Cyfle olaf i Brydeinwyr tramor i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol

Mae dinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU yn cael eu hannog i wirio a ydynt wedi gwneud cais am bleidlais absennol os na allant bleidleisio’n bersonol. 

 

Gellir gwneud ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy ym Mhrydain Fawr ar-lein a’r terfyn amser i wneud cais yw 5pm ar ddydd Mercher 26 Mehefin. 

 

Pleidlais drwy ddirprwy – pan fydd rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn pleidleisio ar eich rhan – yw’r opsiwn olaf sydd ar ôl i ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor oni bai eu bod wedi gwneud cais am bleidlais bost neu os byddant yn y DU ar 4 Gorffennaf. 

 

Gall unrhyw berson sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol gael eu penodi’n ddirprwy. Mae’n rhaid iddynt allu cyrraedd eich gorsaf bleidleisio i bleidleisio ar eich rhan a dangos ID ffotograffig. 

 

Am y tro cyntaf, mae dinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol waeth pa mor hir y maent wedi bod yn byw y tu allan i’r DU. 

 

Ers 16 Ionawr 2024, pan ddiddymwyd y rheol 15 mlynedd, mae mwy na 170,000 o ddinasyddion Prydeinig sy’n byw dramor wedi cofrestru i bleidleisio. 

 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau

 

“Os ydych yn byw dramor ac yn bwriadu pleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU, dim ond ychydig o ddiwrnodau sydd ar ôl gennych i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. 

 

“Mae ceisiadau i bleidleisio drwy’r post bellach wedi cau, felly yr unig ffordd i bleidleiswyr tramor sydd heb wneud cynlluniau eisoes yw gofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddo i fod yn ddirprwy a phleidleisio ar eu rhan. 

 

“Rydyn ni’n gwybod bod yna bleidleiswyr cymwys ym mhob cornel o’r byd felly rydyn ni’n galw ar unrhyw un sydd â ffrindiau a theulu dramor i helpu i ledaenu’r newyddion.” 

 

Diwedd

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected] 

Nodiadau i olygyddion


•    Y terfyn amser i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yw 5pm ar ddydd Mercher 26 Mehefin. Mae’n rhaid i chi hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio.

•    Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU oedd 18 Mehefin. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy’r post oedd 19 Mehefin.

•    Yn y gorffennol, roedd dinasyddion Prydeinig ond yn gymwys i bleidleisio os oeddent wedi byw dramor am lai na 15 mlynedd. Dilëwyd y terfyn hwnnw gan Ddeddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU, a ddaeth i rym ym mis Ionawr. 
•    Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
o    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
o    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
o    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth, ac eirioli trostynt gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
•    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.