Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol mwy ym Mhrydain Fawr
Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol mwy ym Mhrydain Fawr
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a'u hunedau cyfrifyddu ym Mhrydain Fawr sydd ag incwm a gwariant o fwy na £250,000 wedi cael eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2018.
Incwm a gwariant pleidiau
Cofnododd 11 o bleidiau ym Mhrydain Fawr fod ganddynt incwm neu wariant o fwy na £250,000. Cofnododd y pleidiau hyn gyfanswm o £97,834,448 o incwm a £99,394,478 o wariant. Mae hyn yn cymharu â 10 plaid yn 2017 a gofnododd £123,322,064 o incwm a £122,193,805 o wariant.
| Plaid | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|
| Y Blaid Lafur | £45,667,000 | £46,322,000 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £34,270,000 | £36,378,000 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £6,202,599 | £6,537,508 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £4,748,450 | £3,629,097 |
| Y Blaid Werdd | £1,994,824 | £2,226,708 |
| Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) | £1,516,773 | £907,929 |
| Y Blaid Gydweithredol | £1,191,694 | £1,158,875 |
| Plaid Cydraddoldeb Merched | £943,067 | £963,333 |
| Plaid Cymru | £692,750 | £731,398 |
| Plaid Werdd yr Alban | £353,373 | £314,954 |
| For Britain Movement | £253,918 | £224,676 |
Mae cyfrifon ariannol llawn pob un o'r 11 o bleidiau gwleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn, ochr yn ochr â chyfrifon ariannol pedair plaid wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon sydd ag incwm a gwariant o fwy na £250,000.
Incwm a gwariant unedau cyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' â'r Comisiwn Etholiadol, sef unedau cyfansoddol neu gysylltiedig plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i'r brif blaid.
Gwnaeth wyth uned gyfrifyddu ym Mhrydain Fawr gofnodi incwm neu wariant o fwy na £250,000. Cofnododd yr unedau cyfrifyddu hyn gyfanswm o £7,817,828 o incwm a £7,334,168 o wariant.
| Plaid | Uned gyfrifyddu | Incwm | Gwariant |
|---|---|---|---|
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | Lloegr | £2,856,822 | £2,854,460 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | Grŵp SNP yn Senedd San Steffan | £1,353,435 | £1,293,020 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | Swyddfa Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,249,294 | £1,163,602 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | ALDC | £695,482 | £705,158 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Bromley a Chislehurst | £569,694 | £192,424 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Dinasoedd Llundain a San Steffan | £541,115 | £565,754 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | Yr Alban | £292,561 | £267,873 |
| Y Blaid Lafur | Plaid Llafur yr Alban | £259,425 | £291,877 |
Mae cyfrifon ariannol pob un o'r unedau cyfrifyddu hyn ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cymharu â chyfansymiau mewn blynyddoedd blaenorol
Mae'r ffigurau sy'n cymharu'r cyfrifon ariannol diweddaraf hyn ar gyfer pleidiau gwleidyddol a'u hunedau cyfrifyddu â'r rhai ar gyfer 2017 a 2016 i'w gweld isod.
Pleidiau gwleidyddol
| Incwm/Gwariant | 2016 | 2017 | 2018 |
|---|---|---|---|
| Incwm | £101,250,438 | £123,322,064 | £97,141,698 |
| Gwariant | £94,250,824 | £122,193,805 | £98,663,080 |
Unedau cyfrifyddu
| Incwm/Gwariant | 2016 | 2017 | 2018 |
|---|---|---|---|
| Incwm | £8,394,396 | £7,991,304 | £7,817,828 |
| Gwariant | £7,984,177 | £7,918,629 | £7,334,168 |
Cyflwyno'n hwyr
Methodd un blaid wleidyddol ym Mhrydain Fawr â chyflwyno ei chyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 7 Gorffennaf 2019. Bydd y Comisiwn yn adolygu'r methiant hwn yn unol â'i Bolisi Gorfodi sefydledig.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg ar 020 7271 0704 neu anfonwch e-bost i [email protected]. Er mwyn cysylltu y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414.
Nodiadau i olygyddion:
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
3. Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a'u hunedau cyfrifyddu yng Ngogledd Iwerddon sydd ag incwm a gwariant o fwy na £250,000 wedi cael eu cyhoeddi heddiw. Mae'r datganiad i'r wasg wedi cael ei gyhoeddi heddiw hefyd.
4. Ni ddylid ystyried bod y ffaith y rhoddwyd Datganiad Cyfrifon ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd.
5. Mae'r ffigurau ar gyfer incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Gweler ein cronfa ddata ar-lein am yr union gyfansymiau.
6. Nodir y ffordd yr ymdriniwyd â methiannau i gyflwyno Datganiad Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiad o achosion sydd wedi'u cau.
7. Cyhoeddwyd manylion pleidiau ac unedau cyfrifyddu ag incwm neu wariant o lai na £250,000 yn 2018 y mis diwethaf ac maent ar gael ar ein gwefan.