Datganiad ar gasgliad ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Datganiad ar gasgliad ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gan roi sylwadau ar ddiwedd ymchwiliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:

“Rydym yn difaru nad oedd amddiffyniadau digonol ar waith i atal yr ymosodiad seiber ar y Comisiwn. Fel y mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi’i nodi a’i groesawu, ers yr ymosodiad rydym wedi gwneud newidiadau i’n dull, ein systemau a’n prosesau i gryfhau diogelwch a gwydnwch ein systemau a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y maes hwn. 

“Ers yr ymosodiad seiber, mae arbenigwyr diogelwch a diogelwch data – gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ac arbenigwyr trydydd parti – wedi bod yn archwilio’n fanwl y mesurau diogelwch rydym wedi’u rhoi ar waith ac mae’r mesurau hyn yn ennyn eu hyder. 

“Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein systemau seiber yn diweddaru'r un mor gyflym â bygythiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r risgiau sy’n wynebu ein prosesau etholiadol a’n sefydliadau. Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau’r DU a’r gymuned etholiadol ehangach i ddiogelu diogelwch y system.”

Cefndir

  • Nid yw'r data a gyrchwyd pan ddigwyddodd yr ymosodiad hwn yn effeithio ar sut mae pobl yn cofrestru, yn pleidleisio, neu'n cymryd rhan mewn prosesau democrataidd. Nid oes ganddo effaith ar sut y caiff cofrestrau etholiadol eu rheoli neu sut y caiff etholiadau eu cynnal.