Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd

Summary

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf, sy'n rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.

Ymgymeriadau gorfodi

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn 2017, nododd y Comisiwn nad oedd y ffurflenni gwariant a gyflwynwyd gan y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydymffurfio â'r rheolau'n llawn. Roedd ffurflenni gwariant y ddwy blaid yn anghywir ac roedd rhai anfonebau ar goll o ffurflenni'r Ceidwadwyr.  Gwnaeth y ddwy blaid dalu rhai anfonebau yn hwyrach na'r dyddiad a ganiateir yn ôl y gyfraith.

Ar ôl i'r Comisiwn ddechrau ymchwilio i'r mater, penderfynwyd mai'r cam mwyaf priodol i'w gymryd oedd argymell bod pob plaid yn ymrwymo i 'ymgymeriadau gorfodi' i wella'r gweithdrefnau cydymffurfio, gan ei bod yn ymddangos bod methiannau ym mhob achos i ddelio â gwariant etholiad yn deillio o broblemau systematig. Mae'r rhain yn gytundebau statudol â'r Comisiwn lle y mae plaid yn ymrwymo i gymryd camau penodol o fewn amserlen y cytunir arni, er mwyn unioni'r methiannau hyd y gellir a'u hatal rhag codi eto.

Mae manylion penodol yr ymgymeriadau hynny yn wahanol ym mhob achos ond mae'r ddau ohonynt yn cynnwys camau gweithredu i wella systemau a gweithdrefnau cydymffurfio; a gwella'r canllawiau a hyfforddiant i'r staff er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau.

Wrth roi sylwadau ar y penderfyniad i gytuno ar ymgymeriadau gorfodi, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Louise Edwards:

"Rhaid i bleidiau gwleidyddol sy'n ymladd etholiadau ac sy'n gwario miliynau o bunnoedd ar geisio darbwyllo pleidleiswyr i'w cefnogi, sicrhau eu bod yn cyflwyno ffurflenni gwariant cyflawn a chywir. Mae gan y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol hanes o fethu â gwneud hyn. Yn hytrach na dirwyo'r pleidiau, rydym wedi penderfynu cydweithio â nhw i wella eu cydymffurfiaeth drwy ei gwneud hi'n ofynnol iddynt wario eu harian ar wella systemau a hyfforddiant i'r staff."

Further information on enforcement undertakings

Bydd y Comisiwn yn monitro cynnydd y ddwy blaid yn erbyn amserlenni y cytunir arnynt. Os byddant yn cydymffurfio â'r ymgymeriadau, ni chaiff unrhyw gosbau eu rhoi mewn perthynas â'r problemau a nodir. Os na fyddant yn cydymffurfio ag ymgymeriad, mae'r hawl gennym i ailagor ein hymchwiliadau.

Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Penderfyniad Canlyniad
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Uned gyfrifyddu Beckenham)  Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr Cosb ariannol amrywiadwy o £400 Taliad yn ddyledus ar 26 Awst 2019 
Y Democratiaid Rhyddfrydol (Uned gyfrifyddu Southwark) Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr Cosb ariannol amrywiadwy o £400 Talwyd ar 6 Awst 2019
Michelle McIlveen Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon) (derbynnydd a reoleiddir)  Methu â rhoi gwybod am rodd o fewn 30 diwrnod  Cosb ariannol benodedig o £200 Talwyd ar 2 Gorffennaf 2019
Jonathan Buckley Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon) (derbynnydd a reoleiddir)  Methu â rhoi gwybod am rodd o fewn 30 diwrnod Cosb ariannol benodedig o £200 Talwyd ar 1 Gorffennaf 2019
William Humphrey Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon) (derbynnydd a reoleiddir) Methu â rhoi gwybod am rodd o fewn 30 diwrnod Cosb ariannol benodedig o £200 Talwyd ar 1 Gorffennaf 2019
Andrea Venzon (ymgeisydd rhanbarth Llundain, etholiad Senedd Ewrop, Mai 2019)  Methu â rhoi gwybod am roddion gan roddwyr nas caniateir o fewn 30 diwrnod  Fforffediad gwirfoddol o roddion (sy'n werth dros £1,360)  Fforffediad gwirfoddol o roddion 

Derbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon

Mae'r Comisiwn hefyd wedi cynnal tri ymchwiliad i fethiant tri derbynnydd a reoleiddir i gydymffurfio â PPERA, sy'n ymwneud â rhoddion a dderbyniwyd cyn 1 Gorffennaf 2017. Mae wedi rhoi cosbau o £250, £300 a £600 i'r tri derbynnydd a reoleiddir dan sylw. Y terfyn amser ar gyfer gwneud taliad neu apelio yw 9 Medi 2019.

Mae deddfwriaeth yn parhau i atal y Comisiwn rhag datgelu unrhyw wybodaeth am y rhoddion a wnaed i dderbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon cyn 1 Gorffennaf 2017 (adran 71E o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).

Wrth roi sylwadau ar y dirwyon a roddwyd i dderbynwyr a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Louise Edwards:

"Yn anffodus, ni allwn ddatgelu unrhyw wybodaeth am y rhoddion a wnaed cyn Gorffennaf 2017. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ein galluogi i gyhoeddi gwybodaeth am roddion o Ionawr 2014. Byddai hyn yn rhoi eglurder a hyder i bleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon."

Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac na roddwyd sancsiynau

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Penderfyniad Canlyniad
Save Our NHS De Swydd Efrog (plaid wleidyddol sydd wedi datgofrestru)  Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr Dim sancsiwn Wedi cau heb gamau pellach

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Crëwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.

  1. Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein.
  2. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.