidleiswyr rhag cymryd rhan yn yr etholiadau yn gynharach eleni, yn ôl adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw. Mae ymchwil a dadansoddi gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod nifer y pleidleiswyr yng Nghymru ychydig yn uwch nag etholiadau blaenorol yn 2016, er gwaethaf y pandemig. 


Roedd etholiadau Mai ymysg y casgliadau mwyaf cymhleth o etholiadau a gynhaliwyd mewn hanes diweddar, gyda heriau ychwanegol pandemig y coronafeirws. Er gwaethaf yr heriau, mae’r adroddiad yn dangos fod 95% o bleidleiswyr Cymru yn fodlon gyda’r broses bleidleisio a bod 76% yn hyderus bod yr etholiad wedi ei chynnal yn llwyddiannus. 


Gwnaethpwyd 51,500 cais i gofrestru rhwng 26 Mawrth i 27 Ebrill, a chofrestrwyd cyfanswm o 2.3 miliwn i bleidleisio yn yr etholiadau yng Nghymru. Am y tro cyntaf roedd pobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion gwledydd tramor sy'n byw yng Nghymru yn gallu pleidleisio. Cofrestrodd tua 50% o bobl ifanc 16-17 a oedd newydd eu rhyddfreinio i bleidleisio yn yr etholiad.
 

Quote

“Mae llwyddo cyflwyno’r etholiadau hyn yn llwyddiannus yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymuned etholiadol Cymru. 


Er bod llawer o bleidleiswyr a oedd newydd eu rhyddfreinio wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn, mae ein hymchwil yn awgrymu bod angen gwneud gwaith addysgu ac ymgysylltu pellach i gefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru.”
 

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

Cont

Mae profiad yr etholiadau hyn hefyd wedi amlygu pryderon ynglŷn â gwydnwch a chapasiti strwythurau gweinyddu etholiadol yng Nghymru, sydd wedi eu cyplysu â’r heriau o gynnal etholiadau o fewn fframwaith cyfraith etholiadol sydd wedi dyddio ac sy’n gynyddol gymhleth. 

Quote cont.

“Mae ein hadroddiad yn amlygu’r pwysau ac ansicrwydd y teimlodd Swyddogion Canlyniadau a’u staff wrth gynnal yr etholiad. Mae diwygiadau etholiadol pellach yn cael eu hystyried yng Nghymru ac mae'n bwysig bod gan y rhain adnoddau a chyllid digonol.


Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a llywodraethau i helpu adeiladu capasiti a gwydnwch yn y gymuned etholiadol yng Nghymru.”
 

Ychwanegodd Rhydian Thomas:

Diwedd

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu drwy ffonio 029 2034 6824, tu allan i oriau 07789 920 414 neu anfon e-bost at [email protected].

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion:

 

  1. Mae'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol adrodd ar weinyddiaeth pob etholiad cenedlaethol. Mae'r adroddiad yn cyfuno ymchwil barn y cyhoedd, data cofrestru a phleidleisio ac adborth gan ymgyrchwyr, Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i edrych ar sut y cynhaliwyd yr etholiadau, sut beth oedd cymryd rhan i bleidleiswyr, sut y gwnaeth ymgyrchwyr drosglwyddo eu negeseuon i bleidleiswyr, a pha wersi all fod wedi'u dysgu ar gyfer y dyfodol.
     
  2. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd


Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.