Cofiwch eich ID i gael lleisio barn
Cofiwch eich ID i gael lleisio barn
Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i bleidleiswyr ym Mhrydain Fawr ddangos ID ffotograffig cyn cael eu papur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn atgoffa pleidleiswyr i gofio dod â math o ID a dderbynnir gyda nhw wrth fynd i bleidleisio ddydd Iau.
Mae'n rhaid i'r rhai hynny sy'n pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio ddangos math o ID a dderbynnir, sy'n cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad; trwydded yrru y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; rhai cardiau teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+; a'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim newydd. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID sydd wedi dirwyn i ben os gellir eu hadnabod o'r ffotograff o hyd.
Bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos ID a fydd yn cael ei wirio gan staff y gorsafoedd pleidleisio. Bydd ardal breifat ar gael yn yr orsaf bleidleisio fel y gall pleidleisiwr ddewis i'w ID ffotograffig gael ei wirio'n breifat.
Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Comisiwn Etholiadol:
“Dyma'r tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol yn y DU y bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn cael eu papur pleidleisio. Mae dod â math o ID a dderbynnir yn golygu y gallwch leisio barn yn y blwch pleidleisio.
“Cyn i chi fynd i'r orsaf bleidleisio, gwnewch yn siŵr bod gennych yr ID sydd ei angen arnoch i bleidleisio. Bydd angen i chi ddangos y fersiwn wreiddiol, ni fydd copïau na lluniau yn cael eu derbyn.
“Os na fyddwch yn cofio dod â'ch ID gyda chi i'r orsaf bleidleisio, gallwch ddychwelyd yn ddiweddarach yn y diwrnod gyda'ch ID. Bydd unrhyw un sy'n sefyll mewn ciw am 10pm yn gallu bwrw ei bleidlais.”
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Gall pleidleiswyr ddod o hyd i wybodaeth am eu gorsaf bleidleisio leol drwy nodi eu cod post ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae'n rhaid dychwelyd pleidleisiau post erbyn 10pm a gellir cyflwyno'r rhain mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn swyddfeydd y cyngor hefyd.
Mae'r rhestr lawn o'r mathau o ID a dderbynnir, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Os bydd pleidleiswyr yn colli eu ID, neu os na fydd eu Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer diwrnod yr etholiad, gallant benodi dirprwy mewn argyfwng i bleidleisio ar eu rhan hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid i'r person a benodir yn ddirprwy feddu ar ei ID ffotograffig a dderbynnir ei hun.
I gael rhagor o wybodaeth am ID pleidleiswyr a'r rhestr lawn o fathau o ID a dderbynnir, ewch i electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau/id-pleidleisiwr.
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid,
- anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.